Llyfr y Barnwyr 10
1A ar ôl Abimelech, y cyfododd i waredu Israel, Tola, mab Pua, mab Dodo, gŵr o Issachar; ac efe oedd yn trigo yn Samir ym mynydd Effraim. º
2Ac efe a farnodd Israel dair blynedd ar hugain, ac a fu farw, ac a gladdwyd yn Samir. º
3Ac ar ei ôl ef y cyfododd Jait, Gileadiad; ac efe a farnodd Israel ddwy flynedd ar hugain. ‘ º
4Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain yn marchogaeth ar ddeg ax bugain o ebolion asynnod; a deg dinas ar hugain oedd ganddynt, y rhai a elwid HafothJair hyd y dydd hwn, y rhai ydynt yng ngwlad Gilead. º
5A Jair a fu farw, ac a gladdwyd yn Camon. º
6A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baalim, ac Astaroth, a duwiau Syria, a duwiau Sidon, a duwiau Moab, a duwiau meibion Ammon, a duwiau y Philistiaid; a gwrthodasant yr ARGLWYDD, ac ni wasanaethasant ef. º
7A llidiodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Israel; ac efe a’u gwerthodd hwynt yn llaw y Philistiaid, ac yn llaw meibion Ammon. º
8A hwy a flinasant ac a ysigasant feibion Israel y flwyddyn hoono: tair blynedd ar bymtheg, holl feibion Israel y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen, yng ngwlad yr Amoriaid, yr hon sydd yn Gilead. º
9A meibion Ammon a aethant trwy’r Iorddonen, i ymladd hefyd yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Benjamin, ac yn erbyn ty Effraim; fel y bu gyfyng iawn ar Israel. º
10A. meibion Israel a lefasant ar yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Pechasom yn dy erbyn; oherwydd gwrthod ohonom ein Duw, a gwasanaethu Baalim hefyd. º
11A dywedodd yr ARGLWYDD wrth feibion Israel, Oni waredais chwi rhag yr Eifftiaid, a rhag yr Amoriaid, a rhag meibion Ammon, a rbag y Philistiaid? º
12Y Sidoniaid hefyd, a’r Amaleciaid, a’r Maoniaid, a’ch gorthrymasant chwi; a llefasoch arnaf, a minnau a’ch gwaredais chwi o’u llaw hwynt. º
13Eto chwi a’m gwrthodasoch i, ac a wasanaethasoch dduwiau dieithr; seta. hynny ni waredaf chwi mwyach. º
14Ewch, a llefwch at y duwiau a ddewisasoch: gwaredant hwy chwi yn amser eich cyfyngdra. º
15A meibion Israel a ddywedasant wrth yr ARGLWYDD, Pechasom; gwna di º 1 ni fel y gwelych yn dda: eto gwared ni, atolwg, y dydd hwn. º
16A hwy a fwriasant ymaith y duw-iaa dieithr o’u mysg, ac a wasanaethasant yr ARGLWYDD: a’i enaid ef a dosturiodd, oherwydd adfyd Israel. º
17Yna meibion Ammon a ymgynullasant, ac a wersyllasant yn Gilead: a meibion Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant ym Mispa. º
18Y bobl hefyd a thywysogion Gilead a ddywedasant wrth ei gilydd. Pa ŵr a ddechrau ymladd yn erbyn meibion Ammon? efe a fydd yn bennaeth ar drigolion Gilead.