Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 22
1Adafydd a lefarodd wrth yr ARGLWYDD eiriau y gan hon, yn y dydd y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion, ac o law Saul. º
2Ac efe a ddywedodd, Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd i; º
3Duw fy nghraig, ynddo ef yr ymddiriedaf: fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, fy uchel dwr a’m noddfa, fy achubwr; rhag trais y’m hachubaist. º
4Galwaf ar yr ARGLWYDD canmoladwy: felly y’m cedwir rhag fy ngelynion. º
5Canys gofidion angau a’m cylchynasant; afonydd y fall a’m dychrynasant i. º
6Doluriau uffern a’m hamgylchynasant; maglau angau a’m rhagflaenasant. º
7Yn fy nghyfyngdra y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac y gwaeddais ar fy Nuw; ac efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd a aeth i’w glustiau ef. º
8Yna y cynhyrfodd ac y crynodd y ddaear: seiliau y nefoedd a gyffroesant ac a ymsiglasant, am iddo ef ddigio. º
9Dyrchafodd mwg o’i ffroenau ef, â thân o’i enau ef a ysodd: glo a enynasant ganddo ef. º
10Efe a ogwyddodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd; a thywyllwch oedd dan ei draed ef. º
11Marchogodd efe hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a welwyd ar adenydd y gwynt. º
12Efe a osododd y tywyllwch yn bebyll o’i amgylch; sef casgliad y dyfroedd, a thew gymylau yr awyr. º
13Gan y disgleirdeb ger ei fron ef yr enynnodd y marwor tanllyd. º
14Yr ARGLWYDD a daranodd o’r nefoedd, a’r Goruchaf a roddes ei lef. º
15Ac efe a anfonodd ei saethau, ac a’u gwasgarodd hwynt; mellt, ac a’u drylliodd hwynt. º
16Gwaelodion y môr a ymddangosodd, a seiliau y byd a ddinoethwyd, gan gerydd yr ARGLWYDD, a chan chwythad anadl ei ffroenau ef. º
17Efe a anfonodd oddi uchod: cymerodd fi; tynnodd fi o ddyfroedd lawer. º
18Gwaredodd fi rhag fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghascion; am eu bod yn drech na mi. º
19Achubasant fy miaen. yn nydd fy ngofid: ond yr ARGLWYDD oedd gynhaliad i mi. º
20Efe a’m dug i ehangder: efe a’m gwaredodd i, am iddo ymhoffi ynof. º
21Yr ARGLWYDD a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi. º
22Canys mi a gedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw. º
23Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i: ac oddi wrth ei ddeddfau ni chiliais i. º
24bûm hefyd berffaith ger ei fron ef; ac ymgedwais rhag fy anwiredd., º
25A’r ARGLWYDD a’m gobrwyodd innau yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl fy nglendid o flaen ei lygaid ef. º
26A’r trugarog y gwnei drugaredd: a’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd. º
27A’r glân y gwnei lendid; ac a’r cyn-dyn yr ymgyndynni. º
28Y bobl gystuddiedig a waredi: ond y mae dy lygaid ar y rhai uchel, i’w darostwng. º
29Canys ti yw fy nghannwyll i, O ARGLWYDD; a’r ARGLWYDD a lewyrcha fy nhywyllwch. º
30Oblegid ynot ti y rhedaf trwy fyddin: trwy fy Nuw y llamaf dros fur. º
31Duw sydd berffaith ei ffordd; ymad-rodd yr ARGLWYDD sydd buredig: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant -ynddo. º
32Canys pwy sydd DDUW, heb law yr ARGLWYDD? a phwy sydd graig, eithr -.ein Duw ni? º
33Duw yw fy nghadernid a’m nerth; ac a rwyddhaodd fy ffordd i yn berffaith. º
34Efe sydd yn gwneuthur fy nhraed fel traed ewigod; ac efe sydd yn fy ngosod ar fy uchelfaoedd. º
35Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllir bwa dur yn fy mreichiau. º
36Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; ac a’th fwynder y lluosogaist fi. | º
37Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy sodlau. º
38Erhdiais fy ngelynion, a difethais hwynt; ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt. º
39Difeais hwynt hefyd, a thrywenais(jiwynt, fel na chyfodent; a hwy a syrthiasant dan fy nhraed i. º
40Canys ti a’m gwregyiaist i nerth i.tyfel: y rhai a ymgyfodenti’m herbyn, a iddarostyngaist danaf. º
41Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ‘ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion. i; º
43Disgwyliasant, ond nid oedd achubydd; sef am yr ARGLWYDD, ond nid.Stebodd hwynt. º 43 Yna y maluriais hwynt fel llwch y ddaear; melais hwynt fel torn yr heolydd, a thaenais hwynt. º
44Gwaredaist fi rhag cynhennau fy mhobl; cedwaist fi yn ben ar genhedloedd: pobl nid adnabum a’m gwasanaethant. º
45Meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi: pan glywant, igwrandawant arnaf fi. º
46Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant o’u carchardai. " º
47Byw fyddo yr ARGLWYDD, a bendigedig fyddo fy nghraig; a dyrchafer Duw, craig fy iachawdwriaeth. º
48Duw sydd yn fy nial i, ac sydd yn darostwng pobloedd danaf fi, º
49Ac sydd yn fy nhywys i o blith fy ngelynion: ti hefyd a’m dyrchefaist uwchlaw y rhai a gyfodent i’m herbyn, rhag y gŵr traws y’m hachubaist i. º
50Am hynny y moliannaf di, O AR¬GLWYDD, ymhiith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw. º
51Efe sydd dwr iachawdwriaeth i’w frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog, i Dafydd, ac i’w had yn dragy-wydd.