Llyfr y Barnwyr 12
1AgwŶR Effraim a ymgasglasant, ac a aethant tua’r gogledd, ac a ddy¬wedasant wrth Jefftha, Paham yr aethost ti drosodd i ymladd yn erbyn meibion Ammon, ac na elwaist arnom ni i fyned gyda thi? dy dŷ di a losgwn ni am dy ben â thân. º
2A Jefftha a ddywedodd wnhynt hwy, Myfi a’m pobl oeddem yn ymryson yn dost yn erbyn meibion Ammon; a mi a’ch gelwais chwi, ond ni waredasoch fi o’u llaw hwynt. º
3A phan welais i nad oeddech yn fy achub, mi a osodais fy einioes yn fy llaw, ac a euthum yn erbyn meibion Ammon; a’r ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn fy llaw i: paham gan hynny y daethoch i fyny ataf fi y dydd hwn, i ymladd i’m herbyn? º
4Yna Jefftha a gasglodd ynghyd holl wŷr Gilead, ac a ymladdodd ag Effraim: a gwŷr Gilead a drawsant Effraim, am ddywedyd ohonynt hwy, Ffoaduriaid Effraim ymysg yr Effraimiaid, ac ymysg Manasse, ydych chwi y Gileadiaid. º
5A’r Gileadiaid a enillasant rydau yr Iorddonen o flaen yr Effraimiaid: a phan ddywedai yr Effraimiaid a ddianghasenti Gedwch i mi fyned drwodd: yna gwyr Gilead a ddywedent wrtho, Ai Effraimiad ydwyt ti? Os dywedai yntau, Nage; º
6Yna y dywedent wrtho, Dywed yn awr, Shibboleth. Dywedai yntau, Sibboleth; canys ni fedrai efe lefaru felly. Yna y dalient ef, ac y lladdent ef wrA rydau yr Iorddonen. A chwympodd y pryd hwnnw o Effraim ddwy fil & deugain. º
7A Jefftha a farnodd Israel chwe blynedd. Yna y bu farw Jefftha y Gileadiad, ac a gladdwyd yn un o ddinasoedd Gilead. º
8Ac ar ei ôl ef, Ibsan o Bethlehem a farnodd Israel. º
9Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain, a deng merch ar hugain, y rhai a anfonodd efe allan, a deng merch ar hugain a ddug efe i’w feibion oddi allafl. Ac efe a farnodd Israel saith mlynedd. º
10Yna y bu farw Ibsan, ac a gladdwyd yn Bethlehem. º
11Ac ar ei ôl ef, Elon y Sabuloniati a farnodd Israel: ac efe a farnodd Israel ddeng mlynedd. º
12Ac Elon y Sabuloriiad a’ fu farw, ac a gladdwyd yn Ajalon, yag ngwlad Sabulon. º
13Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad a farnodd Israel ar ei ôl ef. º
14Ac iddo ef yr oedd deugain o feib¬ion, a deg ar hugain o wyrion, yn marchogaeth ar ddeg a thrigain o ebolion asynnod: ac efe a farnodd Israel wyth mlynedd. º
15Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad a fu farw: ac a gladdwyd yn Pirathon, yng ngwlad Effraim, ytti mynydd yr Amaleciaid.