The Bible Software
Llyfr Hosea · Beibl (1620)

Llyfr Hosea 3

1Yna yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Dos eto, câr wraig, (hoff gan ei chyfaill, a hithau wedi torri ei phriodas,) yn ôl cariad yr ARGLWYDD ar feibion Israel, a hwythau yn edrych ar ôl duwiau dieithr, ac yn hoffi costrelau gwin.

2A mi a’i prynais hi i mi er pymtheg o arian, ac er homer o haidd, a hanner homer o haidd:

3A dywedais wrthi, Aros amdanaf lawer o ddyddiau; na phuteinia, ac na fydd i ŵr arall: a minnau a fyddaf felly i tithau.

4Canys llawer o ddyddiau yr erys meibion Israel heb frenin, a heb dywysog, a heb aberth, a heb ddelw, a heb effod, a heb deraffim.

5Wedi hynny y dychwel meibion Israel, ac y ceisiant yr ARGLWYDD eu Duw, a Dafydd eu brenin; ac a barchant yr ARGLWYDD a’i ddaioni yn y dyddiau diwethaf.

← Llyfr Hosea 2Read In The App, Free →Llyfr Hosea 4 →

Study Llyfr Hosea 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314