The Bible Software
Llyfr Amos · Beibl (1620)

Llyfr Amos 3

1Gwrandewch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD i’ch erbyn chwi, plant Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o wlad yr Aifft, gan ddywedyd,

2Chwi yn unig a adnabûm o holl deuluoedd y ddaear: am hynny ymwelaf â chwi am eich holl anwireddau.

3A rodia dau ynghyd, heb fod yn gytûn?

4A rua y llew yn y goedwig, heb ganddo ysglyfaeth? a leisia cenau llew o’i ffau, heb ddal dim?

5A syrth yr aderyn yn y fagl ar y ddaear, heb fod croglath iddo? a gyfyd un y fagl oddi ar y ddaear, heb ddal dim?

6A genir utgorn yn y ddinas, heb ddychrynu o’r bobi? a fydd niwed yn y ddinas, heb i’r ARGLWYDD ei wneuthur?

7Canys ni wna yr ARGLWYDD ddim, a’r nas dangoso ei gyfrinach i’w weision y proffwydi.

8Rhuodd y llew, pwy nid ofna? yr Arglwydd IÔR a lefarodd, pwy ni phroffwyda?

9Cyhoeddwch o fewn y palasau yn Asdod, ac yn y palasau yng ngwlad yr Aifft, a dywedwch, Deuwch ynghyd ar fynyddoedd Samaria, a gwelwch derfysgoedd lawer o’i mewn, a’r gorthrymedigion yn ei chanol hi.

10Canys ni fedrant wneuthur uniondeb, medd yr ARGLWYDD: pentyrru y maent drais ac ysbail yn eu palasau.

11Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Gelyn fydd o amgylch y tir; ac efe a dynn i lawr dy nerth oddi wrthyt, a’th balasoedd a ysbeilir.

12Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Fel yr achub y bugail o safn y llew y ddwygoes, neu ddarn o glust, felly yr achubir meibion Israel y rhai sydd yn trigo yn Samaria mewn cwr gwely, ac yn Damascus mewn gorweddle.

13Gwrandewch, a thystiolaethwch yn nhŷ Jacob, medd yr ARGLWYDD DUW, DUW y lluoedd,

14Mai y dydd yr ymwelaf ag anwiredd Israel arno ef, y gofwyaf hefyd allorau Bethel: a chyrn yr allor a dorrir, ac a syrthiant i’r llawr.

15A mi a drawaf y gaeafdy a’r hafdy; a derfydd am y tai ifori, a bydd diben ar y teiau mawrion, medd yr ARGLWYDD.

← Llyfr Amos 2Read In The App, Free →Llyfr Amos 4 →

Study Llyfr Amos 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789