Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 12
1AR ARGLWYDD a anfonodd Nathan at Dafydd. Ac efe a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Dau ŵr oedd yn yr un ddinas; y naill yn gyfoethog, a’r llall yn dlawd. º
2Gan y cyfoethog yr oedd llawer iawa o ddefaid a gwartheg: º
3A chan y tlawd nid oedd dim ohd un oenig fechan, yr hon a brynasai efe, ac a fagasai; a hi a gynyddasai gydag ef, a chyda’i blant: o’i damaid ef y bwytai hi, ac o’i gwpan ef yr yfai hi, ac yn ei fynwes ef y gorweddai hi, ac yr oedd hi iddo megis merch. º
4Ac ymdeithydd a ddaeth at y gŵr cyfoethog; ond efe a arbedodd gymryd O’i ddefaid ei hun, ac o’i wartheg ei hun, l arlwyo i’r ymdeithydd a ddaethai ato; ond efe a gymerth oenig y gŵr tlawd, ac a’i parat6dd i’r gŵr a ddaethai ato. º
5A digofaint Dafydd a enynnodd yn ddirfawr wrth y gŵr; ac efe a ddywedodd wrth Nathan, Fel mai byw yr ARGLWYDD, euog o farwolaeth yw y gŵr a wnaeth hyn. º
6A’r oenig a dâl efe adref yn bedwar dyblyg; oherwydd iddo wneuthur y peth.hyn, ac nad arbedodd. º
7A dywedodd Nathan wrth Dafydd, Ti yw y gŵr. Fel hyn y dywed ARGLWYDO DDUW Israel, Myfi a’th enem¬ies di yn frenin ar Israel, myfi hefyd a’th waredais di o law Saul: º
8Rhoddais hefyd i ti dŷ dy arglwydd, a gwragedd dy arglwydd yn dy fynwes, a mi a roddais i ti dŷ Israel a Jwda; a pfae rhy fychan fuasai hynny, myfi a toddaswn i ti fwy o lawer. º
9Paham y dirmygaist air yr ARGLWYDP, i wneuthur drwg yn ei olwg ef? Ure&s yr Hethiad a drewaist ti a’r cleddyf, a’i wraig ef a gymeraist i ti yn wraig, a ttu a’i lleddaist ef a chleddyf meibion Ammon. º
10Yn awr gan hynny nid ymedy y cleddyf a’th dŷ di byth; oherwydd i ti fy nirmygu i, a chymryd gwraig Ureias yr Hethiad i fod yn wraig i ti. º
11Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, myfi a gyfodaf i’th erbyn ddrwg o’th dŷ dy hun, a mi a ddygaf dy wragedd di yng ngŵydd dy lygaid, ac a’u rhoddaf hwynt i’th gymydog, ac efe a orwedd gyda’th wragedd di yng ngolwg yr haul hwn. º
12Er i ti wneuthur mewn dirgelwch; eto myfi a wnaf y peth hyn gerbron holl Israel, a cherbron yr haul. º
13A dywedodd Dafydd wrth Nathan., Pechais yn erbyn yr ARGLWYDD. A Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Yr ARGLWYDD hefyd a dynnodd ymaith dy bechod di: ni byddi di marw. º
14Eto, oherwydd i ti beri i elynion yr ARGLWYDD gablu trwy y peth hyn, y plentyn a anwyd i ti a fydd marw yn ddiau. º
15A Nathan a aeth i’w dŷ.A’r AR¬GLWYDD a drawodd y plentyn a blantasai gwraig Ureias i Dafydd.; ac efe a, aeth yn glaf iawn. º
16Dafydd am hynny a ymbitiodd â Duw dros y bachgen; a Dafyddaymprydiodd ympryd, ac a aeth ac a orweddodd ar y ddaear ar hyd y nos. º
17A henuriaid ei dy ef a gyfodasant.ato ef, i beri iddo godi oddi ar y ddaear: ond ni fynnai efe, ac ni fwytai fara gyda hwynt. º
18Ac ar y seithfed dydd y bu farw y plentyn. A gweision Dafydd a ofnasant fynegi iddo ef farw y bachgen: canys dywedasant, Wele, tra oedd y bachgen yn fyw y llefarasom wrtho, ond ni wrandawai ar ein llais, pa fodd gan hynny yr ymofidia, os dywedwn wrtho farw y plentyn? º
19Ond pan welodd Dafydd ei weision yn sibrwd, deallodd Dafydd farw y plentyn: a Dafydd a ddywedodd wrth ei weision, A fu farw y plentyn? A hwy a ddywedasant, Efe a fu farw. º
20Yna Dafydd a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a ymolchodd, ac a ymeneiniodd, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth i dŷ yr ARGLWYDD, ac a addolodd: wedi hynny y daeth efe i’w dy ei hun; ac a ofynnodd, a hwy a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd. º
21Yna ei weision a ddywedasant wrtho ef. Pa beth yw hyn a wnaethost ti? dros y plentyn byw yr ymprydiaist, ac yr wylaist; ond pan fu y plentyn farw, ti a gyfodaist ac a fwyteaist fara. º
22Ac efe a ddywedodd, Tra yr ydoedd y plentyn yn fyw, yr ymprydiais ac yr wylais: canys mi a ddywedais, Pwy a wŷr a drugarha yr ARGLWYDD wrthyf, fel y byddo byw y plentyn? º
23Ond yn awr efe fu farw, i ba beth yr ymprydiwn? a allaf fi ei ddwyn ef yn ei ôl mwyach? myfi a af ato ef, ond ni ddychwel efe ataf fi. º
24A Dafydd a gysurodd Bathseba ei wraig, ac a aeth i mewn ati hi, ac a orweddodd gyda hi: a hi a ymddug fab, ac efe a alwodd ei enw ef Solomon. A’r ARGLWYDD a’i carodd ef. º
25Ac efe a anfonodd trwy law Nathan y proffwyd; ac efe a alwodd ei enw ef Jedidia oblegid yr ARGLWYDD. º
26A Joab a ymladdodd yn erbyn Rabba meibion Ammon, ac a enillodd y frenhinol ddinas. º
27A Joab a anfonodd genhadau at Dafydd, ac a ddywedodd, Rhyfelais yn erbyn Rabba, ac a enillais ddinas y dyfroedd. º
28Yn awr gan hynny casgl weddill y bobl, a gwersylla yn erbyn y ddinas, ac ennill hi; rhag i mi ennill y ddinas, a galw fy enw i arni hi. º
29A Dafydd a gasglodd yr holl bobl, ac a aeth i Rabba, ac a ymladdodd yn ei herbyn, ac a’i henillodd hi. º
30Ac efe a gymerodd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben; a’i phwys hi oedd dalent o aur, gyda’r maen gwerthfawr: a hi a osodwyd ar ben Dafydd. Ac efe a ddug ymaith o’r ddinas anrhaith fawr iawn. º
31Ac efe a ddug ymaith y bobl oedd ynddi, ac a’u gosododd dan lifiau, a than ogau heyrn, a than fwyeill heyrn, ac a’u bwriodd hwynt i’r odynau calch: ac felly y gwnaeth i holl ddinasoedd meib¬ion Ammon. A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerusalem.