The Bible Software
Llyfr Cyntaf y Cronicl · Beibl (1620)

Llyfr Cyntaf y Cronicl 12

1YN y seithfed flwyddyn i Jehu y dechreuodd Joas deyrnasu, a deugaia mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba. º

2A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei holl ddyddiau, yn y rhai y dysgodd Jehoiada yr offeiriad ef. ‘ º

3Er hynny ni thynasid ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd. º

4A Joas a ddywedodd wrth yr offeiriaid, Holl arian y pethau cysegredig a ddyger i mewn i dŷ yr ARGLWYDD, arian y gŵr a gyniweirio, arian gwerth eneidiau pob un, a’r holl arian a glywo neb ar ei galon eu dwyn i mewn i dŷ yr ARGLWYDD-S º

5Cymered yr offeiriaid hynny iddynfe, pawb gan ei gydnabod, a chyweiriant adwyau y tŷ, pa le bynnag y caffer adwy ynddo. º

6Ond yn y drydedd flwyddyn ar hugain i’r brenin Joas, nid adgyweiriasai yr offeiriaid agennau y tŷ. º

7Yna y brenin Joas a alwodd am Jehoiada yr offeiriad, a’r offeiriaid erailt, ac a ddywedodd wrthynt, Paham nad ydych chwi yn cyweirio agennau y ty? yn awr gan hynny, na dderbyniwch ariaa gan eich cydnabod, ond rhoddwch hwy at gyweirio adwyau y tŷ. º

8A’r offeiriaid a gydsyniasant na dderbynient arian gan y bobl, ac na chyweirient agennau y tŷ. º

9Eithr Jehoiada yr offeiriad a gymerth gist, ac a dyllodd dwil yn ei chaead, ac a’i gosododd hi o’r tu deau i’r allor, ffordd y delai un i mewn i dŷ yr ARGLWYDD: a’r offeiriaid, y rhai oedd yn cadw y drws, a roddent yno yr holl arian a ddygid i mewn i d yr ARGLWYDD. º

10A phan welent fod llawer o arian yn y gist, y deuai ysgrifennydd y brenin, a’r archoffeiriad, i fyny, ac a roent mewn codau, ac a gyfrifent yr arian a gawsid yn nh yr ARGLWYDD. º

11A hwy a roddasant yr arian wedi en cyfrif, yn nwylo gweithwyr y gwaith, ‘ goruchwylwyr tŷ yr ARGLWYDD: a hwy a’i talasant i’r seiri pren, ac i’r adeiladwyr oedd yn gweithio tŷ yr ARGLWYDD. º

12Ac i’r seiri meini, ac i’r naddwyr cerrig, ac i brynu coed a cherrig nadd, i gyweirio adwyau tŷ yr ARGLWYDD, ac am yr hyn oll a aethai allan i adgyweirio y tŷ. º

13Eto ni wnaed yn nhŷ yr ARGLWYDD gwpanau arian, saltringau, cawgiau, utgyrn, na llestri aur, na llestri arian, o’r arian a ddygasid i mewn i dŷ yr AR¬GLWYDD. º

14Eithr hwy a’i rhoddasant i’ weithwyr y gwaith; ac a gyweiriasant a, hwynt dŷ yr ARGLWYDD. º

15Ac ni cheisiasant gyfrif gan y dynion y rhoddasant hwy yr arian yn eu dwylo i’w rhoddi i weithwyr y gwaith: canys yr oeddynt hwy yn gwneuthur yn ffyddlon. º

16Yr arian dros gamwedd a’r arian dros bechodau, ni dducpwyd i mewn i dŷ yr ARGLWYDD: eiddo yr offeiriaid oeddynt hwy. º

17Yna Hasael brenin Syria a aeth i fyny, ac a ymladdodd yn erbyn Gath, ac a’i henillodd hi: a Hasael a osododd ei wyneb i fyned i fyny yn erbyn Jerw¬salem. º

18A Joas brenin Jwda a gymerth yr holl bethau cysegredig a gysegrasai Jehosa-ffat, a Jehoram, ac Ahaseia, ei dadau ef, brenhinoedd Jwda, a’i gysegredig bethau ef ei hun, a’r holl aur a gafwyd yn nhrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, ac a’u hanfonodd at Hasael brenin Syria, ac efe a ymadawodd oddi wrth Jerwsalem. º

19A’r rhan arall o hanes Joas, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Jwda? º

20A’i weision ef a gyfodasant, ac a gydfwriadasant fradwriaeth; ac a laddasant Joas yn nhŷ Milo, wrth ddyfod i waered i Sila.

21A Josachar mab Simeath, a Josabad mab Somer, ei weision ef, a’i trawsant ef, ac efe a fu farw; a hwy a’i claddasant ef gyda’i dadau yn ninas Dafydd: ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

← Llyfr Cyntaf y Cronicl 11Read In The App, Free →Llyfr Cyntaf y Cronicl 13 →

Study Llyfr Cyntaf y Cronicl 12

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425