The Bible Software
Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd · Beibl (1620)

Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 9

1Adafydd a ddywedodd, A oes eto un wedi ei adael o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd ag ef, er mwyn Jonathan? º

2Ac yr oedd gwas o dŷ Saul a’i enw Siba. A hwy a’i galwasant ef at Dafydd. A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, Ai tydi yw Siba? A dywedodd yntau, Dy was yw efe. º

3A dywedodd y brenin, A oes neb eto o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd Duw ag ef? A dywedodd Siba wrth y brenin, Y mae eto fab i Jonathan, yn gloff o’i draed. º

4A dywedodd y brenin wrtho. Pa te y mae efe? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele ef yn nhŷ Machir, mab Arnmiel, yn Lo-debar. º

5Yna y brenin Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd ef o dy Machir, mab Ammi’el, o Lo-debar. º

6A phan ddaeth Meffiboseth mab Jonathan, mab Saul, at Da fydd, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymgrymodd. A Dafydd a ddywedodd, Meffiboseth. Dywedodd yntau, Wele dy was. º

7A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, Nac ofna: canys gan wneuthur y gwnaf drugaredd a thi, er mwyn Jonathan dy dad, a mi a roddaf yn ei ôl i ti holl dir Saul dy dad; a thi a fwytei fara ar fy mwrdd i yn wastadol. º

8Ac efe a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Beth ydyw dy was di, pan edrychit as gi marw o’m bath i? º

9Yna y brenin a alwodd ar Siba gwas Saul, ac a ddywedodd wrtho, Yr hyn oll oedd eiddo Saul, ac eiddo ei holl d ef, a roddais i fab dy feistr di. º

10A thi a erddi y tir iddo ef, ‘ti, a’th feibion, a’th weision, ac a’u dygi i mewn, fel y byddo bara i fab dy feistr di, ac y bwytao efe: a Meffiboseth, mab dy feistr di, a fwyty yn wastadol fara ar fy mwrdd i. Ac i Siba yr oedd pymtheg o feibion, ac ugain o weision. º

11Yna y dywedodd Siba wrth y brenin, Yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd fy arglwydd y brenin i’w was, felly y gwna dy was. Yna y dywedodd Dafydd, Meffiboseth a fwyty ar fy mwrdd i, fel un o feibion y brenin. º

12Ac i Meffiboseth yr oedd mab bychan, a’i enw oedd Micha. A phawb a’r a oedd yn cyfanheddu ty Siba oedd weision i Meffiboseth. º

13A Meffiboseth a drigodd yn Jerw¬salem: canys ar fwrdd y brenin yr oedd efe yn bwyta yn wastadol: ac yr oedd efe yn gloff o’l ddeudroed.

← Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 8Read In The App, Free →Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 10 →

Study Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 9

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324