Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 18
1º1, ADAFYDD a gyfrifodd y. bobl oedd gydag ef, ac a osododd arnynt hwy filwriaid a chanwriaid. º
2A Dafydd a anfonodd o’r bobl y dryd¬edd ran dan law Joab, a’r drydedd ran dan law Abisai mab Serfia, brawd Joab, a’r drydedd ran dan law Ittai y Gethiad. A’r brenin a ddywedodd wrth y bobl, Gan fyned yr af finnau hefyd gyda chwi. º
3Ond y bobl a atebodd, Nid ei di allan: canys os gan ffoi y ffown ni, ni osodant hwy eu meddwl arnom ni; ac os bydd marw ein hanner ni, ni osodant eu meddwl arnom: ond yn awr yr ydwyt ti fel deng mil ohonom ni: yn awr gan hynny gwell yw i ti fod i’n cynorthwyo ni o’r ddinas. º
4A dywedodd y brenin wrthynf hwy, I Gwnaf yr hyA’fyddo da y& eich golwg c’hwi. A’r brenin a safoddgerllawyporth;;i’r holl bobl a aethant allan yn gannoedd ai; yn filoedd. º
5A’r brenin a orchmynnodd i Joab, ac Abisai, ac Ittai, gan ddywedyd, Byddwch esmwyth, er fy mwyn i, wrth y llanc Absalom. A’r holl bobl a glywsant pan orchmynnodd y brenin i’r holl flaenoriaid yn achos Absalom. º
6Felly yr aeth y bobl i’r maes i gyfarfod Israel: a’r rhyfel fu yng nghoed Hlfraim. º
7Ac yno y lladdwyd pobl Israel o flaen gweision Dafydd: ac yno y bu lladdfa fawr y dwthwn hwnnw, sef ugain mil. " º
8Canys y rhyfel oedd yno wedi gwasgaru ar hyd wyneb yr holl wlad: a’r coed a ddifethodd fwy o’r bobl nag a ddifethodd y cleddyf y diwrnod hwnnw. º
9Ac Absalom a gyfarfu a gweision Dafydd yn eu hwyneb. Ac Absalom oedd yn marchogaeth ar ful, a’r mul «a aeth dan dewfrig derwen fawr, a’i ben ef a lynodd yn y dderwen: felly yr oedd efe rhwng y nefoedd a’r ddaear; a’r mul oedd dano ef a aeth ymaith. º
10A rhyw un a ganfu hynny, ac a fynegodd i Joab, ac a ddywedodd, Wele, gwelais Absalom ynghrog mewn der¬wen. º
11A dywedodd Joab wrth y gŵr oedd yn mynegi iddo, Ac wele, ti a’i gwelaist ef; paham nas trewaist ef yno i’r llawr, ac arnaf fi roddi i ti ddeg sicl o arian, ac un gwregys? º
12A dywedodd y gŵr wrth Jaob, P’e cawn bwyso ar fy llaw fil o siclau arian, nid estynnwn fy llaw yn erbyn mab y brenin: canys gorchmynnodd y brenin lle y clywsom ni wrthyt ti, ac wrth Abisai, ac wrth Ittai, gan ddywedyd, Gwyliwch gyftwrdd o neb a’r llanc Absalom. º
13Os amgcn, mi a wnaethwn ffalster yn erbyn fy einioes: canys nid oes dim yn guddiedig oddi wrth y brenin; tithau hefyd a safasit yn fy erbyn. º
14Yna y dywedodd Joab, Nid arhoaf fel hyn gyda thi. Ac efe a gymerth dair o bicellau yn ei law, ac a’u brathodd trwy galoa. Absalom, ac efeeto.yn,’fyw -yng nghanol y dderwen. º
15A’r deg llanc y rhai oedd yn dwyn arfau Joab a amgylchynasant, ac a drawsant Absalom, ac a’i lladdasant ef. º
16A Joab a utganodd mewn utgorn; a’r bobl a ddychwelodd o erlid ar ôl Israel: canys Joab a ataliodd y bobl. º
17A hwy a gymerasant Absalom, ac a’i bwriasant ef mewn rfos fawr yn y coed, at a osodasant arno garnedd gerrig fawr i wn: a holl Israel a ffoesant bob un i’w tiabell. º
