The Bible Software
Llyfr y Barnwyr · Beibl (1620)

Llyfr y Barnwyr 15

1- cynhaeaf y gwemth, Samson a aeth i ymweled a’i wraig a myn gafr; ac a ddywedodd. Mi a af i mewn at fy ngwraig i’r ystafell. Ond ni chaniatai ei thad hi iddo ef fyned i mewn. º

2A’i thad a lefarodd, gan ddywedyd, Tybiaswn i ti ei chasau hi; am hynny y rhoddais hi i’th gyfaill di: onid yw ei chwaer ieuangaf yn lanach na hi? bydded honno i ti, atolwg, yn ei lle hi. º

3A Samson a ddywedodd wrthynt, Difeiach ydwyf y waith hon na’r Philistiaid, er i mi wneuthur niwed iddynt. º

4A Samson a aeth ac a ddaliodd dri chant o lwynogod; ac a gymerth ffaglau, ac a drodd gynffon at gynffon, ac a osododd un ffagi rhwng dwy gynffon yn y canol. º

5Ac efe a gyneuodd dân yn y ffaglau, ac a’u gollyngodd hwynt i ydau y Philistiaid; ac a losgodd hyd yn oed y dasau, a’r ŷd ar ei droed, y gwinllannoedd hefyd, a’r olewydd. º

6Yna y Philistiaid a ddywedasant, Pwy a wnaeth byn? Hwythau a ddy¬wedasant, Samson daw y Timniad; am iddo ddwyn ei wraig ef, a’i rhoddi i’w gyfaill ef. A’r Philistiaid a aethant i fyny, ac a’i llosgasant hi a’i thad â thân. º

7A dywedodd Samson wrthynt, Er i chwi wneuthur fel hyn, eto mi a ymddialaf arnoch chwi; ac wedi hynny y peidiaf. º

8Ac efe a’u trawodd hwynt glun a morddwyd a lladdfa fawr: ac efe a aeth i waered, ac a arhosodd yng nghopa craig Etarn. º

9Yna y Philistiaid a aethant i fyny, ac a wersyllasant yn Jwda, ac a ymdaenasant yn Lehi. º

10A gwŷr Jwda a ddywedasant, Pahana y daethoch i fyny i’n herbyn ni? Dywedasant hwythau, I rwymo Samson y ilaethom i fyny, i wneuthur iddo ef fel y ywnaeth yntau i ninnau. º

11Yna tair mil o wŷr o Jwda a aethant i gopa craig Etam, ac a ddywedasant with Samson, Oni wyddost ti fod y Philistiaid yn arglwyddiaethu arnom ni? paham gan hynny y gwnaethost hyn a ni? Dywedodd yntau wrthynt, Fel y gwnaethant hwy i mi, felly y gwneuthum innau iddynt hwythau. º

12Dywedasant hwythau wrtho, I’th rwyrno di y daethom i waered, ac i’th roddi yn llaw y Philistiaid. A Samson a ddywedodd wrthynt, Tyngwch wrthyf, na ruthrwch arnaf fi eich hunain. º

13Hwythau a’i hatebasant ef, gan ddywedyd, Na ruthrwn: eithr gan rwymo y’th rwymwn di, ac y’th roddwn yn eu llaw hwynt; ond ni’th laddwn di. A rhwymasant ef a dwy raff newydd, ac a’i dygasant ef i fyny o’r graig. º

14A phan ddaeth efe i Lehi, y Philistiaid a floeddiasant wrth gyfarfod ag ef. Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddaeth arno ef; a’r rhaffau oedd am ei freichiau a aethant fel llin a losgasid yn tân, a’r rhwymau a ddatodasant oddi am ei ddwylo ef. º

15Ac efe a gafodd en asyn ir; ac a estynnodd ei law, ac a’i cymerodd, ac a laddodd â hi fil o wŷr. º

16A Samson a ddywedodd, A gen asyn, pentwr ar bentwr; a gen asyn y lleddais fil o wŷr. º

17A phan orffcnnodd efe kfaru, yna efe a daflodd yr en o’i law, ac a alwodd y lle hwnnw Ramathlehi. º

18Ac efe a sychedodd yn dost; ac a lefodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Tydi a roddaist yn llaw dy was yr ymwared mawr yma: ac yn awr a fyddaf fi farw gan syched, a syrthio yn llaw y rhai dienwaededig? º

19Ond Duw a holltodd y cilddant oedd yn yr en, fel y daeth allan ddwfr ohono; nc efe a yfodd, a’i ysbryd a ddychwelodd,.ic efe a adfywiodd: am hynny y galwodd rfc ei henw Enhaccore, yr hon sydd yn 1 chi hyd y dydd hwn. º

20Ac efe a farnodd Israel yn nyddiau y Philistiaid ugain mlynedd.

← Llyfr y Barnwyr 14Read In The App, Free →Llyfr y Barnwyr 16 →

Study Llyfr y Barnwyr 15

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021