The Bible Software
2 Corinthians · Beibl (1620)

2 Corinthians 10

1Amyfi Paul wyf fy hun yn atolwg i chwi, er addfwynder a hynawsedd Crist, yr hwn yn brescnnol wyf wael yn eich plith, ond yn absennol ydwyf yn by arnoch.

2Ac yr ydwyf yn dymuno na byddwyf yn bresennol yn hy a’r hyder yr wyf yn meddwl bod tuag at rai, y sydd yn ein cyfrif ni megis rhai yn rhodio yn ôl y cnawd.

3Canys er ein bod ni yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ôl y cnawd:

4(Canys arfau ein milwriaeth ni hid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Ddirtv i fwrw cestyll i’r llawr;)

5Gan fwrw dychmygion i lawr, a phob uchder a’r sydd yn ymgodi yn erbyn gwybodaeth Duw, a chan gaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist;

6Ac yn barod gennym ddial ar bob anufudd-dod, pan gyflawner eich ufudd-dod chwi.

7Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ôl y golwg? Os yrnddiried neb ynddo ei hun, ei fod ef yn eiddo Crist, meddylied hyn drachefn ohono ei hun, megis ag y mae efe yn eiddo Crist, felly ein bod ninnau hefyd yn eiddo Crist.

8Oblegid pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr Arglwydd i ni er adeilad, ac nid er eich dinistr chwi, ni’m cywilyddid:

9Fel na thybier fy mod megis yn eich dychrynu chwi trwy lythyrau.

10Oblegid y llythyrau yn wir (meddant) sydd drymion a chryfion; eitht presenoldeb y corff sydd wan, a’r ymadrodd yn ddirmygus. "

11Y cyfryw un meddylied hyn, mai y fath ydym ni ar air trwy lythyrau yn absennol, yr un fath hefyd a fyddwn ar weithred yn bresennol.

12Canys nid ym ni yn beiddio ein cystadlu, neu ein cyffelybu ein hunain i rai sydd yn eu canmol eu hunain: eithr hwynt-hwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt cu hunain, a’u cyffelybu eu hunain iddynt eu hunain, nid ydynt yn deall. -

13Eithr ni fostiwn ni hyd at bethau allan o’n mesur, ond yn ôl mesur y rheol a rannodd Duw i ni, mesur i gyrhaeddy 4 hyd atoch chwi hefyd.

14Canys nid ydym, megis rhai neb gyrhaeddyd hyd atoch chwi, yn ymestya allan tu hwnt i’n mesur; canys h»yd atoch chwi hefyd y daethom ag efengyl Crist:

15Nid gan fostio hyd at bethau allan. o’n mesur, yn llafur rhai eraill; eithr gan obeithio, pan gynyddo eich ffydd chwi, gael ynoch chwi ein mawrygu yn ôl ein rheol yn ehelaeth,

16I bregethu’r efengyl tu hwnt i chwi; ac nid i fostio yn rheol un arall am bethau parod eisoes.

17Eithr yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.

18Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun, sydd gymeradwy; ond yr hwn y mae’r Arglwydd yn ei ganmol.

← 2 Corinthians 9Read In The App, Free →2 Corinthians 11 →

Study 2 Corinthians 10

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Robertson's Word PicturesReina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213