2 Corinthians 3
1Adechrau yr ydym drachefn ein canmol ein hunain? ai rhaid i ni, megis i rai, wrth lythyrau canmotiaeth atoch chwi, neu rai canmoliaeth oddi wrthych chwi?
2Ein llythyr ni ydych chwi yn ysg-rifenedig yn ein calonnau, yr hwn a ddeellir ac a ddarllenir gan bob dyn:
3Gan fod yn eglur mai llythyr Crist ydych, wedi ei weini gennym ni, wedi ei ysgrifennu nid ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw; nid mewn llechau cerrig, eithr mewn llechau cnawdol y galon.
4A chyfryw hyder sydd gennym trwy Grist ar Dduw:
5Nid oherwydd ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain i feddwl dim megis ohonom ein hunain; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw;
6Yr hwn hefyd a’n gwnaeth ni yn weinidogion cymwys y testament newydd; nid i’r llythyren, ond i’r ysbryd: canys y mae’r llythyren yn lladd, ond yr ys¬bryd sydd yn bywhau.
7Ac os bu gweinidogaeth angau, mewn llythrennau wedi eu hargraffu ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allai plant yr Israel edrych yn graff ar wyneb Moses, gan ogoniant ei wynepryd, yr hwn ogoniant a ddilewyd;
8Pa fodd yn hytrach na bydd gwein¬idogaeth yr Ysbryd mewn gogoniant?
9Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth yn ogoniant, mwy o lawer y mae gweinidogaeth cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant.
10Canys hefyd ni ogoneddwyd’yr hyn a ogoneddwyd yn y rhan hon, oherwydd y gogoniant tra rhagorol.
11Oblegid os bu yr hyn a ddileid yn ogoneddus, mwy o lawer y bydd yr hyn sydd yn aros yn ogoneddus
12Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder mawr:
13Ac nid megis y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb, fel nad edrychai plant Israel vn graff ar ddiwedd yr hyn a ddileid.
14Eithr dallwyd eu meddyliau hwynt: canys hyd y dydd heddiw y mae’r un gorchudd, wrth ddarllen yn yr hen dest-ament, yn aros heb ei ddatguddio; yr hw-n yng Nghrist a ddileir.:: ‘
15Eithr hyd y dydd heddiw, pan ddarllenir Moses, y mae’r gorchudd ar eu ealon hwynt.;
16Ond pan ymchwelo at yr Arglwyddy tynnir ymaith y gorchudd.:;
17Eithr yr Arglwydd yw’r Ysbryd: a lle mae Ysbryd yr Arglwydd, yao y mae rhyddid.
18Eithr nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych, a newidir i’r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd.