The Bible Software
Yr Efengyl yn ôl Mathew · Beibl (1620)

Yr Efengyl yn ôl Mathew 19

1A bu, pan orffennodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilea, ac a ddaeth i derfynau Jwdea, tu hwnt i’r Iorddonen:

2A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef; ac efe a’u hiachaodd hwynt yno.

3¶ A daeth y Phariseaid ato, gan ei demtio, a dywedyd wrtho, Ai cyfreithlon i ŵr ysgar â’i wraig am bob achos?

4Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch, i’r hwn a’u gwnaeth o’r dechrau, eu gwneuthur hwy yn wryw a benyw?

5Ac efe a ddywedodd, Oblegid hyn y gad dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a’r ddau fyddant yn un cnawd.

6Oherwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, nac ysgared dyn.

7Hwythau a ddywedasant wrtho. Paham gan hynny y gorchmynnodd Moses roddi llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith?

8Yntau a ddywedodd wrthynt, Moses oherwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ysgar â’ch gwragedd: eithr o’r dechrau nid felly yr oedd.

9Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ysgaro â’i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae’r hwn a briodo’r hon a ysgarwyd, yn torri priodas.

10¶ Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, Os felly y mae’r achos rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreica.

11Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt.

12Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam, ac y mae eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn eunuchiaid; ac y mae eunuchiaid a’u gwnaethant eu hun yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, deibynied.

13¶ Yna y dygwyd ato blant bychain, fel y rhoddai ei ddwylo arnynt, ac y gweddïai: a’r disgyblion a’u ceryddodd hwynt.

14A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod ataf fi: canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd.

15Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno.

16¶ Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragwyddol?

17Yntau a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchmynion.

18Efe a ddywedodd wrtho yntau. Pa rai? A’r Iesu a ddywedodd, Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth,

19Anrhydedda dy dad a’th fam, a châr dy gymydog fel ti dy hun.

20Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o’m hieuenctid: beth sydd yn eisiau i mi eto?

21Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi.

22A phan glybu’r gŵr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen da lawer.

23¶ Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Yn wir y dywedaf i chwi, mai yn anodd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd.

24A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.

25A phan glybu ei ddisgyblion ef hyn, synnu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig?

26A’r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion amhosibl yw hyn; ond gyda Duw pob peth sydd bosibl.

27¶ Yna Pedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di: beth gan hynny a fydd i ni?

28A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi, y rhai a’m canlynasoch i, yn yr adenedigaeth, pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.

29A phob un a’r a adawodd dai neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cymaint, a bywyd tragwyddol a etifedda efe.

30Ond llawer o’r rhai blaenaf a fyddant yn olaf, a’r rhai olaf yn flaenaf.

← Yr Efengyl yn ôl Mathew 18Read In The App, Free →Yr Efengyl yn ôl Mathew 20 →

Study Yr Efengyl yn ôl Mathew 19

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesThe Fourfold GospelJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728