Llyfr y Barnwyr 17
1A yr oedd gŵr o fynydd Effraim, a’i enw Mica. º
2Ac efe a ddywedodd wrth ei fam, Y mil a’r can sicl arian a dducpwyd oddi arnat, ac y rhegaist amdanynt, ac y dywedaist hefyd lle y clywais; wele yr arian gyda mi, myfi a’i cymerais. A dywedodd ei fam, Bendigedig fyddych, fy mab, gan yr ARGLWYDD. º
3A phan roddodd efe y mil a’r can sicl arian adref i’w fam, ei fam a ddywedodd Gan gysegru y cysegraswn yr arian i’r ARGLWYDD o’m llaw, i’m mab, i wneuthut delw gerfiedig a thoddedig: am hynny yn awr mi a’i rhoddaf eilwaith i ti. º
4Eto efe a dalodd yr arian i’w fam. A’i fam a gymerth ddau can sicl o arian ac a’u rhoddodd i’r toddydd; ac efe a’u gwnaeth yn ddelw gerfiedig, a thoddedig: hwy a fuant yn nhŷ Mica. º
5A chan y gŵr hwn Mica yr oedd ty duwiau; ac efe a wnaeth effod, a theraffim, ac a gysegrodd un o’i feibion i fod yn offeiriad iddo. º
6Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin. vii Israel; ond pob un a wnai yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun. º
7Ac yr oedd gŵr ieuanc o Bethlehem fwda, o dylwyth Jwda, a Lefiad oedd efe; xxx efe a ymdeithiai yno. º
8A’r gŵr a aeth allan o’r ddinas o Ucthlchcm Jwda i drigo pa te bynnag y caffai le: ac frfe a ddaeth i fynydd Effraim i dŷ Mica, yn ei ymdaith. º
9A Mica a ddywedodd wrtho, O ba le y daethost ti? Dywedodd yntau wrtho, Lefiad ydwyf o Bethlehem Jwda; a myned yr ydwyf i drigo lle caffwyf le. º
10A Mica a ddywedodd wrtho. Trig gyda mi, a bydd i mi yn dad ac yn offeiriad; a mi a roddaf i ti ddeg sicl o arian bob biwyddyn, a phar o ddillad, a’th luniaeth. Felly y Lefiad a aeth i mewn. º
11A’r Lefiad a fu fodlon i aros gyda’r gŵr; a’r gŵr iwane oedd iddo fel un o’i feibion. º
12A Mica a urddodd y Lefiad; a’r gŵr ieuanc fu yn offeiriad iddo, ac a fil yn nhŷ Mica. º
13Yna y dywedodd Mica, Yn awr y gwn y gwna yr ARGLWYDD ddaioni i mi; gan fod Lefiad gennyf yn offeiriad.