2 Corinthians 6
1Aninnau, gan gydweithio, ydym yn atolwg i chwi, na dderbynioch ras Duw yn ofer:
2(Canys y mae efe yn dywedyd, i! 33 Mewn amser cymeradwy y’th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais: wele, yn awr yr amser cymeradwy; wele, yn awr ddydd yr iachawdwriaeth.)
3Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, fel na feier ar y weinidogaeth:;
4Eithr gan ein dangos ein hunain ym inhob peth fel gweinidogion Duw, mewn amynedd mawr, mewn cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyngderau,
5Mewn gwialenodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn poenau, mewn gwyliadwriaethau, mewn ymprydiau,;
6Mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hirymaros, mewn tiriondeb, yn yr Ysbryd Glân, mewn cariad diragrith,
7Yng ngair y gwirionedd, yn nerth Duw, trwy arfau cyfiawnder ar ddeau ac ar aswy,
8Trwy barch ac amarch, trwy anghlod a chlod: megis twyllwyr, ac er hynny yn eirwir;
9Megis anadnabyddus, ac er hynny yn adnabyddus; megis yn rneirw, ac wele, byw ydym; megis wedi ein ceryddu, a heb ein lladd;
10Megis wedi ein tristau, ond yn wastad yn llawen; megis yn diodion, ond yn cyfoethogi llawer; megis heb ddim gennym, ond eto yn meddiannu pob peth.
11Ein genau ni a agorwyd wrthych chwi, O Gorinthiaid, ein calon ni a ehangwyd.
12Ni chyfyngwyd amoch ynom ni, eithr cyfyngwyd arnoch yn eich yffl-ysgaroedd eich hunain.
13Ond am yr un tal, (yr ydwyf yn dywedyd megis wrth fy mhlant,) ehanger chwithau hefyd.
14Na ieuer chwi yn anghymharus gyda’r rhai di-gred; canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder acanghyfiawnder? a pha gymundeb rhwng goleuni a thy-wyllwch?
15A pha gysondeb sydd rhwng Crist a;- Belial? neu pa ran sydd i gredadun gydag anghredadun?
16A pha gydfod sydd rhwng teflil Duw ac eilunod? canys teml y Duw byw ydych chwi; fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysg, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi.
17Oherwydd paham deuwch allan o’u canol hwy, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd, ac na chynyrddwch a dim aflan; ac mi a’ch derbyniaf chwi, l 8 Ac a fyddaf yn Dad i chwi, a chwithau a fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi, medd yr Arglwydd Hollalluog.