The Bible Software
Llyfr Sechareia · Beibl (1620)

Llyfr Sechareia 2

1Dyrchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele w^r, ac yn ei law linyn mesur.

2A dywedais, I ba le yr ei di? Ac efe a ddywedodd wrthyf, I fesuro Jerwsalem, i weled beth yw ei lled hi, a pheth yw ei hyd hi.

3Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan, ac angel arall yn myned allan i'w gyfarfod ef.

4Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhed, llefara wrth y llanc hwn, gan ddywedyd Jerwsalem a gyfanheddir fel maestrefi rhag amled dyn ac anifail o'i mewn.

5Canys byddaf iddi yn fur o dân o amgylch, medd yr ARGLWYDD, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.

6Ho, ho, deuwch allan, a ffowch o wlad y gogledd, medd yr ARGLWYDD: canys taenais chwi fel pedwar gwynt y nefoedd, medd yr ARGLWYDD.

7O Seion, ymachub, yr hon wyt yn preswylio gyda merch Babilon.

8Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ar ôl y gogoniant y'm hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a'ch ysbeiliasant chwi: canys a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â channwyll ei lygad ef.

9Canys wele fi yn ysgwyd fy llaw arnynt, a byddant yn ysglyfaeth i'w gweision: a chânt wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd.

10Cân a llawenycha, merch Seion: canys wele fi yn dyfod; a mi a drigaf yn dy ganol di, medd yr ARGLWYDD.

11A'r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr ARGLWYDD, ac a fyddant bobl i mi: a mi a drigaf yn dy ganol di; a chei wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd atat.

12A'r ARGLWYDD a etifedda Jwda, ei ran yn y tir sanctaidd, ac a ddewis Jerwsalem drachefn.

13Pob cnawd, taw yng ngw^ydd yf ARGLWYDD: canys cyfododd o drigfa ei sancteiddrwydd.

← Llyfr Sechareia 1Read In The App, Free →Llyfr Sechareia 3 →

Study Llyfr Sechareia 2

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314