Llyfr Cyntaf y Cronicl 21
3Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd a ddinistriasai Heseceia ei dad ef; ac a gyfododd allorau i Baal, ac a wnaeth lwyn, fel y gwnaethai Ahab brenin Israel, ac a addolodd holl lu’r nefoedd, ac a’u gwasanaethodd hwynt. º
4Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr ARGLWYDD, am yr hwn y dywedasai yr ARGLWYDD, Yn Jerwsalem y gosodaf fy enw. º
5Ac efe a adeiladodd allorau i holl la’r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr ARGLWYDD. º
6Ac efe a dynnodd ei fab trwy dan, ac a arferodd hudoliaeth, a brudiau, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i’w ddigio ef. º
7Ac efe a osododd ddelw gerfiedig y llwyn a wnaethai efe, yn y tŷ am yr hwn y dywedasai yr ARGLWYBD wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fi fy eaw yn dragywydd: ‘l MliAiwm º
8Ac ni symudaf mwyach droed Israel o’r wlad a roddais i’w tadau hwynt: yn unig os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, ac yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iddynt. º
9Ond ni wrandawsant hwy: a Manasse a’u cyfeiliornodd hwynt i wneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr ARGLWYDD o flaen meibion Israel. º
10A llefarodd yr ARGLWYDD trwy law ei weision y proffwydi, gan ddywedyd, º
11Oherwydd i Manasseh brenhin Jwda wneuthur y ffieidd-dra hyn, a gwneuthur yn waeth na’r hyn oll a wnaethai yr Amoriaid a fu o’i flaen ef, a pheri i Jwda bechu trwy ei eilunod: º
12Oblegid hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Wele fi yn dwyn drwg ar Jerwsalem a Jwda, fel y merwino dwy glust y sawl a’i clywant. º
13A mi a estynnaf linyn mesur Sami aria ar Jerwsalem, a phwys tŷ Ahab: golchaf hefyd Jerwsalem fel y gylch un gwpan, yr hwn pan olcho, efe a’i try ar ei wyneb. º
14A mi a wrthodaf weddill fy etifeddiaeth, ac a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, a hwy a fyddant yn anrhaith ac yn ysbail i’w holl elynion: º
15Am iddynt wneuthur yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i, a’u bod yn fy nigio i, er y dydd y daeth eu tadau hwynt allan o’r Aifft, hyd y dydd hwn. º
16Manasse hefyd a dywalltodd lawer iawn o waed gwirion, hyd oni lanwodd efe Jerwsalem o ben bwygilydd; heblaw ei bechod trwy yr hwn y gwnaeth efe i Jwda bechu, gan wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. º
17A’r rhan arall o hanes Manasse, a’r hyn a wnaeth efe, a’i bechod a bechodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrif-enedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? º
18A Manasse a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yng ngardd ei dy ei hun, sef yng ngardd Ussa; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º
19Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerw¬salem: ac enw ei fam ef oedd Mesul-emeth, merch Harus o Jotba. º
20Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaethai Manasse ei dad. º
21Ac efe a rodiodd yn yr holl ffyrdd y rhodiasai ei dad ynddynt, ac a wasanaethodd yr eilunod a wasanaethasai ei dad, ac ‘ a ymgrymodd iddynt: º
22Ac efe a wrthododd ARGLWYDD DDUW ei dadau, ac ni rodiodd yn ffordd yr ARGLWYDD. º
23A gweision Amon a fradfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a laddasant y brenin yn ei dy ei hun. º
24A phobl y wlad a laddodd yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon: a phobl y wlad a osodasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef. º
25A’r rhan arall o hanes Amon, yr hyn a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrif-enedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? º
26A chladdwyd ef yn ei feddrod yng ngardd Ussa; a Joseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.