The Bible Software
Llyfr Cyntaf y Cronicl · Beibl (1620)

Llyfr Cyntaf y Cronicl 13

1YN y drydedd flwyddyn ar hugain i Joas mab Ahaseia brenin Jwda, y teyrnasodd Joahas mab Jehu ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe. º

2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a rodiodd ar ôl pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; ni throdd oddi wrthynt hwy. º

3A digofaint yr ARGLWYDD a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw Hasael brenin Syria, ac yn llaw Benhadad mab Hasael, eu holl ddyddiau hwynt. º

4A Joahas a erfyniodd ar yr ARGLWYDD, a gwrandawodd yr ARGLWYDD arno ef; oherwydd iddo ganfod gorthrymder Israel, canys brenin Syria a’u gorthrynaai hwynt. º

5(A’r ARGLWYDD a roddodd achubwr i Israel, fel yr aethant oddi tan law y Syriaid: a meibion Israel a drigasant yn eu pebyll fel cynt. º

6Eto ni throesant hwy oddi wrth bechodau tŷ Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, eithr rhodiasant ynddyn): hwy: a’r llwyn hefyd a safai yn Samaria.) º

7Ac ni adawodd efe i Joahas o’r bobl;, ond deg a deugain o wŷr meirch, a deg cerbyd, a deng mil o wŷr traed: oherwydd brenin Syria a’u dinistriasai hwynt, ac a’u gwnaethai hwynt fel llwch wrth ddyrnu. º

8A’r rhan arall o hanes Joahas, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Israel? º

9A Joahas a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn Samaria, a Joas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º

10Yn y ddwyfed flwyddyn ar bym¬theg ar hugain i Joas brenin Jwda, y teyrnasodd Joas mab Joahas ar Israel yn Samaria: un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe. º

11Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni throdd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; eithr efe a rodiodd ynddynt. º

12A’r rhan arall o hanes Joas, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid, trwy yr hwn yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Israel? º

13A Joas a hunodd gyda’i dadau, a Jeroboam a eisteddodd ar ei deyrngadair ef: a Joas a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel. º

14Ac yr oedd Eliseus yn glaf o’r clefyd y bu efe farw ohono: a Joas brenin Israel a ddaeth i waered ato ef, ac a wylodd ar ei wyneb ef, ac a ddywedodd, O fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a’i farchogion. º

15Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef, Cymer fwa a saethau. Ac efe a gymerth fwa a saethau. º

16Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel, Dod dy law ar y bwa. Ac efe a roddodd ei law: ac Eliseus a osododd ei ddwylo ar ddwylo’r brenin. º

17Ac efe a ddywedodd, Agor y ffenestr tua’r dwyrain. Yntau a’i hagorodd. Yna y dywedodd Eliseus, Saetha. Ac efe a saethodd. Dywedodd yntau, Saeth ymr wared yr ARGLWYDD, a saeth ymwared rhag Syria; a thi a drewi y Syriaid yn Affec, nes eu difa hwynt. º

18Hefyd efe a ddywedodd, Cymer y saethau. Ac efe a’u cymerodd. Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel, Taro y ddaear. Ac efe a drawodd dair gwaiti, ac a beidiodd. º

19A gŵr Duw a ddigiodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Dylesit daro bump neu chwech o weithiau, yna y trawsit Syria nes ei difa: ac yn awr tair gwaith y trewi Syria. º

20Ac Eliseus a fu farw, a hwy a’i claddasant ef. A minteioedd y Moabiaid a ddaethant i’r wlad y flwyddyn honno. º

21A phan oeddynt hwy yn claddu gŵr, wele, hwy a ganfuant dorf, ac a fwriasant y gŵr i feddrod Eliseus. A phan aeth y gŵr i lawr a chyftwrdd ag esgyrn Eliseus, efe a ddadebrodd, ac a gyfododd ar ei draed. º

22A Hasael brenin Syria a orthrymodd Israel holl ddyddiau Joahas. º

23A’r ARGLWYDD a drugarhaodd wrth¬ynt hwy, ac a dosturiodd wrthynt hwy, ac a drodd atynt hwy, er mwyn ei gyfamod ag Abraham, Isaac, a Jacob, ac ni fynnai eu dinistrio hwynt, ac ni fwriodd efe hwynt allan o’i olwg hyd yn hyn. º

24Felly Hasael brenin Syria a fu farw; a Benhadad ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º

25A Joas mab Joahas a enillodd yn eu hôl o law Benhadad mab Hasael, y dinasoedd a ddygasai efe o law Joahas ei dad ef mewn rhyfel: Joas a’i trawodd ef dair gwaith, ac a ddug adref ddinasoedd Israel.

← Llyfr Cyntaf y Cronicl 12Read In The App, Free →Llyfr Cyntaf y Cronicl 14 →

Study Llyfr Cyntaf y Cronicl 13

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425