Llyfr Cyntaf y Cronicl 17
1YN y ddeuddegfed flwyddyn i Ahas brenin Jwda, y teyrnasodd Hosea mab Ela yn Samaria ar Israel; naw mlynedd y teyrnasodd efe. º
2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, eto nid fel brenhinoedd Israel y rhai a fuasai o’i flaen ef. º
3A Salmaneser brenin Asyria a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef, a Hosea a aeth yn was iddo ef, ac a ddug iddo anrhegion. º
4A brenin Asyria a gafodd fradwriaeth yn Hosea: canys efe a ddanfonasai genhadau at So brenin yr Aifft, ac ni ddanfonasai anrheg i frenin Asyria, fel y byddai efe arferol bob blwyddyn: am hynny brenin Asyria a gaeodd arno ef, ac a’i rhwymodd ef mewn carchardy. º
5Yna brenin Asyria a aeth i fyny trwy’r holl wlad, ac a aeth i fyny i Samaria, ac a warchaeodd arni hi dair blynedd. º
6Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, yr enillodd brenin Asyria Samaria, ac y caethgludodd efe Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid. º
7Felly y bu, am i feibion Israel bechu yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, yr hwn a’u dygasai hwynt i fyny o wlad yr Aifft, oddi tan law Pharo brenin yr Aifft, ac am iddynt ofni duwiau dieithr, º
8A rhodio yn neddfau y cenhedloedd, y rhai a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel, ac yn y deddfau a wnaethai brenhinoedd Israel. º
9A meibion Israel a wnaethant yn ddirgcl bethau nid oedd uniawn yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, ac a adeil¬adasant iddynt uchelfeydd yn eu holl ddinasoedd, o dwr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog. º
10Gosodasant hefyd iddynt ddelwau a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren irias: º
11Ac a arogldarthasant yno yn yr holl uchelfeydd, fel y cenhedloedd y rhai a gaethgludasai yr ARGLWYDD o’u blaen hwynt; a gwnaethant bethau drygionus i ddigio’r ARGLWYDD. º
12A hwy a wasanaethasant eilunod, am y rhai y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt, Na wnewch y peth hyn. º
13Er i’r ARGLWYDD dystiolaethu yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, trwy law yr holl broffwydi, a phob gweledydd, gan ddywedyd, Dychwelwch o’ch ffyrdd drygionus, a chedwch fy ngorchmynion, a’m deddfau, yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnais i’ch tadau, a’r hon a anfonais atoch trwy law fy ngweision y proffwydi. º
14Eto ni wrandawsant, eithr caledasant eu gwarrau fel gwarrau eu tadau, y rhai ni chredasant yn yr ARGLWYDD eu Duw. º
15A hwy a ddirmygasant ei ddeddfau ef, a’i gyfamod yr hwn a wnaethai efe a’u tadau hwynt, a’i dystiolaethau ef y rhai a dystiolaethodd efe i’w herbyn; a rhodiasant ar ôl oferedd, ac a aethant yn ofer: aethant hefyd ar ôl y cenhedloedd y rhai oedd o’u hamgylch, am y rhai y gorchmynasai yr ARGLWYDD iddynt, na wnelent fel hwynt. º
16A hwy a adawsant holl orchmynion yr ARGLWYDD eu Duw, ac a wnaethant iddynt ddelwau tawdd, nid amgen dau to: gwnaethant hefyd lwyn ac ymgrymasant i holl lu y nefoedd, a gwasanaethasant Baal. º
17A hwy a dynasant eu meibion a’u merched trwy’r tân, ac a arferasant ddewiniaeth, a swynion, ac a ymwerth asant i wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i’w ddigio ef. º
18Am hynny yr ARGLWYDD a ddigiodd yn ddirfawr wrth Israel, ac a’u bwriodd hwynt allan o’i olwg: ni adawyd ond llwyth Jwda yn unig. º
19Ni chadwodd Jwda chwaith orchmynion yr ARGLWYDD eu Duw, eithr rhodiasant yn neddfau Israel y rhai a wnaethent hwy. º
20A’r ARGLWYDD a ddiystyrodd holl had Israel, ac a’u cystuddiodd hwynt, ac a’u rhoddodd hwynt yn llaw anrheithwyr, nes iddo eu bwrw allan o’i olwg. º
