The Bible Software
Llyfr Sechareia · Beibl (1620)

Llyfr Sechareia 7

1Ac yn y bedwaredd flwyddyn i'r brenin Dareius y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, ar y pedwerydd dydd o'r nawfed mis, sef Cisleu;

2Pan anfonasent Sereser, a Regem-melech, a'u gwy^r, i dy^ DDUW, i weddïo gerbron yr ARGLWYDD,

3Ac i ddywedyd wrth yr offeiriaid oedd yn nhy^ ARGLWYDD y lluoedd, ac wrth y proffwydi, gan ddywedyd, A wylaf fi y pumed mis, gan ymneilltuo, fel y gwneuthum weithian gymaint o flynyddoedd?

4Yna gair ARGLWYDD y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

5Dywed wrth holl bobl y tir, ac wrth yr offeiriaid, gan lefaru. Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru y pumed a'r seithfed mis, y deng mlynedd a thrigain hynny, ai i mi yr ymprydiasoch chwi ympryd, i mi?

6A phan fwytasoch, a phan yfasoch, onid oeddech yn bwyta i chwi eich hunain, ac yn yfed i chwi eich hunain?

7Oni ddylech wrando y geiriau a gyhoeddodd yr ARGLWYDD trwy law y proffwydi gynt, pan oedd Jerwsalem yn gyfannedd, ac yn llwyddiannus, a'i dinasoedd o'i hamgylch, a phobl yn cyfanheddu y deheudir a'r dyffryndir?

8A daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, gan ddywedyd,

9Fel hyn y llefara ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Bernwch farn gywir, gwnewch drugaredd a thosturi bob un i'w frawd:

10Ac na orthrymwch y weddw a'r amddifad, y dieithr a'r anghenog, ac na feddyliwch ddrwg bob un i'w gilydd yn eich calonnau.

11Er hyn gwrthodasant wrando, a rhoddasant ysgwydd anhydyn, a thrymhasant eu clustiau rhag clywed.

12Gwnaethant hefyd eu calonnau yn adamant, rhag clywed y gyfraith a'r geiriau a anfonodd ARGLWYDD y lluoedd trwy ei ysbryd, yn llaw y proffwydi gynt: am hynny y daeth digofaint mawr oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd.

13A bu, megis y galwodd efe, ac na wrandawent hwy; fellyy galwasant hwy, ac nis gwrandawn innau, medd ARGLWYDD y lluoedd.

14Ond gwasgerais hwynt â chorwynt i blith yr holl genhedloedd y rhai nid adwaenent; a'r tir a anghyfanheddwyd ar eu hôl hwynt, fel nad oedd a'i tramwyai nac a ddychwelai: felly y gosodasant y wlad ddymunol yn ddiffeithwch.

← Llyfr Sechareia 6Read In The App, Free →Llyfr Sechareia 8 →

Study Llyfr Sechareia 7

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314