Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 23
1DYMA eiriau diwethaf Dafydd. Dy-wedodd Dafydd mab Jesse, a dywedodd y gŵr a osodwyd yn uchel, eneiniog Duw Jacob, a pheraidd gamedydd Israel, º
2Ysbryd yr ARGLWYDD a lefarodd ynof fi, a’i ymadrodd ef oedd ar fy nhafod. º
3Duw Israel a ddywedodd wrthyflfi, Craig Israel a..ddywedodd, ByddeA llywodraethwr ar ddynion yn gyfiawn, yn llywodraethu mewn i?fn Duw: º
4Ac efe a fydd fel y bore-oleuni, pan gyfodo haul foregwaith heb gymylau: fel eginyn a dyf o’r ddaear, gan lewyrchiad yn ôl glaw. º
5Er nad yw fy nhŷ i felly gyda Duw; eto cyfamod tragwyddol a wnaeth efe a mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr; canys fy holl iachawdwriaeth, a’m holl ddymuniad yw, er nad yw yn peri iddo flaguro. º
6A’r anwir fyddant oll fel drain wedi eu bwrw heibio: canys mewn llaw nis cymerir hwynt. º
7Ond y gŵr a gyffyrddo a hwynt a ddiffynnir a haearn, ac a phaladr gwayw-ffon; ac â thân y llosgir hwynt yn eu lle. º
8Dyma enwau y cedyrn oedd gan Dafydd. Y Tachmoniad a eisteddai yn y gadair, yn bennaeth y tywysogion; hwnnw oedd Adino yr Esniad: efe a ruthrodd yn erbyn wyth cant, y rhai a laddodd efe ar unwaith. º
9Ac ar ei ôl ef yr oedd Eleasar mab Dodo, mab Ahohi, ymhiith y tri chadarn, gyda Dafydd, pan ddifenwasant hwy y Philistiaid a ymgynullasent yno i ryfel, a phan aeth gwŷr Israel ymaith. º
10Efe a gyfododd, ac a drawodd ar y Philistiaid, nes diffygio ei law ef a glynu o’i law ef wrth y cleddyf: a’r ARGLWYDD a wnaeth iachawdwriaeth mawr y diwrnod hwnnw; a’r bobl a ddychwelasant ar ei ôl ef yn unig i anrheithio. º
11Ac ar ei ôl ef yr oedd Samma mab Age yr Harariad. A’r Philistiaid a ymgyn¬ullasent yn dorf; ac yr oedd yno ran o’r maes yn llawn o ffacbys: a’r bobl a ffodd o flaen y Philistiaid. º
12Ond efe a safodd yng nghanol y rhandir, ac a’i hachubodd, ac a laddodd y Philisitiaid. Felly y gwnaeth yr AR¬GLWYDD ymwared mawr. º
13A thri o’r deg pemiaeth ar hugain a ddisgynasant, ac a ddaethant y cynhaeaf at Dafydd i ogof Adulam: a thorf y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Refiaim., º
14A Dafydd oedd yna mewn amddi- ffynfa: a sefyllfa y Philistiqid ydoedd yna yn Bethlehem. º
15A blysiodd Dafydd, a dywedodd, Pwy a’m dioda i a dwfr o bydew Bethle¬hem, yr hwn sydd wrth y porth? º
16A’r tri chadarn a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwft o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a’i cymerasant hefyd, ac a’i dygasant at Dafydd: ond ni fynnai efe ei yfed, eithr efe a’i diodoffrymodd ef i’r ARGLWYDD; º
17Ac a ddywedodd, Na ato yr AR¬GLWYDD i mi wneuthur hyn; onid gwaed y gwŷr a aethant mewn enbydrwydd am eu heinioes yw hwn? Am hynny ni fynnai efe ei yfed. Hyn a wnaeth y tri chadarn hynny. º
18Ac Abisai brawd Joab, mab Serfia, oedd bennaf o’r tri. Ac efe a gyfododd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a’u lladdodd hwynt: ac iddo ef yr oedd yr enw ymhiith y tri. º
19Onid anrhydeddusaf oedd efe o’r tri? a bu iddynt yn dywysog: eto ni’ chyrhaeddodd efe y tri chyntaf. º
20A Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, aml ei weithredoedd, efe a laddodd ddau o gedyrn Moab: ac efe a aeth i waered, ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira. º
21Ac efe a drawodd Eifftddyn, gŵr golygus o faint: ac yn llaw yr Eifftiad yr oedd gwaywffon; eithr efe a ddaeth i waered ato ef a ffon, ac a ddug y wayw¬ffon o law yr Eifftiad, ac a’i lladdodd ef a’i waywffon ei hun. º
22Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada: ac iddo yr oedd yr enw ymhiith y tri chadarn. º
23Anrhydeddusach oedd na’r deg ar hugain; ond ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf: a Dafydd a’i gosododd ef ar ei wŷr o gard. º
24Asahel brawd Joab oedd un o’r’ deg ar hugain; Elhanan mab Dodo y Bethlehemiad, º
25Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad, º
26Heles y Pa&iad, Ira mab Icces y Tecoiad, º
27Abieser yr Anathuthiad, Mebunnflii;’ yr Husaihiad, º
28Salmon yr Ahohiad, Maharai y Netoffathiad, º
29Heleb mab Baana y Netoffathiad, Ittai mab Ribai o Gibea meibion Ben¬jamin, º
30Benaia y’Pirathoniad, Hidai o afonydd Gaas, º
31Abi-alboa yr Arbathiad, AsmafetB y Barhumiad, º
32Eliahba y Saalboniafl; o feibion Jasen, Jonathan, º
33Samma yr Harariad, Ahiam mab. Sarar yr Harariad, º
34Eliffelet mab Ahasbai, mab y Maachathiad, Eliam mab Ahitoffel y Giloniad, º
35Hesrat y Carmeliad. Paarai yr Arbiad, º
36Igal mab Nathan o Soba, Bani y Gadiad, º
37Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad yn dwyn arfau Joab mab Serfia, º
38Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, º
39Ureias yr Hethiad: dau ar bymtheg ar hugain o gwbl.