Llyfr Sechareia 12
1Baich gair yr ARGLWYDD i Israel, medd yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn estyn allan y nefoedd, ac yn sylfaenu y ddaear, ac yn llunio ysbryd dyn ynddo.
2Wele fi yn gwneuthur Jerwsalem yn ffiol gwsg i'r bobloedd oll o amgylch, pan fyddont yn y gwarchae yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Jerwsalem.
3A bydd y dwthwn hwnnw i mi wneuthur Jerwsalem yn faen trwm i'r holl bobloedd: pawb a ymlwytho ag ef yn ddiau a rwygir, er ymgasglu o holl genhedloedd y ddaear yn ei erbyn ef.
4Y diwrnod hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y trawaf bob march â syndra, a'i farchog ag ynfydrwydd; ac agoraf fy llygaid ar dy Jwda, a thrawaf holl feirch y bobl â dallineb.
5A thywysogion Jwda a ddywedant yn eu calon, Nerth i mi fydd preswylwyr Jerwsalem yn ARGLWYDD y lluoedd eu DUW hwynt.
6Y dydd hwnnw y gwnaf dywysogion Jwda fel aelwyd o dân yn y coed, ac fel ffagl dân mewn ysgub o wellt; ac ysant ar y llaw ddeau ac ar yr aswy, yr holl bobloedd o amgylch: a Jerwsalem a gyfanheddir drachefn yn ei lle ei hun, yn Jerwsalem.
7Yr ARGLWYDD a geidw bebyll Jwda yn gyntaf, megis nad ymfawrygo gogoniant ty^ Dafydd, a gogoniant preswylwyr Jerwsalem, yn erbyn Jwda.
8Y dydd hwnnw yr amddiffyn yr ARGLWYDD breswylwyr Jerwsalem: a bydd y llesgaf ohonynt y dydd hwnnw fel Dafydd; a thy^ Dafydd fydd fel Duw, fel angel yr ARGLWYDD o'u blaen hwynt.
9Y dydd hwnnw y bydd i mi geisio difetha yr holl genhedloedd y sydd yn dyfod yn erbyn Jerwsalem.
10A thywalltaf ar dy^ Dafydd, ac ar breswylwyr Jerwsalem, ysbryd gras a gweddïau; a hwy a edrychant arnaf fi yr hwn a wanasant; galarant hefyd amdano fel un yn galaru am ei unig-anedig, ac ymofidiant amdano ef megis un yn gofidio am ei gyntaf-anedig.
11Y dwthwn hwnnw y bydd galar mawr yn Jerwsalem, megis galar Hadadrimmon yn nyffryn Megidon.
12A'r wlad a alara, pob teulu wrtho ei hun; teulu ty Dafydd wrtho ei hun, a'u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu ty^ Nathan wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain;
13Teulu ty^ Lefi wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain; teulu ty^ Simei wrtho ei hunan, a'u gwragedd wrthynt eu hunain;
14Yr holl deuluoedd eraill, pob teulu wrtho ei hun, a'u gwragedd wrthynt eu hunain.