The Bible Software
Actau'r Apostolion · Beibl (1620)

Actau'r Apostolion 28

1Ac wedi iddynt ddianc, yna y gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys.

2A’r barbariaid a ddangosasant i ni fwyneidd-dra nid bychan: oblegid hwy a gyneuasant dân, ac a’n derbyniasant ni oll oherwydd y gawod gynrhychiol, ac oherwydd yr oerfel.

3Ac wedi i Paul gynnull ynghyd lawer o friwydd, a’u dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan o’r gwres, ac a lynodd wrth ei law ef.

4A phan welodd y barbariaid y bwystfil yng nghrog wrth ei law ef, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Yn sicr llawruddiog yw’r dyn hwn, yr hwn, er ei ddianc o’r môr, ni adawodd dialedd iddo fyw.

5Ac efe a ysgydwodd y bwystfil i’r tân, ac ni oddefodd ddim niwed.

6Ond yr oeddynt hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo, neu syrthio yn ddisymwth yn farw. Eithr wedi iddynt hir ddisgwyl, a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai duw oedd efe.

7Ynghylch y man hwnnw yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys, a’i enw Publius, yr hwn a’n derbyniodd ni, ac a’n lletyodd dridiau yn garedig.

8A digwyddodd, fod tad Publius yn gorwedd yn glaf o gryd a gwaedlif: at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn, a gweddïo, efe a ddododd ei ddwylo arno ef, ac a’i hiachaodd.

9Felly wedi gwneuthur hyn, y lleill hefyd y rhai oedd a heintiau arnynt yn yr ynys, a ddaethant ato, ac a iachawyd:

10Y rhai hefyd a’n parchasant ni â llawer o urddas; a phan oeddem yn ymadael, hwy a’n llwythasant ni â phethau angenrheidiol.

11Ac wedi tri mis, yr aethom ymaith mewn llong o Alexandria, yr hon a aeafasai yn yr ynys; a’i harwydd hi oedd Castor a Pholux.

12Ac wedi ein dyfod i Syracusa, ni a drigasom yno dridiau.

13Ac oddi yno, wedi myned oddi: amgylch, ni a ddaethom i Regium. Ac ar ôl un diwrnod y deheuwynt a chwythodd, ac ni a ddaethom yr ail dydd i Puteoli:

14lle y cawsom frodyr, ac y dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod: ac felly ni a ddaethom i Rufain.

15Ac oddi yno, pan glybu’r brodyr amdanom, hwy a ddaethant i’n cyfarfod ni hyd Appii-fforum, a’r Tair Tafarn: y rhai pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Dduw, ac a gymerodd gysur.

16Eithr pan ddaethom i Rufain, y canwriad a roddes y carcharorion at ben-capten y llu; eithr cenhadwyd i Paul aros wrtho ei hun, gyda milwr oedd yn ei gadw ef.

17A digwyddodd, ar ôl tridiau, alw o Paul ynghyd y rhai oedd bennaf o’r Iddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd, efe a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, er na wneuthum i ddim yn erbyn y bobl, na defodau y tadau, eto mi a roddwyd tri garcharor o Jerwsalem i ddwylo’r Rhufeinwyr.

18Y rhai, wedi darfod fy holi, a fynasent fy ngollwng ymaith, am nad oedd dim achos angau ynof.

19Eithr am fod yr Iddewon yn dywedyd yn erbyn hyn, mi a yrrwyd i apelio at Gesar; nid fel petai gennyf beth i achwyn ar fy nghenedl.

20Am yr achos hwn gan hynny y gelwais amdanoch chwi, i’ch gweled, ac i ymddiddan â chwi: canys o achos gobaith Israel y’m rhwymwyd i a’r gadwyn hon.

21A hwythau a ddywedasant wrtho, Ni dderbyniasom ni lythyrau o Jwdea yn dy gylch di, ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o’r brodyr a ddaeth oddi yno ddim drwg amdanat ti,

22Ond yr ydym ni yn deisyf cael clywed gennyt ti beth yr ydwyt yn ei synied; oblegid am y sect hon, y mae yn hysbys i ni fod ym mhob man yn dywedyd yn ei herbyn.

23Ac wedi iddynt nodi diwrnod iddo, llawer a ddaeth ato ef i’w lety; i’r rhai y tystiolaethodd ac yr eglurodd efe deyrnas Dduw, gan gynghori iddynt y pethau am yr Iesu, allan o gyfraith Moses, a’r proffwydi, o’r bore hyd yr hwyr.

24A rhai a gredasant i’r pethau a ddywedasid, a rhai ni chredasant.

25Ac a hwy yn anghytûn â’i gilydd, hwy a ymadawsant, wedi i Paul ddywedyd un gair, mai da y llefarodd yr Ysbryd Glân trwy Eseias y proffwyd wrth ein tadau ni,

26Gan ddywedyd, Dos at y bobl yma, a dywed, Yn clywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch:

27Canys brasawyd calon y bobl hyn, a thrwm y clywsant â’u clustiau, a’u llygaid a gaeasant; rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’r galon, a dychwelyd, ac i mi eu hiacháu hwynt.

28Bydded hysbys i chwi gan hynny, anfon iachawdwriaeth Duw at y Cenhedloedd, a hwy a wrandawant.

29Ac wedi iddo ddywedyd hyn, ymadawodd yr Iddewon, a chanddynt ddadl mawr yn eu plith.

30A Phaul a arhoes ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun, ac a dderbyniodd bawb a’r oedd yn dyfod i mewn ato,

31Gan bregethu teyrnas Dduw, ac athrawiaethu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyfder, yn ddiwahardd.

← Actau'r Apostolion 27Read In The App, Free →Romans 1 →

Study Actau'r Apostolion 28

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728