The Bible Software
Llyfr Cyntaf y Cronicl · Beibl (1620)

Llyfr Cyntaf y Cronicl 18

1AC yn y drydedd flwyddyn i Hosea mab AA- Ela brenin Israel, y teyrnasodd Heseceia mab Ahas brenin Jwda. º

2Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin, a naw mlynedd at hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Abi, merch Sach-areia. º

3Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hya oll a wnaethai Dafydd ei dad ef. º

4Efe a dynnodd ymaith yr uchel¬feydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni, ac a faluriodd y sarff bres a wnaethai Moses; canys hyd y dyddiau hynny yr oedd meibion Israel yn arogldarthu iddi hi: ac efe a’i galwodd hi Nehustan. º

5Yn ARGLWYDD DDUW Israel yr ymdiriedodd cfc, ac ar ei ôl ef ni bu ei fath ef ymhlith holl frenhinoedd Jwda, nac ymysg y rhai a fuasai o’i flaen ef. º

6Canys efe a lynodd wrth yr AR¬GLWYDD, ni throdd etc oddi ar ei ôl ef, eithr efe a gadwodd ei orchmymon ef, y rhai a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses, º

7A’r ARGLWYDD fa gydag ef; i ba te bynnag yr aeth, efe a lwyddodd: ae-efe wrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria, ac nis gwasanaethodd ef. º

8Efe a drawodd y Philistiaid hyd Gasa a’i therfynau, o dwr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog. º

9Ac yn y bedwaredd flwyddyn i’r brenin Heseceia, honno oedd y seithfed flwyddyn i Hosea mab Ela brenin Israel, y daeth Salmaneser brenin Asyria i fyny yn erbyn Samaria, ac a warchaeodd arni hi. º

10Ac ymhen y tair blynedd yr enillwyd hi; yn y chweched flwyddyn i Heseceia, honno oedd y nawfed flwyddyn i Hosea brenin Israel, yr enillwyd Samaria. º

11A brenin Asyria a gaethgludodd Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid: º

12Am na wrandawsent ar lais yr AR-©LWYDD eu Duw, eithr troseddu ei gyfamod ef, a’r hyn oll a orchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD, ac na wrandawent arnynt, ac nas gwnaent hwynt. º

13Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i’r brenin Heseceia, y daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl ddinasoedd caerog Jwda, ac a’u henitlodd hwynt. º

14A Heseceia brenin Jwda a anfonodd at frenin Asyria i Lachis, gan ddywedyd, Pechais, dychwel oddi wrthyf: dygaf yr hyn a roddych arnaf. A brenin Asyria a osododd ar Heseceia brenin Jwda, dri chant o dalentau arian, a deg ar hugain o dalentau aur. º

15A Heseceia a roddodd iddo yr lolt arian a gafwyd yn nhŷ yr ARGLWYDP, ac yn nhrysorau tŷ y brenin. º

16Yn yr amser hwnnw y torrodd Heseceia yr aur oddi ar ddrysau teml yr ARGLWYDD, ac oddi ar y colomau a orchuddiasai Heseceia brenin Jwda, ac a’u rhoddes hwynt i frenin Asyria. º

17A brenin Asyria a anfonodd Tartan, a Rabsaris, a Rabsace, o Lachis, at y brenin Heseceia, a llu dh-fawr yn erbyn Jerwsalem. A hwy a aethant i fyny, ac a ddaethant i Jerwsalem. Ac wedi eu dyfod i fyny, hwy a ddaethant ac a safasant wrth bistyll y llyn uchaf, yr hwn sydd ym mhriffordd maes y pannwr. º

18Ac wedi iddynt alw ar y brenin, daeth allan atynt hwy Eliacim mab Hiloeia, yr hwn oedd ben-teulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur. º

19A Rabsace a ddywedodd wrthynt hwy, Dywedwch yn awr wrth Heseceia, Fel hyn y dywedodd y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr wyt yn ymddiried ynddo? º

20Dywedyd yr ydwyt, (ond nid ydynt ond geiriau ofer,) Y mae gennyf gyngor a nerth i ryfel. Ar bwy y mae dy hyder, pan wrthryfelaist i’m herbyn i? º

21Wele yn awr, y mae dy hyder ar y ffon gorsen ddrylliedig hon, ar yr Aifrt * yr hon pwy bynnag a bwyso arni, hi a â i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi hi: felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno ef. º

22

23Ac os dywedwch wrthyf, Yn yr ARGLWYDD ein Duw yr ydym ni ytt ymddiried; onid efe yw yr hwn y tynnodd Heseceia ymaith ei uchelfeydd, a’r allorau, ac y dywedodd wrth Jwda ac wrth Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr ymgrymwch chwi yn Jerwsalem? º 23 Yn awr gan hynny dod wystlon, atolwg, i’m harglwydd, brenin Asyria, a rhoddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt hwy. º

24A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m har¬glwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau a gwŷr meirch? º

25Ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yn erbyn y lle hwn, i’w ddinistrio ef? Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, DOS i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi. º

26Yna y dywedodd Eliacim mab Hiloeia, a Sebna, a Joa, wrth Rabsace, Llefara, atolwg, wrth dy weision yn Syriaeg, canys yr ydym ni yn ei deall hi; ac nac ymddiddan â ni yn iaith yr Iddewon, lle y clywo y bobl sydd ar y mur. º

27Ond Rabsace a ddywedodd wrthynt, Ai at dy feistr di, ac atat tithau, yr anfonodd fy meistr fi, i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur, fel y bwytaont eu torn eu hun, ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi, yr anfonodd fi? º

28Felly Rabsace a safodd, ac a waeddodd a llef uchel yn iaith yr Iddewon, llefarodd hefyd, a dywedodd, Gwrandewch air y brenin mawr, brenin Asyria. º

29Fel hyn y dywedodd y brenin, Na thwylled Heseceia chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi o’m llaw i. º

30Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD gan waredu a’n gwared ni, ac ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria. º

31Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder a mi, a deuwch allan ataf fi, ac yna bwytewch bob un o’i winwydden ei hun, a phob un o’i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun: º

32Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd, gwlad olew olewydd a mêl, fel y bydd-och fyw, ac na byddoch feirw: ac na wrandewch ar Heseceia, pan hudo efe chwi, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a’n gwared ni. º

33A lwyr waredodd yr un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria? º

34Mae duwiau Hamath ac Arpad? mae duwiau Seffarfaim, Hena, ac Ifa? a achubasant hwy Samaria o’m llaw’i? º

35Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd a waredasant eu gwlad o’m llaw i, fel y gwaredai yr ARGLWYDD Jerwsalem o’m llaw i? º

36Eithr y bobl a dawsant, ac nid atebasant air iddo: canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, Nac atebwch ef. º

37Yna y daeth Eliacim mab Hiloeia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrif¬ennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur, at Heseceia, a’u dillad yn rhwygedig, ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace.

← Llyfr Cyntaf y Cronicl 17Read In The App, Free →Llyfr Cyntaf y Cronicl 19 →

Study Llyfr Cyntaf y Cronicl 18

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425