The Bible Software
Llyfr Sechareia · Beibl (1620)

Llyfr Sechareia 6

1Hefyd mi a droais, ac a ddyrchefais fy llygaid, ac a edrychais, ac wele bedwar o gerbydau yn dyfod allan oddi rhwng dau fynydd: a'r mynyddoedd oedd fynyddoedd o bres.

2Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion, ac yn yr ail gerbyd meirch duon,

3Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwynion, ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brithion a gwineuon.

4Yna yr atebais, ac y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd?

5A'r angel a atebodd ac a ddywedodd, Dyma bedwar ysbryd y nefoedd, y rhai sydd yn myned allan o sefyll gerbron ARGLWYDD yr holl ddaear.

6Y meirch duon sydd ynddo a ânt allan i dir y gogledd; a'r gwynion a ânt allan ar eu hôl hwythau; a'r brithion a ânt allan i'r deheudir.

7A'r gwineuon a aethant allan, ac a geisiasant fyned i gyniwair trwy y ddaear: ac efe a ddywedodd, Ewch, cyniweirwch trwy y ddaear. Felly hwy a gyniweirasant trwy y ddaear.

8Yna efe a waeddodd amaf, ac a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Edrych, y rhai a aethant i dir y gogledd a lonyddasant fy ysbryd yn nhir y gogledd.

9A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

10Cymer gan y gaethglud, gan Heldai, gan Tobeia, a chan Jedaia, y rhai a ddaethant o Babilon, a thyred y dydd hwnnw a dos i dy^ Joseia mab Seffaneia:

11Yna cymer arian ac aur, a gwna goronau, a gosod ar ben Josua mab Josedec yr archoffeiriad;

12A llefara wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Wele y gw^r a'i enw BLAGURYN: o'i le hefyd y blagura, ac adeilada deml yr ARGLWYDD;

13Ie, teml yr ARGLWYDD a adeilada efe; ac efe a ddwg y gogoniant, ac a eistedd, ac a lywodraetha ar ei frenhinfainc; bydd yn offeiriad hefyd ar ei frenhinfainc: a chyngor hedd a fhydd rhyngddynt ill dau.

14A'r coronau fydd i Helem, ac i Tobeia, ac i Jedaia, ac i Hen mab Seffaneia, er coffadwriaeth yn nheml yr ARGLWYDD.

15A'r pellenigion a ddeuant, ac a adeiladant yn nheml yr ARGLWYDD, a chewch wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a'm hanfonodd atoch. A hyn a fydd, os gan wrando y gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD DDUW.

← Llyfr Sechareia 5Read In The App, Free →Llyfr Sechareia 7 →

Study Llyfr Sechareia 6

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314