The Bible Software
Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd · Beibl (1620)

Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 10

1A ar ôl hyn y bu i frenin meibion Ammon farw, a Hanun ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º

2Yna y dywedodd Dafydd, Mi a wnaf garedigrwydd a Hanun mab Nahas, megis y gwnaeth ei dad ef garedigrwydd a mi. A Dafydd a anfonodd gyda’i weision i’w gysuro ef am ei dad. A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon. º

3A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun eu haiglwydd., Wyt ti yn tybied mai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd, oherwydd iddo ddanfon cysurwyr atat ti? onid er mwyq chwilio’r ddinas, a’i throedio, a’i difetha, yr anfonodd Dafydd ei weision atat ti? º

4Yna Hanun a gymerth weision Da¬fydd, ac a eilliodd hanner eu barfau hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, hyd eu cluniau, ac a’u go-llyngodd hwynt ymaith. º

5Pan fynegwyd hyn i Dafydd, efe a anfonodd i’w cyfarfod hwynt; canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Arhoswch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau chwi, ac yna dychwelwch. º

6A meibion Ammon a welsant eu bod yn ffiaidd gan Dafydd; a meibion Ammon a anfonasant ac a gyflogasant y Syriaid o Bethrehob, a’r Syriaid o Soba, ugain mil o wŷr traed, a chan frenin Maacha fil o wŷr, ac o Istob ddeuddeng mil o wŷr. º

7A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn. º

8A meibion Ammon a ddaethant, ac a luniaethasant ryfel wrth ddrws y porth: a’r Syriaid o Soba, a Rehob, ac o Istob, a Maacha, oedd o’r neilitu yn y maes. º

9Pan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe. a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a ymfyddinodd yn erbyn y Syriaid. º

10A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd, i’w byddino yn erbyn meibion Ammon. º

11Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di i mi yn gynhorthwy; ond os meibion Ammon fyddant drech na thi, yna y deuaf i’th gynorthwyo dithau. º

12Bydd bybyr, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw: a gwnaed yr ARGLWYDD yr hyn fyddo da yn ei olwg ef. º

13A nesaodd Joab, a’r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel; a hwy a ffoesant o’i flaen ef. º

14A phan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid, hwythau a ffoesant o flaen Abisai, ac a aethant i’r ddinas. A dych welodd Joab oddi wrth feibion Ammon, ac a ddaeth i Jerwsalem. º

15A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a ymgynullasant ynghyd. º

16A Hadareser a anfonodd, ac a ddug y Syriaid oedd o’r tu hwnt i’r afon: a hwy a ddaethant i Helam, a Sobach tywysog llu Hadareser o’u blaen. º

17A phan fynegwyd i Dafydd hynny, fife a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth i Helam: a’r Synaid a ymfyddinasant yn erbyn Da¬fydd, ac a ymladdasant ag ef. º

18A’r Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a Dafydd a laddodd o’r Syriaid, wŷr saith gant o gerbydau, a deugain mil o wŷr meirch: ac efe a drawodd Sobach tywysog eu llu hwynt, fel y bu efe farw yno. º

19A phan welodd yr holl frenhinoedd oedd weision i Hadareser, eu lladd hwynt o flaen Israel, hwy a heddychasant ag Israel, ac a’u gwasanaethasant hwynt. A’r Syriaid a ofnasant gynorthwyo meib¬ion Ammon mwyach.

← Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 9Read In The App, Free →Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 11 →

Study Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 10

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324