Llyfr Exodus 23:33
Na âd iddynt drigo yn dy wlad; rhag iddynt beri i ti bechu i’m herbyn: canys os gwasanaethi di eu duwiau hwynt, dïau y bydd hynny yn dramgwydd i ti.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
32Na wna ammod â hwynt, nac â’u duwiau.
Cross References
Deuteronomy 7:2A rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt o’th flaen di, a tharo o honot ti hwynt: gan ddifrodi difroda hwynt; na wna gyfammod â hwynt, ac na thrugarhâ wrthynt.
Deuteronomy 12:30Gwylia arnat rhag ymfaglu o honot ar eu hol hwynt, wedi eu dinystrio hwynt o’th flaen di; a rhag ymorol am eu duwiau hwynt, gan ddywedyd, Pa fodd y gwasanaethodd y cenhedloedd hyn eu duwiau? myfi a wnaf felly hefyd.
Joshua 10:40¶ Felly y tarawodd Josua yr holl fynydd-dir, a’r dehau, y gwastadedd hefyd, a’r bronnydd, a’u holl frenhinoedd: ni adawodd efe un y’ngweddill; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl, fel y gorchymynasai Arglwydd Dduw Israel.
Judges 2:2Na wnewch chwithau gyfamod â thrigolion y wlad hon; ond bwriwch i lawr eu hallorau: eto ni wrandawsoch ar fy llef: paham y gwnaethoch hyn?
1 Samuel 18:21A dywedodd Saul, Rhoddaf hi iddo ef, fel y byddo hi iddo yn fagi, ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef. Felly Saul a ddywedodd wrth Dafydd, Trwy un o’r ddwy y byddi fab yng " nghyfraith i mi heddiw. º
2 Chronicles 33:9Felly Manasse a wnaeth i Jwda a thrigolion Jerwsalem gyfeiliorni, a gwneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr ARGLWYDD o flaen meibion Israel.