The Bible Software
Llyfr y Barnwyr · Beibl (1620)

Llyfr y Barnwyr 19

1AC yn y dyddiau hynny, pan nad oedd t1- frenin yn Israel, yr oedd rhyw Lefiad yn arcs yn ystlysau mynydd Effraim, ac efe a gymerodd iddo or-dderchwraig o Bethlehem Jwda. º

2A’i ordderchwraig a buteiniodd yn’ ei erbyn ef, ac a aeth ymaith oddi wrtho efi dy ei thad, i Bethlehem Jwda; ac yno y bu hi bedwar mis o ddyddiau. º

3A’i gŵr hi a gyfododd, ac a aeth ar ei hôl, i ddywedyd yn deg wrthi hi, ac i’w throi adref; a’i lane oedd gydag ef, a chwpl o asynnod. A hi a’i dug ef i mewn i dŷ ei thad: a phan welodd tad y llances ef, bu lawen ganddo gyfarfod ag ef. º

4A’i chwegrwn ef, tad y llances, a’i daliodd ef yno; ac efe a dariodd gydag ef dridiau. Felly bwytasant ac yfasant, a lletyasant yno. º

5A’r pedwerydd dydd y cyfodasant yn fore; yntau a gyfododd i fyned ymaith. A thad y llances a ddywedodd wrth ei ddaw, Nertha dy galon a thamaid o fara, ac wedi hynny ewch ymaith. º

6A hwy a eisteddasant, ac a fwytasant ill dau ynghyd, ac a yfasant. A thad y llances a ddywedodd wrth y gŵr, Bydd fodlon, atolwg, ac aros dros nos, a llawenyched dy galon. º

7A phan gyfododd y gŵr i fyned ymaith, ei chwegrwn a fu daer arno: am hynny efe a drodd ac a letyodd yno. º

8Ac efe a gyfododd yn fore y pumed dydd i fyned ymaith. A thad y llances a ddywedodd, Cysura dy galon, atolwg. A hwy a drigasant hyd brynhawn, ac a fwytasant ill dau. º

9A phan gyfododd y gŵr i fyned ymaith, efe a’i ordderch, a’i lane; ei chwegrwn, tad y llances, a ddywedodd wrtho, Wele, yn awr, y dydd a laesodd i hwyrhau; arhoswch dros nos, atolwg: wele yr haul yn machludo; trig yma, fel y llawenycho dy galon: a chodwch yn fore yfory i’ch taith, fel yr elych i’th babeU. º

10A’r gŵr ni fynnai aros dros nos; eithr cyfododd, ac a aeth ymaith: a daeth hyd ar gyfer Jebus, hon yw Jerwsalem, a chydag ef gwpl o asynnod llwythog, a’i ordderchwraig gydag ef. º

11A phan oeddynt hwy wrth Jebus, yr oedd y dydd ar ddarfod: a’r llanc a ddywedodd wrth ei feistr. Tyred, atolwg, trown i ddinas hon y Jebusiaid, a lletywn ynddi. º

12A’i feistr a ddywedodd wrtho, Ni thrown ni i ddinas estron nid yw o feibion Israel; eithr nyni a awn hyd Gibea. º

13Ac efe a ddywedodd wrth ei lane, Tyred, a nesawn i un o’r lleoedd hyn, i letya dros nos, yn Gibea, neu Rama. º

14Felly y cerddasant, ac yr aethant; a’r haul a fachludodd arnynt wrth Gibea eiddo Benjamin. º

15A hwy a droesant yno, i fyned i mewn i letya i Gibea. Ac efe a ddaeth i mewn, ac a eisteddodd yn heol y ddinas: canys nid oedd neb a’u cymerai hwynt i’w dy i letya. º

16Ac wele ŵr hen yn dyfod o’i waith o’r maes yn yr hwyr; a’r gŵr oedd o fynydd Effraim, ond ei fod ef yn ymdaith yn Gibea; a gwŷr y lle hwnnw oedd feibion Jemini. º

17Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ŵr yn ymdaith yn heol y ddinasi a’r hen ŵr a ddywedodd, I ba le yr el di? ac o ba le y daethost? º

18Yntau a ddywedodd wrtho, Tramwyo yr ydym ni o Bethlehem Jwda, fc ystlys mynydd Effraim, o’r lle yr hairwyg: a mi a euthum hyd Bethlehem Jwda, a myned yr ydwyf i dŷ yr ARGLWYDD; ac nid oes neb a’m derbyn i dŷ. º

19Y mae gennym ni wellt ac ebraa. hefyd i’n hasynnod; a bara hefyd a gwin i mi ac i’th lawforwyn, ac i’r llanc sydd gyda’th weision: nid oes eisiau dim. º

20A’r hen ŵr a ddywedodd, Tang-nefedd i ti: bydded dy holl eisiau arnaf; fi; yn unig na letya yn yr heol. º

21Felly efe a’i dug ef i mewn i’w dŷ,, ac a borthodd yr asynnod: a hwy a olchasant eu traed, ac a fwytasant ac 8i yfasant. º

22A phan oeddynt. hwy yn llawenhau eu calon, wele, gwŷr y ddinaSt, rhai o feibion Belial, a amgylchynasant y tŷ, a gurasant y drws, ac a ddywedasant. wnh berchen y tŷ, sef yr hen ŵr, gan ddywedyd, Dwg allan y gŵr a ddaeth i mewn i’th dŷ, fel yr adnabyddom ef.; º

23A’r gŵr, perchen y tŷ, a aeth allaa atynt, ac a ddywedodd wrthynt, Nage, fy mrodyr, nage, atolwg, na wnewch mor ddrygionus: gan i’r gŵr hwn ddyfod. i’m ty i, na wnewch yr ysgelerder hyn. º

24Wele fy merch, yr hon sydd forwyn a’i ordderch yntau; dygaf hwynt allan yn awr, a darostyngwch hwynt, a gwnewch iddynt yr hyn fyddo da yn eich golwg: ond i’r gŵr hwn na wnewch mor ysgeler. º

25Ond ni wrandawai y gwŷr arno: am hynny y gŵr a ymaflodd yn ei ordderch ac a’i dug hi allan atynt hwy. A hwy a’i hadnabuant hi, ac a wnaefhant gam a hi yr holl nos hyd y bore: a phan gyfododd y wawr, hwy a’i gollyngasant hi ymaith. º

26Yna y wraig a ddaeth, pan ymddangosodd y bore, ac a syrthiodd wrth ddrws ty y gŵr yr oedd ei harglwydd ynddo, hyd oleuni y dydd. º

27A’i harglwydd a gyfododd y bore ac a agorodd ddrysau y tŷ, ac a aeth allan i fyned i’w daith: ac wele ei oik--, dderchwraig ef wedi cwympo wrth ddrws y tŷ, a’i dwy law ar y trothwy.. º

28Ac efe a ddywedodd wrthi, Cyfod, fel yr elom ymaith. Ond nid oedd yn ateb. Yna efe a’i cymerth hi ar yr asyn; a’r gŵr a gyfododd, ac a aeth ymaith i’w. fangre. º

29A phan ddaeth i’w dŷ, efe a gymerth gyllell, ac a ymaflodd yn ei ordderch. ac a’i darniodd hi, ynghyd â’i hesgyrn, yn ddeuddeg darn, ac a’i hanfonodd hi i holl derfynau Israel. º

30A phawb a’r a welodd hynny, a ddywedodd, Ni wnaethpwyd ac ni wet-wyd y fath beth, er y dydd y daeth meibion Israel o wlad yr Aifft, hyd y dydd hwn: ystyriwch ar hynny, ymgynghorwch, a thraethwch eich meddwi.

← Llyfr y Barnwyr 18Read In The App, Free →Llyfr y Barnwyr 20 →

Study Llyfr y Barnwyr 19

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021