Llyfr y Barnwyr 18
1YN y dyddiau hynny nid oedd brenin; yn Israel: ac yn y dyddiau hynny llwyth y Daniaid oedd yn ceisio iddynt etifeddiaeth i drigo; canys ni syrthiasai iddynt hyd y dydd hwnnw etifeddiaeth ymysg llwythau Israel. º
2A meibion Dan a anfonasant o’u tyiwyth bump o wŷr o’u bro, gwŷr grymus, o Sora, ac o Estaol, i ysbïo’r wlad, ac i’w chwilio; ac a ddywedasant wrthynt, Ewch, chwiliwch y wlad. A phan ddaethant i fynydd Effraim i dŷ Mica, hwy a letyasant yno. º
3Pan oeddynt hwy wrth dy Mica, hwy a adnabuant lais y gŵr ieuanc y Lefiad; ac a droesant yno, ac a ddywedasant wrtho, Pwy a’th ddug di yma? a pheth yr ydwyt ti yn ei wneuthur yma? a pheth sydd i ti yroa? º
4Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fet, hyn ac fel hyn y gwnaeth Mica i mi; ac efe a’m cyflogodd i, a’i offeiriad ef ydwyf fi. º
5A hwy a ddywedasant wrtho ef, Ymgynghora, atolwg, a Duw, fel y gwypom a lwydda ein ffordd yr ydym ni yn rhodio arni. º
6A’r offeiriad a ddywedodd wrthynt, Ewch mewn heddwch: gerbron yr ARGLWYDD y mae eich ffordd chvn, yr hon a gerddwch. º
7Yna y pumwr a aethant ymaith, ac a ddaethant i Lais; ac a welsant y bobl oedd ynddi yn trigo mewn diogelwch, yn ôl arfer y Sidoniaid, yn llonydd ac yn ddiofal; ac nid oedd swyddwr yn y wlad, yr hwn a allai eu gyrru hwynt i gywilydd mewn dim: a phell oeddynt oddi wrth y Sidoniaid, ac heb negesau rhyngddynt a neb. º
8A hwy a ddaethant at eu brodyr i Sora ac Estaol. A’u brodyr a ddywedasant wrthynt, Beth a ddywedwch chwi? º
9Hwythau a ddywedasant, Cyfodwch, ac awn i fyny arnynt: canys gwelsom y wlad; ac wele, da iawn yw hi. Ai tewi yr ydych chwi? na ddiogwch fyned, i ddyfod i mewn i feddiannu’r wlad. º
10Pan eloch, chwi a ddeuwch at bobl ddiofal, a gwlad eang: canys Duw a’i rhoddodd hi yn eich llaw chwi: sef lle nid oes ynddo eisiau dim a’r y sydd ar y ddaear. º
11Ac fe aeth oddi yno, o dylwyth y Daniaid, o Sora ac o Estaol, chwe channwr, wedi ymwregysu ag arfau rhyfel. º
12A hwy a aethant i fyny, ac a wersyllasant yn Ciriathjearim, yn Jwda: am hynny y galwasant y fan honno Mahane-Dan, hyd y dydd hwn: wele, y mae o’r til ôl i Ciriathjearim. º
13A hwy a aethant oddi yno i fynydd Effraim, ac a ddaethant hyd dy Mica. º
14A’r pumwr, y rhai a aethent i Chwilio gwlad Lais, a lefarasant, ac a ddywedasant wrth eu brodyr, Oni wyddoch chwi fod yn y tai hyn effod a ther-affim, a delw gerfiedig, a thoddedig? gan hynny ystyriwch yn awr beth a wneloch. º
15A hwy a droesant tuag yno; ac a ddaethant hyd dy y gŵr leuanc y Lefiad, i dŷ Mica; ac a gyfarchasant well iddo. º
16A’r chwe channwr, y rhai oedd wedi eu gwregysu ag arfau rhyfel, oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, scf y rhai oedd o feibion Dan. º
17A’r pumwr, y rhai a aethent i chwilio’r wlad, a esgynasant, ac a aethant i mewn yno; ac a ddygasant ymaith y. ddelw gerfiedig, a’r effod, a’r teraffim, a’r ddelw doddedig: a’r offeiriad oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, gyda’r chwe channwr oedd wedi ymwregysu ag arfau rhyfel, º
18A’r rhai hyn a aethant i dŷ Mica, ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig, yr effod, a’r teraffim, a’r ddelw doddedig. Yna yr offeiriad a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei wneuthur? º
19Hwythau a ddywedasant wrtho, Taw a son; gosod dy law ar dy safn, a thyred gyda ni, a bydd i ni yn dad ac yn offeiriad; ai gwell i ti fod yn offeiriad i dŷ un gŵr, na’th fod yn offeiriad i lwyth ac i deulu yn Israel? º
20A da fu gan galon yr offeiriad; ac efe a gymerth yr effod, a’r teraffim, a’r ddelw gerfiedig, ac a aeth ymysg y bobl. º
21A hwy a droesant, ac a aethant ymaith; ac a osodasant y plant, a’r anifeiliaid, a’r clud, o’u blaen. º
22A phan oeddynt hwy ennyd oddi wrth dy Mica, y gwŷr oedd yn y tai wrth dy Mica a ymgasglasant, ac a erlidiasant feibion Dan. º
23A hwy a waeddasant ar feibion Dan. Hwythau a droesant eu hwynebau, ac a ddywedasant wrth Mica, Beth a ddarfu i ti, pan wyt yn dyfod a’r fath fintai? º
24Yntau a ddywedodd, Fy nuwiau, y rhai a wneuthum i, a ddygasoch chwi ymaith, a’r offeiriad, ac a aethoch i ffordd: a pheth sydd gennyf fi mwyach? a pha beth yw hyn a ddywedwch wrthyf, Beth a ddarfu i ti? º
25A meibion Dan a ddywedasant Wrtho, Na ad glywed dy lef yn ein mysg ni; rhag i wŷr dicllon ruthro arnul tl, a cholli ohonot dy einiocs, ac enuoes dy deulu. º
26A meibion Dan a aethant i’w ffordd. A phan welodd Mica ni hod hwy yn gryfach nag ef, etc a drodd, ac a ddychwelodd i’w dŷ. º
27A hwy a gymerasant y pethau a wnaethai Mica, a’r offeiriad oedd ganddo ef, ac a ddaethant i Lais, at bobl louydd a- diofal; ac a’u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a losgasant y ddinas â thân. º
28Ac nid oedd waredydd; canys pell oedd hi oddi wrth Sidon, ac nid oedd negesau rhyngddynt a neb; hefyd yr oedd hi yn y dyffryn oedd wrth Bethrehob: a hwy a adeiladasant ddinas, ac a drigasant ynddi. º
29A hwy a alwasant enw y ddinas Dan, yn ôl enw Dan eu tad, yr hwn a anesid i Israel: er hynny Lais oedd enw y ddinas ar y cyntaf. º
30A meibion Dan a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig: a Jonathan mab Gerson, mab Manasse, efe a’i feibion, fuant offeiriaid i lwyth Dan hyd ddydd caethgludiad y wlad. º
31A hwy a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig a wnaethai Mica, yr holl ddyddiau y bu ty DDUW yn Seilo.