The Bible Software
Llyfr y Barnwyr · Beibl (1620)

Llyfr y Barnwyr 20

1YNA holl feibion Israel a aethant allan; a’r gynulleidfa a ymgasglodd ynghyd fel un dyn, o Dan hyd Beerseba, a gwlad Gilead, at yr ARGLWYDD,;’ i. Mispa. º

2A phenaethiaid yr holl bobl, o holt lwythau Israel, a safasant yng nghynull* eidfa pobl DDUW; sef pedwar can mil o wŷr traed yn tynnu cleddyf. º

3(A meibion Benjamin a glywsant fyned o feibion Israel i Mispa.) Yna meibion Israel a ddywedasant, Dywedwch, pa fodd y bu y drygioni hyn? º

4A’r gŵr y Lefiad, gŵr y wraig a; laddesid, a atebodd ac a ddywedodd, I Gibea eiddo Benjamin y deuthum i, iru, a’m gordderch, i letya. º

5A gwŷr Gibea a gyfodasant i’m her¬byn, ac a amgylchynasant y ty yn fy erbyn liw nos, ac a amcanasant fy lladd i; a threisiasant fy ngordderch, fel y bu hi farw. º

6A mi a ymeflais yn fy ngordderch, ac a’i derniais hi, ac a’i hanfonais hi trwy holl wlad etifeddiaeth Israel: canys gwnaethant ffieidd-dra ac ynfydrwydd yn Israel. º

7Wele, meibion Israel ydych chwi oll; moeswch rhyngoch air a chyngor yma. º

8A’r holl bobl a gyfododd megis un gŵr, gan ddywedyd, Nac eled neb ohonom i’w babell, ac na throed neb ohonom i’w dŷ. º

9Ond yn awr, hyn yw y peth a wnawn ni i Gibea: Nyni a awn i fyny i’w herbyn wrth goelbren;

10A ni a gymerwn ddengwr o’r cant trwy holl lwythau Israel, a chant o’r roil, a mil o’r deng mil, i ddwyn lluniaeth i’r bobl; i wneuthur, pan ddelont i Gibea Benjamin, yn ôl yr holl ffieidd-dra a wnaethant hwy yn Israel. º

11Felly yr ymgasglodd holl wŷr Israel yn erbyn y ddinas yn gytun fel un gwi-. º

12A llwythau Israel a anfonasant wŷr trwy holl lwythau Benjamin, gan ddywedyd, Beth yw y drygioni yma a wnaethpwyd yn eich mysg chwi? º

13Ac yn awr rhoddwch y gwŷr, meib¬ion Belial, y rhai sydd yn Gibea, fel y lladdom hwynt, ac y dileom ddrygioni o Israel. Ond ni wrandawai meibion Ben¬jamin ar lais eu brodyr meibion Israel: º

14Eithr meibion Benjamin a ymgynultasant o’r dinasoedd i Gibea, i fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Israel. º

15A chyfrifwyd meibion Benjamin y dydd hwnnw, o’r dinasoedd, yn chwe mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf, heblaw trigolion Gibea, y rhai a gyfrif-wyd yn saith gant o wŷr etholedig. ‘ º

16O’r holl bobl hyn yr oedd saith gant o wŷr etholedig yn chwithig; pob uft ohonynt a ergydiai a. charreg at y blewyn, hebfethu. º

17Gwŷr Israel hefyd a gyfrifwyd, heblaw Benjamin, yn bedwar can mil yn tynnu cleddyf; pawb ohonynt yn rhyfelwyr. º

18A meibion Israel a gyfodasant, ac a aethant i fyny i dŷ DDUW, ac a ymgyngorasant a Duw, ac a ddywedasant, Pwy ohonom ni a â i fyny yn gyntaf i’r gad yn erbyn meibion Benjamin? A dywedodd yr ARGLWYDD, Jwda a â yn gyntaf. º

19A meibion Israel a gyfodasant y bore, ac a wersyllasant yn erbyn Gibea. º

20A gwŷr Israel a aethant allan i ryfel yn erbyn Benjamin; a gwŷr Israel a ymosodasant i ymladd i’w herbyn hwy wrth Gibea. º

21A meibion Benjamin a ddaethant allan o Gibea, ac a ddifethasant o Israel y dwthwn hwnnw ddwy fil ar hugaia o wŷr hyd lawr. º

22A’r bobl gwŷr Israel a ymgryfhasant, ac a ymosodasant drachefn i ymladd, yn. y lle yr ymosodasent ynddo y dydd cyntaf. º

23(A meibion Israel a aethent i fyny, ac a wylasent gerbron yr ARGLWYDD hyd yr hwyr: ymgyngorasent hefyd a’r AR¬GLWYDD, gan ddywedyd, A af fi drachefii i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd? A dywedasai yr ARGLWYDI, DOS i fyny yn ei erbyn ef.) - º

24A meibion Israel a nesasant yn erbyn meibion Benjamin yr ail ddydd. º

25A Benjamin a aeth allan o Gibea i’w herbyn hwythau yr ail ddydd; a hwy a ddifethasant o feibion Israel eilwaith dair mil ar bymtheg o wŷr hyd lawr; y rhai hyn oll oedd yn tynnu cleddyf. º

