Llyfr Cyntaf y Cronicl 9
1Eliseus y proffwyd a alwodd un o-feibion y proffwydi, ac a ddywedodd wrtho, Gwregysa dy lwynau, a chymer y ffiolaid olew hon yn dy law, a dos i RamothGilead. º
2A phan ddelych yno, edrych yno am Jehu mab Jehosaffat, mab Nimsi; a dos i mewn, a phar iddo godi o fysg ei frodyr, a dwg ef i ystafell ddirgel: º
3Yna cymer y ffiolaid olew, a thywallt ar ei ben ef, a dywed, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel; yna agor y drws, a ffo, ac nac aros. º
4Felly y llanc, sef llanc y proffwyd, a aeth i RamothGilead. º
5A phan ddaeth efe, wele, tywysogion y llu oedd yn eistedd: ac efe a ddywedodd, Y mae i mi air a thi, O dywysog. A dywedodd Jehu, A pha un ohonom ni oil? Dywedodd yntau, A thydi, O dywys¬og. º
6Ac efe a gyfododd, ac a aeth i mewn i’r tŷ: ac yntau a dywalltodd yr olew ar ei ben ef, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Myfi a’th eneiniais di yn frenin ar bobl yr ARGLWYDD, sef ar Israel. º
7A thi a drewi dy Ahab dy arglwydd; fel y dialwyf fi waed fy ngweision y proffwydi, a gwaed holl weision yr AR— GLWYDD, ar law Jesebel. º
8Canys holl dy Ahab a ddifethir: a mi a dorraf ymaith oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a’r hwn a adawyd yn Israel. º
9A mi a wnaf dy Ahab fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahia. º
10A’r cwn a fwytânt Jesebel yn rhandir Jesreel, ac ni bydd a’i claddo hi. Ac efe a agorodd y drws, ac a ffodd. º
11A Jehu a aeth allan at weision ei arglwydd, a dywedwyd wrtho ef, A yw pob peth yn dda? paham y daeth yr ynfyd hwn atat ti? Dywedodd yntau wrthynt, Chwi a adwaenoch y gŵr, a’i ymadroddion. º
12Dywedasant hwythau, Celwydd;. mynega yn awr i ni. Dywedodd yntau, Fel hyn ac fel hyn y llefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel. º
13A hwy a frysiasant, ac a gymerasant bob un ei wisg, ac a’i gosodasant dano ef ar ben uchaf y grisiau, ac a ganasant mewn utgom, ac a ddywedasant, Jehu sydd frenin. º
14A Jehu mab Jehosaffat mab Nimsi a gydfwriadodd yn erbyn Joram: (a Joram oedd yn cadw RamothGilead, efe a holl Israel, rhag Hasael brenin Syria: º
15Ond Joram y brenin a ddychwelasai i ymiacháu i Jesreel, o’r archollion a’r rhai yr archollasai y Syriaid ef wrth ymladd ohono yn erbyn Hasael brenin Syria.) A dywedodd Jehu, Os mynnwch chwi, nac eled un dihangol o’r ddinas i fyned i fynegi i Jesreel. º
16Felly Jehu a farchogodd mewn cerbyd, ac a aeth i Jesreel; canys Joram oedd yn gorwedd yno. Ac Ahaseia brenin Jwda a ddaethai i waered i ymweled a Joram. º
17A gwyliwr oedd yn sefyll ar y twr yn Jesreel, ac a ganfu fintai Jehu pan oedd efe yn dyfod, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn gweled mintai. A Joram a ddywedodd, Cymer ŵr march, ac anfbn i’w cyfarfod hwynt, a dyweded, Ai heddwch? º
18A gŵr march a aeth i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am hedd¬wch? tro yn fy ôl i. A’r gwyliwr a fynegodd, gan ddywedyd, Y gennad a ddaeth hyd atynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd. º
19Yna efe a anfonodd yr ail ŵr march, ac efe a ddaeth atynt hwy, ac a ddywed¬odd, Fel hyn y dywedodd y brenin, A oes heddwch? A dywedodd Jehu, Beth sydd i ti a ofynnych am heddwch? tro yn fy ôl i. º
