Llyfr Cyntaf y Cronicl 8
1YNA Eliseus a lefarodd wrth y wraig y bywhasai efe ei mab, gan ddy¬wedyd, Cyfod, a dos,ti a’th dylwyth, ac ymdeithia lle y gellych ymdeithio: canys yr ARGLWYDD a alwodd am newyn, a hwnnw a ddaw ar y wlad saith mlynedd. º
2A’r wraig a gyfododd, ac a wnaeth yn ôl gair gŵr Duw: a hi a aeth, hi a’i thylwyth, ac a ymdeithiodd yng ngwlad y Philistiaid saith mlynedd. º
3Ac ymhen y saith mlynedd, y wraig a ddychwelodd o wlad y Philistiaid: a hi a aeth i weiddi ar y brenin am ei thy, ac am ei thir. º
4A’r brenin oedd yn ymddiddan â Gehasi gwas gŵr Duw, gan ddywedyd, Adrodd i mi, atolwg, yr holl bethau mawr a wnaeth Eliseus. º
5Ac fel yr oedd efe yn mynegi i’r brenin y modd y bywhasai efe y marw, yna wele y wraig y bywhasai efe ei mab yn gweiddi ar y brenin am ei thy, ac am ei thir. A Gehasi a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, dyma’r wraig, a dyma ei mab yr hwn a ddarfu i Eliseus ei fywhau. º
6A’r brenin a ofynnodd i’r wraig; a hithau a fynegodd iddo ef. A’r brenin a roddodd iddi ryw ystafellydd, gan ddy¬wedyd, Dod drachefn yr hyn oll oedd eiddi hi, a holl gnwd y maes, o’r dydd y gadawodd hi y wlad hyd y pryd hwn. º
7A daeth Eliseus i Damascus: a Benhadad brenin Syria oedd glaf; a mynegwyd iddo ef, gan ddywedyd, Daeth gŵr Duw yma. º
8A’r brenin a ddywedodd wrth Hasael, Cymer anrheg yn dy law, a dos i gyfarfod â gŵr Duw; ac ymofyn a’r ARGLWYDD trwyddo ef, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn? º
9Felly Hasael a aeth i’w gyfarfod ef, ac a gymerth anrheg yn ei law, a phob peth a’r a oedd dda o Damascus, sef Bwyth deugain o gamelod; ac a ddaeth, ac a safodd o’i flaen ef, ac a ddywedodd, Benhadad brenin Syria dy fab a’m hanfonodd atat, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn? º
10Ac Eliseus a ddywedodd wrtho, DOS, a dywed wrtho, Diau y gelli fyw: eto yr ARGLWYDD a ddangosodd i mi y bydd efe marw yn ddiau. º
11Ac efe a osododd ei wyneb, ac a ddaliodd sylw arno, nes cywil yddio ohono ef: a gŵr Duw a wylodd. º
12A Hasael a ddywedodd, Paham y mae fy arglwydd yn wylo? Dywedodd yntau. Am fy mod yn gwybod y drwg a wnei di i feibion Israel: eu hamddiffynfaoedd hwynt a losgi di â thân, a’u gwŷr ‘ieuainc a leddi â’r cleddyf, a’u plant a bwyi, a’u gwragedd beichiogion a rwygi. º
13A Hasael a ddywedodd. Pa beth! ai ei yw dy was, fel y gwnelai efe y mawr beth hyn? Ac Eliseus a ddywedodd, Yr ARGLWYDD a ddangosodd i mi y byddi di, yn frenin ar Syria. º
14Felly efe a aeth ymaith oddi wrth Eliseus, ac a ddaeth at ei arglwydd; yr hwn a ddywedodd wrtho, Beth a ddy¬wedodd Eliseus wrthyt ti? Ac efe a ateb¬odd, Efe a ddywedodd wrthyf, y byddit ti byw yn ddiau. º
15A thrannoeth efe a gymerth wrthban, ac a’i gwlychodd mewn dwfr, ac a’i lledodd ar ei wyneb ef, fel y bu efe farw: a Hasael a deyrnasodd yn ei le ef. º
16Ac yn y bumed flwyddyn i Jorara mab Ahab brenin Israel, a Jehosaffat yn, frenin yn Jwda, y dechreuodd Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda deyrnasu. º
17Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu; ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. º
18Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhin¬oedd Israel, fel y gwnai tŷ Ahab: canys merch Ahab oedd yn wraig iddo: felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. º
19Ond ni fynnai yr ARGLWYDD ddifetha Jwda, er mwyn Dafydd ei was; megis yr addawsai efe, y rhoddai iddo oleuni, ac i’w feibion yn dragywydd. º
20Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hunain. º
21A Joram a aeth trosodd i Sair, a’r holl gerbydau gydag ef; ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau: a’r bobl a ffodd i’w pebyll. º
22Er hynny Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn. Yna y gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw. º
23A’r rhan arall o hanes Joram, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? º
24A Joram a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd; ac Ahaseia ei fab a deyrnasoddi yn ei le ef. º
25Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel yr aeth Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda yn frenin. º
26Mab dwy flwydd ar hugain oedd Ahaseia pan aeth efe yn frenin; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Athaleia, merch Omri brenin Israel. º
27Ac efe a rodiodd yn ffordd tŷ Ababa ac a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel tŷ Ahab: canys’ daw tŷ Ahab ydoedd efe. º
28Ac efe a aeth gyda Joram mab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i RamothGilead; a’r Syriaid a drawsant Joram. º
29A Joram y brenin a ddychwelodd i Jesreel i ymiacháu o’r briwiau a roesai y Syriaid iddo ef yn Rama, wrth ymladd, ohono ef yn erbyn Hasael brenin Syria: ac Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled a Joram mab Ahab yn Jesreel; canys claf ydoedd.