26Yna holl feibion Israel a’r holl bobl a aethant i fyny ac a ddaethant i dŷ DDUW, ac a wylasant, ac a arosasant yno gerbron yr ARGLWYDD, ac a ymprydiasant y dwthwn hwnnw hyd yr hwyr, ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr ARGLWYDD. º

27A meibion Israel a ymgyngorasaat a’r ARGLWYDD, (canys yno yr oedd arch cyfamod Duw yn y dyddiau hynny; º

28A Phinees mab Eleasar, mab Aaron, oedd yn sefyll ger ei bron hi yn y dyddiau hynny;) gan ddywedyd, A chwanegaf fi mwyach fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd, neu a beidiaf fi? A dywedodd yr ARGLWYDD, Ewch i fyny; canys yfory y rhoddaf ef yn dy law di. º

29Ac Israel a osododd gynllwynwyr o amgylch Gibea. º

30A meibion Israel a aethant i.fyay yn erbyn meibion Benjamin y trydydd dydd, ac a ymosodasant wrth Gibea, fel cynt. º

31A meibion Benjamin a aethant allan yn erbyn y bobl; a thynnwyd hwynt oddi wrth y ddinas: a hwy a ddechreuasant daro rhai o’r bobl yn archolledig, fel cynt, yn y priffyrdd, o’r rhai y mae y naill yn myned i fyny i dŷ DDUW, a’r llall i Gibea yn y maes, ynghylch dengwr ar hugain o Israel. º

32A meibion Benjamin a ddywedasant, Cwympwyd hwynt o’n blaen ni, fel ar y cyntaf. Ond meibion Israel a ddywed¬asant, Flown, fel y tynnom hwynt oddi wrth y ddinas i’r priffyrdd. º

33A holl wŷr Israel a gyfodasant o’u lle, ac a fyddinasant yn Baal-tamar: a’r sawl a oedd o Israel yn cynllwyn, a ddaeth allan o’u mangre, sef o weirgloddiau Gibea. º

34A daeth yn erbyn Gibea ddeng mil o wŷr etholedig o holl Israel; a’r gad a fu dost: ond ni wyddent fod drwg yn agos atynt. º

35A’r ARGLWYDD a drawodd Benjamin o flaen Israel: a difethodd meibion Israel o’r Benjaminiaid, y dwthwn hwnnw, bum, mil ar hugain a channwr; a’r rhai hyn oll yn tynnu cleddyf. º

36Felly meibion Benjamin a welsant mai eu lladd yr oeddid: canys gwŷr Israel a roddasant le i’r Benjaminiaid; oherwydd hyderu yr oeddynt ar y cynllwynwyr, y rhai a osodasent yn ymyl Gibea. º

37A’r cynllwynwyr a frysiasant, ac a ruthrasant ar Gibea: a’r cynllwynwyr a utganasant yn hirllaes, ac a drawsant yr holl ddinas â min y cleddyf. º

38Ac yr oedd amser nodedig rhwng gwŷr Israel a’r cynllwynwyr; sef peri ohonynt i fflam fawr a mwg ddyrchafu o’r ddinas. º

39A phan drodd gwŷr Israel eu cefnau yn y rhyfel, Benjamin a ddechreuodd daro yn archolledig o wŷr Israel ynghylch dengwr ar hugain: c nys dywedasant, Diau gan daro eu taro hwynt o’n blaen ni, fel yn y cyntaf. º

40A phan ddechreuodd y fflam ddyr¬chafu o’r ddinas a cholofn o fwg, Benjamin a edrychodd yn ei ôl; ac wele fflam y ddinas yn dyrchafu i’r nefoedd. º

41Yna gwŷr Israel a-droesant drachefn; a gwŷr Benjamin a frawychasant: oher¬wydd hwy a ganfuant fod drwg wedi dyfod arnynt. º

42Am hynny hwy a droesant o flaen gwŷr Israel, tua ffordd yr anialwch; a’r gad a’u goddiweddodd hwynt: a’r rhai a ddaethai o’r dinasoedd, yr oeddynt yn eu difetha yn eu canol. º

43Felly yr amgylchynasant y Ben¬jaminiaid; erlidiasant hwynt, a sathrasant hwynt yn hawdd hyd yng nghyfer Gibea, tua chodiad haul. º

44A lladdwyd o Benjamin dair mil ar bymtheg o wŷr: y rhai hyn oll oedd wŷr nerthol. º

45A hwy a droesant, ac a ffoesant tua’r anialwch i graig Rimmon. A’r Israeliaid a loffasant ohonynt ar hyd y priffyrdd, bûm mil o wŷr: erlidiasant hefyd ar eu hôl hwynt hyd Gidom, ac a laddasant ohonynt ddwy fil o wŷr. º

46A’r rhai oll a gwympodd o Benjamin y dwthwn hwnnw, oedd bûm mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf: hwynt oll oedd wvr nerthol. º

47Eto chwe channwr a droesant, ac a ffoesant i’r anialwch i graig Rimmon, ac a arosasant yng nghraig Rimmon bedwar mis. º

48A gwŷr Israel a ddychwelasant ar feibion Benjamin, ac a’u trawsant hwy â min y cleddyf, yn ddyn o bob dinas, ac yn anifail, a pheth bynnag a gafwyd: yr holl ddinasoedd hefyd a’r a gafwyd, a losgasant hwy â thân.

← Llyfr y Barnwyr 19Read In The App, Free →Llyfr y Barnwyr 21 →

Study Llyfr y Barnwyr 20

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021