The Bible Software
Llyfr Hosea · Beibl (1620)

Llyfr Hosea 12

1Effraim sydd yn ymborthi ar wynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain: ar hyd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr; amod a wnaethant â’r Asyriaid; ac olew a ddygwyd i’r Aifft.

2Ac y mae gan yr ARGLWYDD gwyn ar Jwda; ac efe a ymwâl â Jacob yn ôl ei ffyrdd: yn ôl ei weithredoedd y tâl iddo y pwyth.

3Yn y groth y daliodd efe sawdl ei frawd, ac yn ei nerth y cafodd allu gyda Duw.

4Ie, cafodd nerth ar yr angel, a gorchfygodd; wylodd, ac ymbiliodd ag ef: cafodd ef yn Bethel, ac yno yr ymddiddanodd â ni;

5Sef ARGLWYDD DDUW y llu oedd; yr ARGLWYDD yw ei goffadwriaeth.

6Tro dithau at dŷ DDUW; cadw drugaredd a barn, a disgwyl wrth dy DDUW bob amser.

7Marsiandwr yw efe; yn ei law ef y mae cloriannau twyll: da ganddo orthrymu.

8A dywedodd Effraim, Eto mi a gyfoethogais, cefais i mi olud; ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof, a fyddai bechod.

9A mi, yr hwn yw yr ARGLWYDD dy DDUW a’th ddug o dir yr Aifft, a wnaf i ti drigo eto mewn pebyll, megis ar ddyddiau uchel ŵyl.

10Ymddiddenais trwy y proffwydi, a mi a amlheais weledigaethau, ac a arferais gyffelybiaethau, trwy law y proffwydi.

11A oes anwiredd yn Gilead? yn ddiau gwagedd ydynt; yn Gilgal yr aberthant ychen: eu hallorau hefyd sydd fel carneddau yn rhychau y meysydd.

12Ffodd Jacob hefyd i wlad Syria, a gwasanaethodd Israel am wraig, ac am wraig y cadwodd ddefaid.

13A thrwy broffwyd y dug yr ARGLWYDD Israel o’r Aifft, a thrwy broff¬wyd y cadwyd ef.

14Effraim a’i cyffrôdd ef i ddig ynghyd â chwerwedd; am hynny y gad efe; ei waed ef arno, a’i Arglwydd a dâl iddo ei waradwydd.

← Llyfr Hosea 11Read In The App, Free →Llyfr Hosea 13 →

Study Llyfr Hosea 12

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314