Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 20
1AZ; yno y digwyddodd bod gŵr i’r fall, a’i enw Seba, mab Bichri, gŵr o Jemini; ac efe a utganodd mewn utgom, ac a ddywedodd, Nid oes i ni ddim rhan yn Dafydd, nac etifeddiaeth i ni ym mab Jesse: pawb i’w babell, O Israel. º
2Felly holl wŷr Israel a aeihant i fyny oddi ar ôl Dafydd, ar ôl Seba mab Bichri: ond gwŷr Jwda a lynasant wrth eu brenin, o’r Iorddonen hyd Jerwsalem. º
3A daeth Dafydd i’w dy ei hun i Jerwsalem; a’r brenin a gymerth y deg gordderch-wraig a adawsai efe i gadw y tŷ, ac a’u rhoddes hwynt mewn cadwr*’ aeth, ac a’u porthodd hwynt; ond nid aeth efe i mewn atynt hwy: eithr buant yn rhwym hyd ddydd eu marwolaeth, yn byw mewn weddwdod. º
4Yna y dywedodd y brenin wrth. Amasa, Cynnull i mi wŷr Jwda erbyn y trydydd dydd; a bydd dithau yma. º
5Felly Amasa a aeth i gynnull Jwda: ond efe a drigodd yn hwy na’r amser terfynedig a osodasai efe iddo. º
6A dywedodd Dafydd wrth Abisai Seba mab Bichri a’n dryga ni yn waetfa nag Absalom: cymer di weision dy ar¬glwydd, ac erlid ar ei ôl ef, rhag iddo gael y dinasoedd caerog, ac ymachub o’a golwg ni. º
7A gwŷr Joab, a’r Cerethiaid, y Felethiaid hefyd, a’r holl gedyrn, a aethant ar ei ôl ef; ac a aethant allan o Jerwsalem, i erlid ar ôl Seba mab Bichri. º
8Pan oeddynt hwy wrth y maen mawr’ sydd yn Gibeon, Amasa a aeth o’u blaen hwynt. A Joab oedd wedi gwregysu ei goctil oedd amdano, ac arni yr oedd-gwregys a chleddyf wedi ei rwymo ar ei lwynau ef yn ei wain; a phan gerddai efe y deddyf a syrthiai. º
9A dywedodd Joab wrth Amasa, A wyt ti yn llawen, fy mrawd? A llaw ddeau Joab a ymaflodd ym marf Amasa i’w gusanu ef. º
10Ond ni ddaliodd Amasa ar y cleddyf oedd yn llaw Joab: felly efe a’i trawodd el ag ef dan y bumed ais, ac a ollyngodd ei berfedd ef i’r llawr, ac nid aildrawodd i-t: ac efe a fu farw. Felly Joab ac Abisai ei frawd a ganlynodd ar ôl Seba mab liichri. º
11Ac un o weision Joab oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, ac a ddywedodd, Pwy bynnag a ewyllysio yn dda i Joab, a phwy hynnag sydd gyda Dafydd, eled ar ôl Joab. º
12Ac Amasa oedd yn ymdrybaeddu. mewn gwaed yng nghanol y briffordd. A phan welodd y gŵr yr holl bobl yn sefyll, efe a symudodd Amasa oddi ar y briffordd i’r maes, ac a daflodd gadach arno, pan welodd efe bawb a’r oedd yn dyfod ato ef yn sefyll. º
13Pan symudwydef oddi ary briffordd yr holl wŷr a aethant ar ôl Joab, i erlid ar ôl Seba mab Bichri. º
14Ac efe a dramwyodd trwy holl lwythau Israel i Abel, ac i Bethmaacha, ac i holl leoedd Benin: a hwy a ymgasg-lasant, ac a aethant ar ei ôl ef. º
15Felly y daethant hwy, ac a warchaeasant arno ef yn Abel Bethmaacha, ac a fwriasant glawdd yn erbyn y ddinas, yr hon a safodd ar y rhagfur: a’r holL bobl y rhai oedd gyda Joab oedd yn cur-o’r mur, i’w fwrw i lawr. º
16Yna gwraig ddoeth o’r ddinas a’ lefodd, Clywch, clywch: dywedwch, atolwg, wrth Juab, Ncsa hyd yma, fel yr ymddiddanwyf & thi. º
17Pan ncsaodd efe ati hi, y wraig a ddywedodd, Ai ti yw Joab? Dywedodd yntau. Ie, myfi. A hi a ddywedodd wrtho ef, Gwrando eiriau dy lawforwyn. Dywedodd yntau, Yr ydwyt yn gwrando. º
18Yna hi a ddywedodd, Hwy a lefarent gynt, gan ddywedyd, Diau yr ymofynnant ag Abel: ac felly y dibenncnt. º
19Myfi wyf un o heddychol ffyddloniaid Israel: yr wyt ti yn ceisio difetha dinas a mam yn Israel: paham y difedd di etifeddiaeth yr ARGLWYDD? º
20A Joab a atebodd ac a ddywedodd, Na ato Duw, na ato Duw, i mi na difetha na dmistrio! º
21Nid felly y mae y peth: eithr gŵr o t’ynydd Effraim, Seba mab Bichri dan ei enw, a ddyrchafodd ei law yn erbyn y brenin, yn erbyn Dafydd. Rhoddwch ef yn unig, a mi a af ymaith oddi wrth y ddinas. A dywedodd y wraig wrth Joab, Wele, ei ben ef a fwrir atat ti dros y mur. º
22Yna y wraig o’i doethineb a aeth at yr holl bobl. A hwy a dorasant ben Seba mab Bichri, ac a’i taflasant allan i Joab. Ac efe a utganodd mewn utgorn; a hwy a wasgarwyd oddi wrth y ddinas, bob un i’w pabellau. A Joab a ddychwelodd i Jerwsalem at y brenin. º
23Yna Joab oedd ar holl luoedd Israel; a Benaia mab Jehoiada ar y Cerethiaid, ac ar y Felethiaid; º
24Ac Adoram oedd ar y dreth, a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur; º
25Sefa hefyd yn ysgrifennydd; a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid; º
26Ira hefyd y Jairiad oedd ben-llywydd ynghylch Dafydd.