The Bible Software
Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd · Beibl (1620)

Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 6

1A chasglodd Dafydd eto yr holl etholedigion yn Israel, sef deng mil ar bugain.

2A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a’r holl bobl oedd gydag ef, o Baale Jwda, i ddwyn i fyny oddi yno arch Duw; enw yr hon a elwir ar enw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd yn aros arni rhwng y ceriwbiaid.

3A hwy a osodasant arch Duw ar fen newydd, ac a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea: Ussa hefyd ac Ahio, meibion Abinadab, oedd yn gyrru y fen newydd.

4A hwy a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea, gydag arch Duw; ac Ahio oedd yn myned o flaen yr arch.

5Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae gerbron yr ARGLWYDD, â phob offer o goed ffynidwydd, sef â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac ag utgyrn, ac â symbalau.

6A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon, Ussa a estynnodd ei law at arch Duw, ac a ymaflodd ynddi hi, canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd.

7A digofaint yr ARGLWYDD a lidiodd wrth Ussa: a Duw a’i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw.

8A bu ddrwg gan Dafydd, am i’r ARGLWYDD rwygo rhwygiad ar Ussa: ac efe a alwodd y lle hwnnw Peresussa, hyd y dydd hwn.

9A Dafydd a ofnodd yr ARGLWYDD y dydd hwnnw; ac a ddywedodd. Pa fodd y daw arch yr ARGLWYDD ataf fi?

10Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr ARGLWYDD ato ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a’i trodd hi i dŷ Obed-Edom y Gethiad.

11Ac arch yr ARGLWYDD a arhosodd yn nhŷ Obed-Edom y Gethiad dri mis: a’r ARGLWYDD a fendithiodd Obed-Edom, a’i holl dŷ.

12A mynegwyd i’r brenin Dafydd, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a fendith¬iodd dy Obed-Edom, a’r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Duw. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fyny arch Duw o dŷ Obed-Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd.

13A phan gychwynnodd y rhai oedd yn dwyn arch yr ARGLWYDD chwech o gamau, yna efe a offrymodd ychen a phasgedigion.

14A Dafydd a ddawnsiodd â’i holl egni gerbron yr ARGLWYDD; a Dafydd oedd wedi ymwregysu ag effod liain.

15Felly Dafydd a holl dŷ Israel a ddygasant i fyny arch yr ARGLWYDD, trwy floddest, a sain utgorn.

16Ac fel yr oedd arch yr ARGLWYDD yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd, yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu’r brenin Dafydd yn neidio, ac yn llemain o flaen yr AR¬GLWYDD; a hi a’i dirmygodd ef yn ei chalon.

17A hwy a ddygasant i mewn arch yr ARGLWYDD, ac a’i gosodasant yn ei lle, yng nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd ger¬bron yr ARGLWYDD.

18Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw ARGLWYDD y lluoedd.

19Ac efe a rannodd i’r holl bobl, sef i holl dyrfa Israel, yn ŵr ac yn wraig, i bob un deisen o fara, ac un dryll o gig, ac un gostrelaid o win. Felly yr aeth yr holl bobl bawb i’w dy ei hun.

20Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ: a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd; ac a ddy¬wedodd, O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yr hwn a ymddiosgodd heddiw yng ngŵydd llawforynion ei weision, fel yr ymddiosgai un o’r ynfydion gan ymddiosg.

21A dywedodd Dafydd wrth Michal, Gerbron yr ARGLWYDD, yr hwn a’m dewisodd i o flaen dy dad di, ac o flaen ei holl dy ef, gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr ARGLWYDD, ar Israel, y chwaraeais: a mi a chwaraeaf gerbron yr ARGLWYDD.

22Byddaf eto waelach na hyn, a byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun: a chyda’r llawforynion, am y rhai y dywedaist wrthyf, y’m gogoneddir.

23Am hynny i Michal merch Saul ni bu etifedd hyd ddydd ei marwolaeth.

← Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 5Read In The App, Free →Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 7 →

Study Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 6

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324