2 Corinthians 2
1EITHR mi a fernais hyn ynof fy hunan, na ddelwn drachefn mewn tristwch: atoch.
2Oblegid os myfi a’ch tristaf chwi, pwy yw’r hwn a’m llawenha i, ond yr hwn a dristawyd gennyf fi?
3Ac mi a ysgrifennais hyn yma atoch, fel, pan ddelwn, na chawn dristwch oddi wrth y rhai y dylwn lawenhau; gan hyderu amdanoch oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll.
4Canys o orthrymder mawr, a chyfyngder calon, yr ysgrifennais atoch dagrau lawer, nid fel y’ch tristeid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag atoch chwi.
5Ac os gwnaeth neb dristau, ni wnaeth efe i mi dristau, ond o ran; rhag i mi bwyso arnoch chwi oll.
6Digon i’r cyfryw ddyn y cerydd yma, a ddaeth oddi wrth laweroedd.
7Yn gymaint ag y dylech, yn y gwrthwyneb, yn hytrach faddau iddo, a’i ddiddanu; rhag llyncu’r cyfryw gan ormod tristwch.
8Am hynny yr ydwyf yn atolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag ato ef.
9Canys er mwyn hyn hefyd yr ysg¬rifennais, fel y gwybyddwn brawf ohonoch, a ydych ufudd ym mhob peth.
10I’r hwn yr ydych yn maddau dim iddo, yr wyf finnau: canys os maddeuais ddim, i’r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, yng ngolwg Crist;
11Fel na’n siomer gan Satan: canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef.
12Eithr gwedi i mi ddyfod i. Dioas,i bregethu efengyl Crist, ac wedi agoryd i mi ddrws gan yr Arglwydd, -
13Ni chefais lonydd yn fy ysbryd» an na chefais Titus fy mrawd: eithr gan ganu’n iach iddynt, mi a euthum ymaith i Facedonia.
14Ond i Dduw y byddo’r diotch, yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yng Nghrist, ac sydd yn eglurhau; arogledd ei wybodaeth trwom ni yro mhob lle.
15Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig:
16I’r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth; ac i’r lleill, yn arogt bywyd i fywyd: a phwy sydd ddigonol i’r pethau hyn?
17Canys nid ydym ni, megis llawer, yn gwneuthur masnach o air Duw: eithr megis o burdeb, eithr megis o Dduw, yng ngwydd Duw yr ydym yn llefaru yng Nghrist.