21Canys efe a rwygodd Israel oddi with dŷ Dafydd; a hwy a wnaethant Jeroboam mab Nebat yn frenin: a Jero¬boam a yrrodd Israel oddi ar ôl yr AR-6LWYDD, ac a wnaeth iddynt bechu pechod mawr. º
22Canys meibion Israel a rodiasant yn hell bechodau Jeroboam, y rhai a wnaeth efe, heb gilio oddi wrthynt: ‘
23Nes i’r ARGLWYDD fwrw Israel allan ti’i olwg, fel y llefarasai trwy law ei holl weision y proffwydi: ac Israel a gaethgludwyd allan o’i wlad ei hun i Asyria, hyd y dydd hwn. º
24II A brenin Asyria a ddug bobl o Babilon, ac o Cutha, ac o Afa, o Hamath hefyd, ac o Seffarfaim, ac a’u cyfleodd hwynt yn ninasoedd Samaria, yn lle meibion Israel. A hwy a feddianasant Samaria, ac a drigasant yn ei dinasoedd hi. º
25Ac yn nechrau eu trigias hwy yno, nid ofnasant hwy yr ARGLWYDD; am hynny yr ARGLWYDD a anfonodd lewod yn eu plith hwynt, y rhai a taddasant rai ehonynt. º
26Am hynny y mynegasant i frenin Asyria, gan ddywedyd, Y cenhedloedd y rhai a fiidaist ti, ac a gyfleaist yn flmasoedd Saaiaria, nid adwaenant dde- fod Duw y wlad: am hynny efe a anfon¬odd lewod yn eu mysg hwynt, ac wele, Haddasant hwynt, am na wyddent-ddefod Duw y wlad. º
27Yna brenin Asyria a orchmynnodd, gan ddywedyd, Dygwch yno un o’r 6fieiriaid a ddygasoch oddi yno, i fyned ac i drigo yno, ac i ddysgu iddynt ddefod Duw y wlad. º
28Felly un o’r offeiriaid a ddygasent ‘hwy o Samaria a ddaeth ac a drigodd yn Bethel, ac a ddysgodd iddynt pa fodd yr ofnent yr ARGLWYDD. º
29Eto pob cenedl oedd yn gwneuthur eu duwiau eu hun, ac yn eu gosod yn nhai yr uchelfeydd a wnaethai y Samariaid, pob cenedl yn eu dinasoedd yr oeddynt yn preswylio ynddynt. º
30A gwŷr Babilon a wnaethant SuccothBenoth, a gwŷr Cuth a wnaethant Nergar, a gwŷr Hamath a wnaethant Asima, º
31A’r Afiaid a wnaethant Nibhas a Thartac, a’r Seffarfiaid a losgasant eu meibion yn tan i Adrammelech ac i Anammelech, duwiau Seffarfaim. º
32Felly hwy a ofnasant yr ARGLWYDD, ac a wnaethant iddynt rai o’u gwehilion yn offeiriaid yr uchelfeydd, y rhai a wnaethant aberthau iddynt yn nhai yr uchelfeydd. º
33Yr ARGLWYDD yr oeddynt hwy yn e omi, a gwasanaethu yr oeddynt eu duwiau, yn ôl defod y cenhedloedd y rhai a ddygasent oddi yno. ‘ º
34Hyd y dydd hwn y maent hwy yn gwneuthur yn ôl eu hen arferion: nid ‘ydynt yn ofni yr ARGLWYDD, ac nid ydynt yn gwneuthur yn ôl eu deddfau hwynt, nac yn ôl eu harfer, nac yn ôl y gyfraith na’r gorchymyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD i feibion Jacob, yr hwn y gosododd efe ei enw, Israel. º
35A’r ARGLWYDD a wnaethai gyfamod â hwynt, ac a orchmynasai iddynt, gan ddywedyd, Nac ofnwch dduwiau dieithr, ac nac ymgrymwch iddynt, ac na wasan’aethwch hwynt, ac nac aberthwch iddynt: º
36Ond yr ARGLWYDD yr hwn a’ch dug chwi i fyny o wlad yr Aifft a nerth mawr, ac a braich estynedig, ef a ofnwch efawi, ac iddo ef yr ymgryawch, ac iddo ef yr aberthwch. º
37Y deddfau ‘hefyda a’r barnedigaethau, a’r gyfraith, a’r gorchymyn, a ysgrifennodd efe i chwi, a gedwch chwi i’w gwneuthur byth; ac liac ofnwch dduwiau dieithr.; º
38Ac nac anghofiwch y cyfamod a, amodais a chwi, ac nac ofnwch dduwiau dieithr: º
39Eithr ofnwch yr ARGLWYDD eicfa Duw; ac efe a’ch gwared chwi o law eich holl elynion. º
40Ond ni wrandawsant hwy, eithr yfi ôl eu hen arfer y gwnaethant hwy. º
41Felly y cenhedloedd hyn oedd yo ofni’r ARGLWYDD, ac yn gwasanaethu w delwau cerfiedig; eu plant a’u hwyrioa; fcl y gwnaeth eu tadau, y maent hwy yn gwneuthur hyd y dydd hwn.