The Bible Software
Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd · Beibl (1620)

Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 19

1AMYNEGWYD i Joab, Wele y brenin yn wylo, ac yn galaru am Absalom. º

2A’r fuddugoliaeth a aeth y dwthwn hwnnw yn alar i’r holl bobl: canys clywodd y bobl y diwrnod hwnnw ddywedyd, dristau o’r brenin am ei fab. º

3A’r bobl a aethant yn lladradaidd y diwrnod hwnnw i mewn i’r ddinas, fel pobl a fyddai yn myned yn lladradaidd wedi eu cywilyddio wrth ffoi o ryfel. º

4Ond y brenin a orchuddiodd ei wyneb; a’r brenin a waeddodd â llef uchel, O fy mab Absalom, Absalom, fy mab, fy mab! º

5A Joab a ddaeth i mewn i’r ty at y brenin, ac a ddywedodd, Gwaradwydd-aist heddiw wynebau dy holl weision, y rhai a amddiffynasant dy einioes di heddiw, ac einioes dy feibion a’th ferched, ac einioes dy wragedd, ac einioes dy ordderchwragedd; º

6Gan garu dy gaseion, a chasau dy garedigion: canys dangosaist heddiw nad oedd ddim gennyt dy dywysogion, na’th weision: oherwydd mi a wn heddiw, pe Absalom fuasai byw, a ninnau i gyd yn feirw heddiw, mai da fuasai hynny yn dy olwg di. º

7Cyfod yn awr gan hynny, cerdda allan, a dywed yn deg wrth dy weision: canys yr wyf fi yn tyngu i’r ARGLWYDD, os ti nid ei allan, nad erys neb gyda thi y nos hon; a gwaeth fydd hyn i ti na’r holl ddrwg a ddaeth i’th erbyn di o’th febyd hyd yr awr hon. º

8Yna y brenin a gyfododd, ac a eisteddodd yn y porth. A mynegwyd i’r holl bobl, gan ddywedyd, Wele y brenin yn eistedd yn y porth. A’r holl bobl a ddaethant o flaen y brenin: canys Israel a ffoesai bob un i’w babell. º

9Ac yr oedd yr holl bobl yn ymryson trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Y brenin a’n gwaredodd ni o law ein gelynion, ac efe a’n gwaredodd ni o law y Philistiaid; ac yn awr efe a ffodd o’r wlad rhag Absalom. º

10Ac Absalom, yr hwn a eneiniasom ni arnom, a fu farw mewn rhyfel: ac yn awr paham yr ydych heb son am gyrchu y brenin drachefn? º

11A’r brenin Dafydd a anfonodd at Sadoc ac at Abiathar yr offeiriaid, gan ddywedyd, Lleferwch wrth henuriaid Jwda, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi olaf i ddwyn y brenin yn ei ôl i’w dy? canys gair holl Israel a ddaeth at y brenin, hyd ei dŷ. º

12Fy mrodyr ydych chwi; fy asgwrn a’m cnawd ydych chwi: paham gan hynny yr ydych yn olaf i ddwyn y brenin adrcf? º

13Dywedwch hefyd wrth Amasa, Onid fy asgwrn i a’m cnawd wyt ti? Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, onid tywysog y llu fyddi di ger fy mron i yn lle Joab byth. º

14Ac efe a drodd galon holl wŷr Jwda, fel calon un gŵr: a hwy a anfonasant at y brenin, gan ddywedyd, Dychwel di a’th holl weision. º

15Felly y brenin a ddychwelodd, ac a ddaeth i’r Iorddonen. A Jwda a ddaeth i Gilgal, i fyned i gyfarfod a’r brenin, i ddwyn y brenin dros yr Iorddonen. º

16A Simei mab Gera, mab Jemini, yr hwn oedd o Bahurim, a frysiodd, ac a ddaeth i waered gyda gwŷr Jwda, i gyfar¬fod a’r brenin Dafydd. º

17A mil o wŷr o Benjamin oedd gydag ef; Siba hefyd gwas ty Saul, a’i bymtheng mab a’i ugain gwas gydag ef: a hwy a aethant dros yr Iorddonen o flaen y brenin. º

18Ac ysgraff a aeth drosodd i ddwyn trwodd dylwyth y brenin, ac i wneuthur yr hyn fyddai da yn ei olwg ef. A Simci mab Gcra a syrthiodd gerbron y brenin, pan ddaeth efe dros yr Iorddonen; º

19Ac a ddywedodd wrth y brenin, Na ddanoded fy arglwydd i mi anwiredd, ac na chofia yr hyn a wnaeth dy was yn anwir y dydd yr aeth fy arglwydd frenin o Jerwsalem, i osod o’r brenin hynny at ei galon. º

20Canys dy was sydd yn cydnabod bechu ohonof fi: ac wele, deuthum heddiw yn gyntaf o holl dy Joseff, i ddyfod i waered i gyfarfod a’m harglwydd frenin. º

21Ac Abisai mab Serfia a atebodd, ac a ddywedodd, Ai oherwydd hyn ni roddir Simei i farwolaeth, am iddo fell-tithio eneiniog yr ARGLWYDD? º

22A dywedodd Dafydd, Beth sydd i mi a wnelwyf a chwi, meibion Serfia, fel y byddech i mi yn wrthwynebwyr heddiw? a roddir i farwolaeth heddiw neb yn Israel? canys oni wn i, mai heddiw yr ydwyf fi yn frenin ar Israel? º