18Ac Absalom a gymerasai ac a osod* «sai iddo yn ei fywyd golofh, yn nyf&yn y brenin: canys efe a ddywedodd, Nid oes fab gennyf i wneuthur coffa am fy enw: ac efe a alwodd y golofn ar ei enw ei toun. A hi a elwir lle Absalom, hyd y dydd hwn. º
19Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywedodd. Gad i mi redeg yn awr, a mynegi i’r brenin, ddarfod i’r ARGLWYDD ei ddial ef ar ei elynion. º
20A Joab a ddywedodd wrtho ef, Ni byddi di yn genhadwr y dydd hwn, eithr mynegi ddiwrnod arall: ond heddiw ni byddi di gennad, oherwydd marw mab y brenin. º
21Yna y dywedodd Joab wrth Cusi, DOS, dywed i’r brenin yr hyn a welaist. A Chusi a ymgrymodd i Joab, ac a red add. º
22Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywed¬odd eilwaith wrth Joab, Beth bynnag a fyddo, gad i minnau, atolwg, redeg ar ôl Cusi. A dywedodd Joab, I ba beth y rhedi di, fy mab, gan nad oes gennyt genadwriaeth addas? º
23Ond beth bynnag a fyddo, eb efe, gad i mi redeg. A dywedodd yntau wrtho:, Rhed. Felly Ahimaas a redodd ar hyd y gwastadedd, ac a aeth heibio i Cusi. º
24A Dafydd oedd yn eistedd rhwng y ddau borth: a’r gwyliedydd a aeth ar nen y porth ar y mur, ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele ŵr yn rhedeg ei hunan. º
25A’r gwyliedydd a waeddodd, ac.a fynegodd i’r brenin. A’r brenin a ddywedodd, Os ei hun y mae efe, cenadwriaeth sydd yn ei enau ef. Ac efe a ddaeth yn fuan, ac a nesaodd. º
26A’r gwyliedydd a ganfu ŵr arall yn rhedeg: a’r gwyliedydd a alwodd ar y porthor, ac a ddywedodd, Wele ŵr arall yn rhedeg ei hunan. A dywedodd y brenin, Hwn hefyd sydd gennad. º
27A’r gwyliedydd a ddywedodd, Yr ydwyf fi yn gweled rhediad y blaenaf fel rhediad Ahimaas mab Sadoc. A dywedodd y brenin, Gwr da yw hwnnw, ac a chen-adwriaeth dda y daw efe. º
28Ac Ahimaas a alwodd, ac a ddywed¬odd wrth y brenin, Heddwch: ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a warchaeodd ar y gwŷr a gyfodasant eu yaw yn erbyn fy arglwydd frenin. º
29A’r brenin a ddywedodd, Ai dihangol yllanc Absalom? A dywedodd Ahimaas, Gwelais gythrwfl mawr, pan anfonodd Joab was y brenin, a’th was dithau, ond ni wybum i beth ydoedd. º
30A’r brenin a ddywedodd, Tro heibio; saf yma. Ac efe a drodd heibio, ac a safodd. º
31Ac wele, Cusi a ddaeth. A dywed¬odd Cusi, Cenadwri, arglwydd frenin: canys yr ARGLWYDD a’th ddialodd di heddiw ar bawb a’r a ymgyfododd i’th erbyn. º
32A dywedodd y brenin wrth Cusi, A ‘-ddihangodd y llanc Absalom? A dywed-pdd Cusi, Fel y llanc hwnnw y byddo.gelynion fy arglwydd frenin, a’r holl rai a ymgyfodant i’th erbyn di er niwed i ti. º
33A’r brenin a gyf&odd, ac a aeth i fyny i ystafell y porth, ac a wylodd: ac.fel hyn y dywedodd efe wrth fyned; O fy mab Absalom, fy mab, fy mab Absalom! O na buaswn farw drosot ti, Absalom, fy mab., fy mab!