The Bible Software
Llyfr Hosea · Beibl (1620)

Llyfr Hosea 7

1A mi yn ewyllysio iacháu Israel, datguddiwyd anwiredd Effraim, a drygioni Samana: canys gwnânt ffalster, a’r lleidr a ddaw i mewn, a mintai o ysbeilwyr a anrheithia oddi allan.

2Ac nid ydynt yn meddwl yn eu calonnau fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt: weithian eu gweithredoedd eu hun a’u hamgylchynodd: y maent gerbron fy wyneb.

3Llawenhânt y brenin a’u drygioni, a’r tywysogion a’u celwyddau.

4Pawb ohonynt sydd yn torri priodas, fel ffwrn wedi ei thwymo gan y pobydd, yr hwn a baid â chodi wedi iddo dylino y toes, hyd oni byddo wedi ei lefeinio.

5Yn niwrnod ein brenin y tywysogion a’i gwnaethant yn glaf â chostrelau gwin; estynnodd ei law gyda gwatwarwyr.

6Fel yr oeddynt yn cynllwyn, darparasant eu calon fel ffwrn: eu pobydd a gwsg ar hyd y nos; y bore y llysg fel fflam dân.

7Pawb ohonynt a wresogant fel y ffwrn, ac a ysant eu barnwyr: eu holl frenhinoedd a gwympasant, heb un ohonynt yn galw arnaf fi.

8Effraim a ymgymysgodd â’r bobloedd; Effraim sydd fel teisen heb ei throi.

9Estroniaid a fwytânt ei gryfder, ac nis gŵyr efe: ymdaenodd penwynni ar hyd-ddo, ac nis gwybu efe.

10Ac y mae balchder Israel yn tystiolaethu yn ei wyneb; ac er hyn oll ni throant at yr ARGLWYDD eu Duw, ac nis ceisiant ef.

11Effraim sydd fel colomen ynfyd heb galon; galwant ar yr Aifft, ânt i Asyria.

12Pan elont, taenaf fy rhwyd drostynt, a thynnaf hwynt i lawr fel ehediaid y nefoedd: cosbaf hwynt, fel y clybu en cynulleidfa hwynt.

13Gwae hwynt! canys ffoesant oddi wrthyf: diinstr arnynt; oherwydd gwnaethant gamwedd i’m herbyn er i mi eu gwared hwynt, eto hwy a ddywedasaot gelwydd arnaf fi.

14Ac ni lefasant arnaf â’u calon, pan udasant ar eu gwelyau: am ŷd a melys win yr ymgasglant; ciliasant oddi wrthyf.

15Er i mi rwymo a nerthu eu breichiau hwynt, eto meddyliasant ddrwg i mi.

16Dychwelasant, nid at y Goruchaf: y maent fel bwa twyllodrus: eu tywysogion a syrthiant gan y cleddyf am gynddaredd eu tafod. Dyma eu gwatwar hwynt yng ngwlad yr Aifft.

← Llyfr Hosea 6Read In The App, Free →Llyfr Hosea 8 →

Study Llyfr Hosea 7

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314