The Bible Software
Llyfr Cyntaf y Cronicl · Beibl (1620)

Llyfr Cyntaf y Cronicl 19

1A phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd a sachliain, ac a aeth i mewn i dŷ yr ARGLWYDD. º

2Ac efe a anfonodd Eliacim, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeinaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos. º

3A hwy a ddywedasant wrtho ef. Fel hyn y dywed Heseceia, Diwrnod cyfyng-dra, a cherydd, a chabledd yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor. º

4Fe allai y gwrendy yr ARGLWYDD dy DDUW holl eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr ef i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr ARGLWYDD dy DDUW: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i’w gael. º

5Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia. º

6Ac Eseia a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi. º

7Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw swn, ac a ddychwel i’w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun. º

8Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn ymladd yn erbyn Libna: canys efe a glywsai fyned ohono ef ymaith o Lachis. º

9A phan glybu efe am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Wele, efe a ddaeth allan i ryfela a thi; efe a anfonodd genhadau drachefn at Heseceia, gan ddy¬wedyd, º

10Fel hyn y lleferwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy DDUW di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerw¬salem yn llaw brenin A;, yna. º

11Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria 1’r holl wiedyddy gan eu difrodi hwynt: ac a waredir di? º

12A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i’m tadau i eu dinistrio; sef Gosan, a Haran, a Rcseff, a meibion Eden y rhai oedd o fewn Thelasar? º

13Mae brenin Hamath, a brenin Arpad, a brenin dinas Seffarfaim, Hena, ac Ifa? º

14y A Heseceia a gymerodd y llythyrau o law y cenhadau, ac a’u darilenodd hwy: a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr ARGLWYDD, ac a’u lledodd hwynt gerbron yr ARGLWYDD. º

15A Heseceia a weddïodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, tydi sydd DDUW, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear; ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear. º

16Gogwydda, ARGLWYDD, dy glust, a gwrando: agor dy lygaid, ARGLWYDD, ac edrych; a gwrando eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw. º

17Gwir yw, O ARGLWYDD, i frenhinoedd Asyria ddifa’r holl genhedloedd a’u tir, º

18A rhoddi eu duwiau hwynt yn tân: canys nid oeddynt hwy dduwiau, eithr gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt. º

19Yn awr gan hynny, O ARGLWYDO ein Duw ni, achub ni, atolwg, o’i law ef, fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai tydi yw yr ARGLWYDD DDUW, tydi yn unig. º

20Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Gwrandewais ar yr hyn a weddïaist arnaf fi yn erbyn Senacherib brenin Assyria. º

21Dyma y gair a lefarodd yr AR¬GLWYDD yn ei erbyn ef, Y forwyn merch Seion a’th ddirmygodd di, ac a’th wat-warodd; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl di. º

22Pwy a ddifenwaist ti, ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist ti dy lef, ac y codaist yn uchel dy lygaid? yn erhya Sanct Israel. º

23Trwy law dy genhadau y ceblaist ti yr ARGLWYDD, ac y dywedaist, A lliaws fy ngherbydau y dringais i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd ef, a’i ddewis ffynidwydd ef, af hefyd i’w lety eithaf, ac i goedwig ei ddoldir ef. º

24Myfi a gloddiais; ac a yfais ddyfroedd dieithr, ac a gwadnau fy nhraed y dihysbyddais holl afonydd y gwarchae- edig. º

25Oni chlywaist ti ddarparu ohonof fi hyn er ys talm, ac i mi lunio hynny er y dyddiau gynt? yn awr y dygais hynny i Ben, fel y byddit i ddinistrio dinasoedd caerog yn gameddau dinistriol. º

26Am hynny eu trigolion yn gwtoglaw a ddychrynwyd, ac a gywilyddiwyd: oeddynt megis gwellt y maes, fel gwyrddlysiau, neu laswelltyn ar bennau tai, neu ŷd wedi deifio cyn aeddfedu. º

27Dy eisteddiad hefyd, a’th fynediad allan; a’th ddyfodiad i mewn, a adnabum i, a’th gynddeiriogrwydd i’m herbyn. º

28Am i ti ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th ddadwrdd ddyfod i fyny i’m clustiau i; am hynny y gosodaf fy mach yn dy ffroen, a’m ffrwyn yn dy weflau, ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost. º

29A hyn fydd yn argoel i ti, O Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun, ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch, a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwyt-ewch eu ffrwyth hwynt. º

30A’r gweddill o dŷ Jwda yr hwn a adewir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny. º

31Canys gweddill a â allan o Jerwsalem, a’r rhai dihangol o fynydd Seionr sel ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn. º

32Am hynny fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD am frenin Asyria, Ni ddaw efe i’r ddinas hon, ac nid ergydia saeth yno, hefyd ni ddaw efe o’i blaen hi a tharian, ac ni fwrw glawdd i’w herbyn hi. º

33Ar hyd yr un ffordd ag y daeth, y dychwel efe, ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon, medd yr ARGLWYDD. º

34Canys mi a ddiffynnafy ddinas hon, i’w chadw hi er fy mwyn fy bun, ac??? fflwyn Dafydd fy ngwas. º

35A’r noson honno yr aeth angel yr ARGLWYDD, ac a drawodd yng ngwersyll yr Asyriaid bump a phedwar ugain a chant o filoedd: a phan gyfodasant yn fore drannoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon. º

36Felly Senacherib brenin Asyria a ysiadawodd, ac a aeth ymaith, ac a ddychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe. º

37A bu, fel yr oedd efe yn addoli yn nhŷ Nisroch ei dduw, i Adrammelech a Sareser ei feibion ei ladd ef â’r cleddyf; ai hwy a ddianghasant i wlad Armenia: at Hsarhadon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

← Llyfr Cyntaf y Cronicl 18Read In The App, Free →Llyfr Cyntaf y Cronicl 20 →

Study Llyfr Cyntaf y Cronicl 19

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425