The Bible Software
Llyfr y Barnwyr · Beibl (1620)

Llyfr y Barnwyr 14

1Asamson a aeth i waered i Timnath, 1A ac a ganfu wraig yn Timnath, o ferched y Philistiaid. º

2Ac efe a ddaeth i fyny, ac a fynegodd i’w dad ac i’w fam, ac a ddywedodd. Mi a welais wraig yn Timnath o ferched y Philistiaid: cymerwch yn awr honno yn wraig i nil. º

3Yna y dywedodd ei dad a’i fara wrtho, Onid oes ymysg merched dŷ.frodyr, nac ymysg fy holl bobl, wraig pan ydwyt ti yn myned i geisio gwraig o’r Philistiaid dienwaededig? A dywed¬odd Samson wrth ei dad, Cymer hi i mi, canys y mae hi wrth fy modd i. º

4Ond ni wyddai ei dad ef na’i faiq mai oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd hyn, mai ceisio achos yr oedd efe yo erbyn y Philistiaid: canys y Philistiaid oedd y pryd hwnnw yn arglwyddiaethu ar Israel. º

5Yna Samson a aeth i waered a’i dad a’i fam, i Timnath; ac a ddaethant hyd winllannoedd Timnath: ac wele genau; llew yn rhuo yn ei gyfarfod ef. º

6Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddaeth yn rymus arno ef; ac efe a holltodd y Hew fel yr holltid myn, ac nid oedd dim yn ei law ef: ond ni fynegodd efe i’w dad nac i’w fam yr hyn a wnaethai. º

7Ac efe a aeth i waered, ac, a ymddiddanodd a’r wraig, ac yr oedd hi wrth fodd Samson. º

8Ac ar ôl ychydig ddyddiau efe a ddychwelodd i’w chymryd hi; ac a drodd i edrych ysgerbwd y llew: ac wele haid o wenyn a mêl yng nghorff y llew.; º

9Ac efe a’i cymerth yn ei law, ac a gerddodd dan fwyta; ac a ddaeth at ei dad a’i fam, ac a roddodd iddynt, a hwy a fwytasant: ond ni fynegodd iddynt hwy mai o gorff y llew y cymerasai efe y mêl. º

10Felly ei dad ef a aeth i waered at y wraig; a Samson a wnaeth yno wieddl canys felly y gwnai y gwŷr ieuainc. º

11A phan welsant hwy ef, yna y cymerasant ddeg ar hugain o gyfeillion i fod gydag ef. º

12A Samson a ddywedodd wrthynt, Rhoddaf i chwi ddychymyg yn awr: os gan fynegi y mynegwch ef i mi o fewn saith niwrnod y wiedd, ac a’i cewch; yna y rhoddaf i chwi ddeg ar hugain o lenllieiniau, a deg par ar hugain o ddillad: º

13Ond os chwi ni fedrwch ei fynegi i mi, yna chwi a roddwch i mi ddeg ar hugain o lenllieiniau, a deg par ar hugain o wisgoedd. Hwythau a ddywedasant wrtho, Traetha dy ddychymyg, fel y clywom ef. º

14Ac efe a ddywedodd wrthynt, Allan o’r bwytawr y daeth bwyd, ac o’r cryf y daeth allan felystra. Ac ni fedrent ddirnad y dychymyg mewn tri diwrnod. º

15Ac yn y seithfed dydd y dywedasant wrth wraig Samson, Huda dy ŵr, fel y mynego efe i ni y dychymyg; rhag i ni dy losgi di a thŷ dy dad â thân: ai i’n tlodi ni y’n gwahoddasoch? onid felly y mae? º

16A gwraig Samson a wylodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Yn ddiau y mae yn gas gennyt fi, ac nid wyt yn fy ngharu: dychymyg a roddaist i feibion fy mhobl, ac nis mynegaist i mi. A dywedodd yntau wrthi, Wele, nis mynegais i’m tad nac i’m mam: ac a’i mynegwn i ti? º

17A hi a wylodd wrtho ef y saith niwrnod hynny, tra yr oeddid yn cynnal y wiedd: ac ar y seithfed dydd y mynegodd efe iddi hi, canys yr oedd hi yn ei flino ef: a hi a fynegodd y dychymyg i feibion ei phobl. º

18A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho ef y seithfed dydd, cyn machludo’r haul, Beth sydd fclysach na mel? a pheth gryfach na Hew? Dywedodd yntau Wrthynt, Oni buasai i chwi aredig a’m hanner i, ni chawsech allan fy nychymyg. º

19Ac ysbryd yr ARGLWYUD a ddaeth arno ef; ac efe a aeth i waered i Ascalon, ac a drawodd ohonynt ddeg ar hugain, ac a gymerth eu hysbail, ac a roddodd y parau dillad i’r rhai a fynegasant y dy¬chymyg: a’i ddicllonedd ef a lidiodd, ac efe a aeth i fyny i dŷ ei dad. º

20A rhoddwyd gwraig Samson i’w gyfaill ef ei hun, yr hwn a gymerasai efe yn gyfaill.

← Llyfr y Barnwyr 13Read In The App, Free →Llyfr y Barnwyr 15 →

Study Llyfr y Barnwyr 14

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021