2 Corinthians 8
1Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia;
2Ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy a’u dwfn diodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy.
3Oblegid yn ôl eu gallu, yr wyf fi yn dyst, ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar ohonynt w hunain;
4Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn ohonom ni y rhodd, a chymdeithas gweinidogaeth y saint.
5A hyn a wnaethant, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a’u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw:
6Fel y dymunasom ni ar Titus, megis y dechreuasai efe o’r blaen, felly hefyd orffen ohono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd.
7Eithr fel yr ydych ym mhob peth yh helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag atom ni; edrychwch ar fod ohonoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth.
8Nid trwy orchymyn yr ydwyf yn dywedyd, ond oblegid diwydrwydd rhai eraill, a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi.
9Canys chwi a adwaenoch ras em Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau’m gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei diodi ef.
10Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn: canys hyn sydd dda i chwi, y rhai a’ ragddechreuasoch, nid yn unig wneuthur, ond hefyd ewyllysio er y llynedd.
11Ac yn awr gorffennwch wneuthur hefyd; fel megis ag yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, felly y byddo i gwblhau hefyd o’r hyn sydd gennych.
12Canys os bydd parodrwydd meddwl o’r blaen, yn ôl yr hyn sydd gan un, y mae yn gymeradwy, nid yn ôl yr hyn nid oes ganddo.
13Ac nid fel y byddai esmwythdra i eraill, a chystudd i chwithau;
14Eithr o gymhwystra: y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu cu diffyg hwy, fel y byddo eu hdaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwithau; fel y byddo cymhwystra:
15Megis y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo weddill; ac a gasglodd ychydig, nid oedd arno eisiau.
16Eithr i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn a roddodd yr un diwydrwydd trosoch yng nghalon Titus.
17Oblegid yn wir efe a dderbyniodd y dymuniad; a chan fod yn fwy diwyd, a aeth atoch o’i wirfodd ei hun.
18Ni a anfonasom hefyd gydag ef y brawd, yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy’r holl eglwysi;
19Ac nid hynny yn unig, eithr hefyd a:ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdaith & ni a’r gras hwn, yr hwn a wasanaethir gennym er gogoniant i’r Arglwydd ei hun, ac i amlygu parodrwydd eich meddwl chwi:
20Gan ochelyd hyn, rhag i neb feio iarnom yn yr helaethrwydd yma, yr hwn a wasanaethir gennym:
21Y rhai ydym yn rhagddarpar pethau nest, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg dynion.
23Ac ni a anfonasom gyda hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fod ef yn ddyfal, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y iBiawr yrnddiried y sydd gennyf ynoch. 23 Os gofynnir am Titus, fy nghyd-ymaith yw, a chydweithydd tuag atoch.chwi, neu am ein brodyr, cenhadau’r.eglwysi ydynt, a gogoniant Crist.
24Am hynny dangoswch iddynt hwy hysbysrwydd o’ch cariad, ac o’n host tdnnau amdanoch chwi, yng ngolwg yr eglwysi.