The Bible Software
Llyfr Cyntaf y Cronicl · Beibl (1620)

Llyfr Cyntaf y Cronicl 22

1MAB wyth mlwydd oedd Joseia pan aeth efe yn frenin, ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jedida, merch Adaia o Boscath. º

2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd’ yn holl ffyrdd Dafydd ei dad, ac ni throdd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy. º

3Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia, y brenin a anfonodd Saffan, mab Asaleia, mab Mesulam, yr ysgrifennydd, i dŷ yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, º

4DOS i fyny at Hiloeia yr archoffeiriad, fel y cyfrifo efe yr arian a dducpwyd i dŷ yr ARGLWYDD, y rhai a gasglodd ceid-waid y drws gan y bobl: º

5A rhoddant hwy yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar.dy yr ARGLWYDD; a rhoddant hwy i’r rhai sydd yn gwneuthur y gwaith sydd yn nhŷ yr ARGLWYDD, i gyweirio agennau y tŷ, i º

6I’r seiri coed, ac i’r adeiladwyr, ac i’r ‘. seiri maen, ac i brynu coed a cherrig nadd, i adgyweirio’r tŷ. º

7Eto ni chyfrifwyd a hwynt am yr arian a roddwyd yn eu llaw hwynt, am eu bod hwy yn gwneuthur yn ffyddlon. º

8A Hiloeia yr archoffeiriad a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd, Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr AR¬GLWYDD: a Hiloeia a roddodd y llyfr at Saffan, ac efe a’i darllenodd ef. º

9A Saffan yr ysgrifennydd a ddaeth at y brenin, ac a adroddodd y peth i’r brenhin, ac a ddywedodd, Dy weision di a gasglasant yr arian a gafwyd yn tŷ, ac a’i rhoddasant yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr ARGLWYDD. º

10A Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd’ i’r brenin, gan ddywedyd, Hiloeia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr: a Saffan a’i darllenodd ef gerbron y brenin. º

11A phan glybu y brenin eiriau llyfr y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad. º

12A’r brenin a orchmynnodd i Hiloeia yr offeiriad, ac i Ahicam mab Saffan, ac i Achbor mab Michaia, ac i Saffan yr ysgrifennydd, ac i Asaheia gwas y brenin, gan ddywedyd, º

13Ewch, ymofynnwch a’r ARGLWYDD drosof fi, a thros y bobl, a thros holl Jwda, am eiriau y llyfr hwn a gafwyd: canys mawr yw llid yr ARGLWYDD yr hwn a enynnodd i’n herbyn ni, oherwydd na wrandawodd ein tadau ni ar eiriau y llyfr hwn, i wneuthur yn ôl yr hyn oll a ysgrifennwyd o’n plegid ni. º

14Felly Hiloeia yr offeiriad, ac Ahicam, ac Achbor, a Saffan, ac Asaheia, a aethant at Hulda y broffwydcs, gwraig Salum mab Ticfa, mab Harhas, ceidwad y gwisgoedd: a hi oedd yn trigo yn Jerwsalem yn yr ysgoldy; a hwy a ymddiddanasant â hi. º

15A hi a ddywedodd wrthynt. Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel, Dywedwch i’r gŵr a’ch anfonodd chwiataffi; º

16Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion, sef holl eiriau y llyfr a ddar-llenodd brenin Jwda: º

17Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogldarthu i dduwiau dieithr, i’m digio i a holl waith eu dwylo: am hynny yr ennyn fy llid yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir ef. º

18Ond wrth frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymgynghori a’r ARGLWYDD, fel hyn y dywedwch wrtho ef, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Am y geiriau a glywaist ti; º

19Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen yr ARGLWYDD, pan glywaist yr hyn a leferais yn erbyn y lle hwn, ac yn erbyn ei drigolion, y byddent yn anghyfannedd ac yn felltith, ac am rwygo ohonot dy ddillad, ac wylo ger fy mron i; minnau hefyd a wrandewais, medd yr ARGLWYDD. º

20Oherwydd hynny, wele, mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir i’th fedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon. A hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn.

← Llyfr Cyntaf y Cronicl 21Read In The App, Free →Llyfr Cyntaf y Cronicl 23 →

Study Llyfr Cyntaf y Cronicl 22

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425