20A’r gwyliwr a fynegodd, gan ddy¬wedyd, Efe a ddaeth hyd atynt hwy, ond nid yw efe yn dychwelyd; a’r gyriad sydd fel gyriad Jehu mab Nimsi; canys y mae efe yn gyrru yn ynfyd. º
21A Joram a ddywedodd, Rhwym ff cerbyd. Yntau a rwymodd ei gerbyd ef. A Joram brenin Israel a aeth allan, ac Ahaseia brenin Jwda, pob un yn ei gerbyd, a hwy a aethant yn erbyn Jena, a chyfarfuant ag ef yn rhandir Naboth y Jesreeliad. º
22A phan welodd Joram Jehu, efe a ddywedodd, A oes heddwch, Jehu? Dywedodd yntau, Pa heddwch tra fyddo puteindra Jesebel dy fam di, a’i hudoliaeth, mor aml? º
23A Joram a drodd ei law, ac a ffodd, ac a ddywedodd wrth Ahaseia, Y mae bradwriaeth, O Ahaseia. º
24A Jehu a gymerth fwa yn ei law, ac a drawodd Joram rhwng ei ysgwyddau, fel yr aeth y saeth trwy ei galon ef, ac efe a syrthiodd yn ei gerbyd. º
25A Jehu a ddywedodd wrth Bidcar ei dywysog, Cymer, bwrw ef i randir maes Naboth y Jesreeliad: canys cofia pan oeddem ni, mi a thi, yn marchogaeth ynghyd ein dau ar ôl Ahab ei dad ef, roddi o’r ARGLWYDD arno ef y baich hwn. º
26Diau, meddai yr ARGLWYDD, gwaed Naboth, a gwaed ei feibion, a welais i neithiwr, a mi a dalaf i ti yn y rhandir hon, medd yr ARGLWYDD. Gan hynny cymer a bwrw ef yn awr yn y rhandir hon, yn ôl gair yr ARGLWYDD. º
27Ond pan welodd Ahaseia brenin Jwda hynny, efe a ffodd ar hyd ffordd tŷ yr ardd. A Jehu a yrnlidiodd ar ei ôl ef, ac a ddywedodd, Trewch hwn hefyd yn ei gerbyd. A hwy a’i trawsant ef yn rhiw Gur, yr hon sydd wrth Ibleam; ac efe a ffodd i Megido, ac a fu farw yno. º
28A’i weision a’i dygasant ef mewn cerbyd i Jerwsalem, ac a’i claddasant ef yn ei feddrod gyda’i dadau, yn ninas Dafydd. º
29Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg’i Joram mab Ahab yr aethai Ahaseia yn frenin ar Jwda. º
30A phan ddaeth Jehu i Jesreel, Jesebel a glybu hynny, ac a golurodd ei hwyneb, ac a wisgodd yn wych am ei phen, ac a edrychodd trwy ffenestr. º
31A phan oedd Jehu yn dyfod i mewn i’r porth, hi a ddywedodd, A fu heddwch "i Simri, yr hwn a laddodd ei feistr? º
32Ac efe a ddyrchafodd ei wyneb at y ffenestr, ac a ddywedodd, Pwy sydd gyda mi, pwy? A dau neu dri o’r ystafellyddion a edrychasant arno ef. º
33Yntau a ddywedodd, Teflwch hi i lawr. A hwy a’i taflasant hi i lawr; a thaenellwyd peth o’i gwaed hi ar y pared, ac ar y meirch: ac efe a’i mathrodd hi. º
34A phan ddaeth efe i mewn, efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a ddywedodd, Edrychwch am y wraig felltigedig honno, a. chleddwch hi; canys merch brenin ydyw hi. º
35A hwy a aethant i’w chladdu hi; ond ni chawsant ohoni onid y benglog a’r traed, a chledrau’r dwylo. º
36Am hynny hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant iddo ef. Dywedodd yntau, Dyma air yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarodd efe trwy law ei wasanaethwr Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, Yn rhandir Jesreel y bwyty y own gnawd Jesebel: º
37A chelain Jesebel a fydd fel tomen ar wyneb y maes, yn rhandir Jesreel; fel na ellir dywedyd, Dyma Jesebel.