The Bible Software
Yr Efengyl yn ôl Mathew · Beibl (1620)

Yr Efengyl yn ôl Mathew 11

1A bu, pan orffennodd yr Iesu orchymyn i’w ddeuddeg disgybl, efe a aeth oddi yno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy.

2A Ioan, pan glybu yn y carchar weithredoedd Crist, wedi danfon dau o’i ddisgyblion,

3A ddywedodd wrtho, Ai tydi yw’r hwn sydd yn dyfod, ai un arall yr ydym yn ei ddisgwyl?

4A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch.

5Y mae’r deillion yn gweled eilwaith, a’r cloffion yn rhodio, a’r cleifion gwahanol wedi eu glanhau, a’r byddariaid yn clywed; y mae’r meirw yn cyfodi, a’r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt.

6A dedwydd yw’r hwn ni rwystrir ynof fi.

7¶ Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan. Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych amdano? ai corsen yn ysgwyd gan wynt?

8Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? ai dyn wedi ei wisgo â dillad esmwyth? wele, y rhai sydd yn gwisgo dillad esmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent.

9Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? ai proffwyd? ie, meddaf i chwi, a mwy na phroffwyd:

10Canys hwn ydyw efe am yr hwn yr ysgrifennwyd, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen.

11Yn wir meddaf i chwi, Ymhlith plant gwragedd, ni chododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr: er hynny yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd, sydd fwy nag ef.

12Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, yr ydys yn treisio teyrnas nefoedd, a threiswyr sydd yn ei chipio hi.

13Canys yr holl broffwydi a’r gyfraith a brofiwydasant hyd Ioan.

14Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw Eleias, yr hwn oedd ar ddyfod.

15Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

16¶ Eithr i ba beth y cyffylebaf â’r genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd, ac yn llefain wrth eu cyfeillion,

17Ac yn dywedyd, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad i chwi, ac ni chwynfanasoch.

18Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed; ac meddant, Y mae cythraul ganddo.

19Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed, ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. A doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun.

20¶ Yna y dechreuodd efe edliw i’r dinasoedd yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o’i weithredoedd nerthol ef, am nad edifarhasent:

21Gwae di, Chorasin! gwae di, Beth-saida! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm mewn sachliain a lludw.

22Eithr meddaf i chwi, Esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn nydd y farn, nag i chwi.

23A thydi, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern: canys pe gwnelsid yn Sodom y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynot ti, hi a fuasai yn aros hyd heddiw.

24Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Y bydd esmwythach i dir Sodom yn nydd y farn, nag i ti.

25¶ Yr amser hwnnw yr atebodd yr Iesu, ac y dywedodd, I ti yr ydwyf yn diolch, O Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio’r pethau hyn rhag y doethion a’r rhai deallus, a’u datguddio ohonot i rai bychain:

26Ie, O Dad, canys felly y rhyngodd fodd i ti.

27Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a’r hwn yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo;,

28¶ Deuwch ataf fi bawb a’r y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythaf arnoch.

29Cymerwch fy iau arnoch, a dysgwch gennyf; canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon: a chwi a gewch orffwystra i’ch eneidiau:

30Canys fy iau sydd esmwyth, a’m baich sydd ysgafn.

← Yr Efengyl yn ôl Mathew 10Read In The App, Free →Yr Efengyl yn ôl Mathew 12 →

Study Yr Efengyl yn ôl Mathew 11

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesThe Fourfold GospelJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728