The Bible Software
Llyfr Cyntaf y Cronicl · Beibl (1620)

Llyfr Cyntaf y Cronicl 20

1Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw: ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato, ac a ddywedodd wrtho. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Trefna dy dŷ, canys marw fyddi, ac ni byddi byw. º

2Yna efe a drodd ei wyneb at y pared, ac a weddïodd at yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, º

3Atolwg, ARGLWYDD, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd, ac a chalon berffaith, a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg di. A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr. º

4A chyn myned o Eseia allan i’r cyn-tedd canol, daeth air yr ARGLWYDD ato, gan ddywedyd, º

5Dychwel, a dywed with Heseceia blaenor fy mhobl i. Fel hyn y dywed AR¬GLWYDD DDUW Dafydd dy dad, Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau; wele fi yn dy iacháu di, y trydydd dydd yr ei di i fyny i df yr ARGLWYDD. º

6A mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng rolynedd, ac a’th waredaf di a’r ddinas hon o law brenin Asyria: diffynnaf hefyd y ddinas hon er fy mwyn fy bun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas. º

7A dywedodd Eseia, Cymerwch swp’ o ffigys. a hwy a gymerasant, ac a’i gosodasant ar y cornwyd, ac efe a aeth yn iach. º

8A Heseceia a ddywedodd with Eseia, Pa arwydd fydd yr iacha yr ARGLWYDD fi, ac yr af fi i fyny i dŷ yr ARGLWYDD y trydydd dydd? º

9Ac Eseia a ddywedodd, Hyn fydd i ti yn argoel oddi wrth yr ARGLWYDD, y gwna yr ARGLWYDD y gair a lefarodd efe: a â y cysgod ddeg o raddau ymlaen, neu a ddychwel efe ddeg o raddau yn ôl? º

10A Heseceia a ddywedodd, Hawdd yw i’r cysgod ogwyddo ddeg o raddau: nid felly, ond dychweled y cysgod yn ei ôl ddeg o raddau. º

11Ac Eseia y proffwyd a lefodd ar yr ARGLWYDD: ac efe a drodd y cysgod ar hyd y graddau, ar hyd y rhai y disgynasai efe yn neial Ahas, ddeg o raddau yn ei ôl. º

12Yn yr amser hwnnw yr anfonodd Berodach-Baladan, mab Baladan brenhi Babilon, lythyrau ac anrheg at Heseceia: canys efe a glywsai fod Heseceia yn glaf. º

13A Heseceia a wrandawodd arnynt, ac a ddangosodd iddynt holl dy ei drysor, yr arian, a’r aur, a’r peraroglau, a’r olew gorau, a holl dy ei arfau, a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dy ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a’r nas dangosodd Heseceia iddynt. º

14Yna Eseia y proffwyd a ddaeth at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat ti? A dywedodd Heseceia, O wlad bell y daethant hwy, sef o Babilon. º

15Yntau a ddywedodd, Beth a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd Heseceia, Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant hwy: nid oes dim yn fy nhrysorau i nas dangosais iddynt hwy. º

16Ac Eseia a ddywedodd wrth Hesec¬eia, Gwrando air yr ARGLWYDD. º

17Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddyger i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a’r hyn a gynilodd dy dadau hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr ARGLWYDD. º

18Cymerant hefyd o’th feibion di, y rhai a ddaw allan ohonot, y rhai a gen-hedii di, a hwy a fyddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon. º

19Yna Heseceia a ddywedodd wrth Eseia, Da yw gair yr ARGLWYDD, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Onid da os bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i? º

20A’r rhan arall o hanes Heseceia, all holl rym ef, ac fel y gwnaeth efe y ilyn, a’r pistyll, ac y dug efe y dyfroedd i’r ddinas, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? º

21A Heseceia a hunodd gyda’i dadau: a Manasse ei fab a deyrnasodd yn-ei te ef.

← Llyfr Cyntaf y Cronicl 19Read In The App, Free →Llyfr Cyntaf y Cronicl 21 →

Study Llyfr Cyntaf y Cronicl 20

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425