23A’r brenin a ddywedodd wrth Simei, Ni byddi di farw: a’r brenin a dyngodd wrtho ef. º

24Mcffiboseth mab Saul hefyd a ddaeth i waered i gyfarfod a’r brenin; ac ni olchasai efe ei draed, ac ni thorasai ei farf, ac ni olchasai ei ddillad, er y dydd yr aethai’r brenin hyd y dydd y daeth efe drachefn mewn heddwch. º

25A phan ddaeth efe i Jerwsalem i gyfarfod a’r brenin, yna y dywedodd y brenin wrtho ef, Paham nad aethost ti gyda mi, Meffiboseth? º

26Ac efe a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, fy ngwas a’m twyllodd i: canys dywedodd dy was, Cyfrwyaf i mi asyn, fel y marchogwyf arno, ac yr elwyf at y brenin; oherwydd cloff yw dy was. º

27Ac efe a enllibiodd dy was wrth fy arglwydd frenin; ond fy arglwydd frenin sydd fel angel Duw: am hynny gwna yr hyn fyddo da yn dy olwg. º

28Canys nid oedd holl dy fy nhad i ond dynion meirw gerbron fy arglwydd y brenin; eto tydi a osodaist dy was ymhiith y rhai oedd yn bwyta ar dy fwrdd dy hun: pa gyfiawnder gan hynny sydd i mi bellach i weiddi mwy ar y brenin? º

29A’r brenin a ddywedodd wrtho, I ba beth yr adroddi dy faterion ymhellach? dywedais, Ti a Siba rhennwch y tir. º

30A Meffiboseth a ddywedodd wrth y brenin, Ie, cymered efe y cwbl, gan ddy¬fod fy arglwydd frenin i’w dy mewn heddwch. º

31A Barsilai y Gileadiad a ddaeth i waered o Rogelim; ac a aeth dros yr Iorddonen gyda’r brenin, i’w hebrwng efdros yr Iorddonen. º

32A Barsilai oedd hen iawn, yn fab pedwar ugain mlwydd: efe oedd yn dar-paru lluniaeth i’r brenin tra yr ydoedd efe ym Mahanaim; canys gŵr mawr iawn oedd efe. º

33A’r brenin a ddywedodd with Barsilai, Tyred drosodd gyda mi, a nri a’th borthaf di gyda mi yn Jerwsalem. º

34A Barsilai a ddywedodd wrth y brenin. Pa faint yw dyddiau blynyddoedd fy einioes i, fel yr elwn i fyny gyda’r brenin i Jerwsalem? º

35Mab pedwar ugain mlwydd ydwyf fi heddiw: a wn i ragoriaeth rhwng da a drwg? a ddichon dy was di archwaethu yr hyn a fwytaf, neu yr hyn a yfaf? a glywaf fi bellach lais cerddorion a cherdd-oresau? paham gan hynny y bydd dy was mwyach yn faich ar fy arglwydd fren-in? º

36Dy was a â ychydig tu hwnt i’r Iorddonen gyda’r brenin: a phaham y talai y brenin i mi gyfryw daledigaeth? º

37Gad, atolwg, i’th was ddychwetyd yn fy ôl, fel y byddwyf marw yn fy ninas fy hun, ac fel y’m cladder ym meddrod fy-nhad a’m mam: ac wele, Chimham dy was, efe a â drosodd gyda’m harglwydd frenin, a gwna iddo yr hyn fyddo da yn dy olwg. º

38A dywedodd y brenin, Chimham a-a gyda mi, a mi a wnaf iddo ef yr hyn. fyddo da yn dy olwg di: a pheth bynnag a erfyniech di arnaf fi, mi a’i gwnaf erot. º

39A’r holl bobl a aethant dros yr Iorddonen. Y brenin hefyd a aeth drosodd: a’r brenin a gusanodd Barsilai, ac a’i bendithiodd ef; ac efe a ddychwelodd i’w fangre ei hun. º

40Yna y brenin a aeth i Gilgal, a Chimham a aeth gydag ef. A holl bobl Jwda a hebryngasant y brenin, a hanner pobl Israel hefyd. º

41Ac wele, holl wŷr Israel a ddaethant at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Paham y lladrataodd ein brodyr ni, gwŷr Jwda, dydi, ac y dygasant y brenin a’i dylwyth dros yr Iorddonen, a holl wŷr Dafydd gydag ef? º

42Ac atebodd holl wŷr Jwda i wŷr Israel, Oblegid car agos yw y brenin i ni: paham gan hynny y digiasoch chwi am y peth hyn? a fwytasom ni ddim ar draul y brenin? neu a anrhegodd efe ni ag anrheg? º

43A gwŷr Israel a atebasant wŷr Jwda, ac a ddywedasant, Deg rhan sydd i ni yn y brenin; hefyd y mae i ni yn Dafydd fwy nag i chwi: paham gaa hynny y diystyraist fi? onid myfi a ddywedais yn gyntaf am gyrchu adref fy mrenin? Ac ymadrodd gwŷr Jwda oedd galetach nag ymadrodd gwŷr Israel.

← Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 18Read In The App, Free →Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 20 →

Study Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 19

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324