The Bible Software
2 Corinthians · Beibl (1620)

2 Corinthians 4

1AM hynny gan fod i ni y weinidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu;

2Eithr ni a ymwrthodasoffl a chuddiiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn cyftwystra, na thrin gair Duw yn dwyllodrus, eithr trwy eglurhad y gwirionedd yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw..’.;

3Ac os cuddiedig yw ein hefengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig:

4Yn y rhai y dallodd duw’r byd hwn feddyliau y rhai di-gred, fel na thywynnai iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw.

5Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd; a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu.

6Canys Duw, yr hwn a orchmynnodd i’r goleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist.

7Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y byddai godid-owgrwydd y gallu o Dduw, ac nid ohonom ni.

8Ym mhob peth yr ym yn gystuddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng gyngor, ond nid yn ddiobaith;

9Yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr adael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ein difetha;

10Gan gylcharwain yn y corff bob amser farweiddiad yr Arglwydd Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein corff ni.

11Canys yr ydys yn ein rhoddi ni, y rhai ydym yn fyw, yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni.

12Felly y mae angau yn gweithio ynom ni, ac einioes ynoch chwithau. ISA chan fod gennym yr un ysbryd ffydd, yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd, Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru;

13

14Gan wybod y bydd i’r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd trwy Iesu, a’n gosod gerbron gyda chwi.

15Canys pob peth sydd er eich mwyn chwi, fel y byddo i ras wedi amlhau, trwy ddiolchgarwch llaweroedd, ymhelaethu i ogoniant Duw.

16Oherwydd paham nid ydym yn pallu; eithr er llygru ein dyn oddi allan, er hynny y dyn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd.

17Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant i ni;

18Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragwyddol.

← 2 Corinthians 3Read In The App, Free →2 Corinthians 5 →

Study 2 Corinthians 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213