Llyfr Sechareia 10
1Erchwch gan yr ARGLWYDD law mewn pryd diweddar law; a'r ARGLWYDD a bair ddisglair gymylau, ac a ddyd iddynt gawod o law, i bob un laswellt yn y maes.
2Canys y delwau a ddywedasant wagedd, a'r dewiniaid a welsant gelwydd, a fi a ddywedasant freuddwydion ofer; rhoddasant ofer gysur: am hynny yr aethant fel defaid, cystuddiwyd hwynt, am nad oedd bugail.
3Wrth y bugeiliaid yr enynnodd fy llid, a mi a gosbais y bychod: canys ARGLWYDD y lluoedd a ymwelodd a'i braidd ty^ Jwda, ac a'u gwnaeth fel ei harddfarch yn y rhyfel.
4Y gongl a ddaeth allan ohono, yr hoel ohono, y bwa rhyfel ohono, a phob gorthrymwr ynghyd a ddaeth ohono.
5A byddant fel cewri yn sathru eu gelynion yn nhom yr heolydd yn y rhyfel: a hwy a ymladdant, am fod yr ARGLWYDD gyda hwynt; a chywilyddir marchogion meirch.
6A nerthaf dy Jwda, a gwaredaf dy Joseff, a pharaf iddynt ddychwelyd i'w cyfle; canys trugarheais wrthynt; a byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt; oherwydd myfi yw yr ARGLWYDD eu DUW hwynt, ac a'u gwrandawaf hwynt.
7Bydd Effraim hefyd fel cawr, a'u calonnau a lawenychant fel trwy win; a'u meibion a gânt weled, ac a lawenychant; bydd eu calon yn hyfryd yn yr ARGLWYDD.
8Chwibanaf arnynt, a chasglaf hwynt; canys gwaredais hwynt: ac amlhant fel yr amlhasant.
9A heuaf hwynt ymysg y bobloedd: ac mewn gwledydd pell y'm cofiant, a byddant fyw gyda'u plant, a dychwelant.
10A dychwelaf hwynt o dir yr Aifft, a chasglaf hwynt o Asyria; ac arweiniaf hwynt i dir Gilead a Libanus, ac ni cheir lle iddynt.
11Ac efe a dramwya trwy y môr mewn blinder, ac a dery y tonnau yn y môr; a holl ddyfnderoedd yr afon a fyddant ddihysbydd: a disgynnir balchder Asyria, a theyrnwialen yr Aifft a gilia ymaith.
12Nerthaf hwynt hefyd yn yr ARGLWYDD, ac yn ei enw ef yr ymrodiant, medd yr ARGLWYDD.