The Bible Software
Llyfr y Barnwyr · Beibl (1620)

Llyfr y Barnwyr 9

1Abimelech mab Jerwbbaal a aeth i Sichem, at frodyr ei fam, ac a ymddiddanodd â hwynt, ac a holl dylwyth ty tad ei fam, gan ddywedyd, º

2Dywedwch, atolwg, lle y clywo holl wŷr Sichem, Pa un orau i chwi, ai arglwyddiaethu arnoch o ddengwr a thrigain, sef holl feibion Jerwbbaal, ai arglwyddiaethu o un gŵr arnoch? cofiwch hefyd mai eich asgwrn a’ch cnawd chwi ydwyf fi. º

3A brodyr ei fam. a ddywedasant amdano ef, lle y clybu holl wŷr Sichem, yr holl eiriau hyn: a’u calonnau hwynt a drodd ar ôl Abimelech; canys dywed¬asant, Ein brawd ni yw efe. º

4A rhoddasant iddo ddeg a thrigain o arian o dy Baal-berith: ac Abimelech a gyflogodd â hwynt oferwyr gwamal, y rhai a aethant ar ei ôl ef. º

5Ac efe a ddaeth i dŷ ei dad i OfEra, ac a laddodd ei frodyr, meibion Jerwb¬baal, y rhai oedd ddengwr a thrigain, ar un garreg: ond Jotham, mab ieuangaf Jerwbbaal, a adawyd; canys efe a ymguddiasai. º

6A holl wŷr Sichem a holl dy Milo a ymgasglasant, ac a aethant, ac a urddasant Abimelech yn frenin, wrth ddyffryn y golofn yr hwn sydd yn Sichem. º

7A phan fynegasant hynny i Jotham, efe a aeth ac a safodd ar ben mynydd Garisim, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a waeddodd, dywedodd hefyd wrthynt, Gwrandewch arnaf fi, O wŷr Sichem, fel y gwrandawo Duw arnoch chwithau. º

8Y prennau gan fyned a aethant i eneinio brenin arnynt; a dywedasant wrth yr olewydden, Teyrnasa arnom ni. º

9Ond yr olewydden a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi a’m braster, a’r hwn trwof fi yr anrhydeddaM DDUW a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill? º

10A’r prennau a ddywedasant wrth y ffigysbren. Tyred di, teyrnasa arnom ni. º

11Ond y ffigysbren a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi a’m melystra, ac a’m fFrwyth da, ac a af fi i lywodraethu ar y prennau eraill? º

12Yna y prennau a ddywedasant wrth y winwydden. Tyred di, teyrnasa arnom ni. º

13A’r winwydden a ddywedodd wrthyni hwy, A ymadawaf fi a’m melyswin, yr hwn sydd yn llawenhau Duw a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill? º

14Yna yr holl brennau a ddywedasant wrth y fiaren. Tyred di, teyrnasa arnom ni. º

15A’r fiaren a ddywedodd wrth y prennau, Os mewn gwirionedd yr en- einiwch fi yn frenin arnoch, deuwch ac ymddiriedwch yn fy nghysgod i: ac onid e, eled tan allan o’r fiaren, ac ysed gedrwydd Libanus. º

16Yn awr gan hynny, os mewn gwir¬ionedd a phurdeb y gwnaethoch, yn gosod Abimelech yn frenin, ac os gwnaethoch yn dda a Jerwbbaal, ac a’i dŷ, ac os yn ôl haeddedigaeth ei ddwylo y gwnaethoch iddo: º

17(Canys fy nhad a ymladdodd dros-och chwi, ac a anturiodd ei einioes ymhell, ac a’ch gwaredodd chwi o law Midian: º

18A chwithau a gyfodasoch yn erbyn ty fy nhad i heddiw, ac a laddasoch ei feibion ef, sef dengwr a thrigain, ar un garreg, ac a osodasoch Abimelech, mab ei lawforwyn ef, yn frenin ar wŷr Sichem, oherwydd ei fod ef yn frawd i chwi:) º

19Gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch a Jerwbbaal, ac a’i dy ef, y dydd hwn, llawenychwch yn Abimelech, a llawenyched yntau ynoch chwithau: º

20Ac onid e, eled tan allan o Abi¬melech, ac ysed wŷr Sichem, a thŷ Milo; hefyd eled tan allan o wŷr Sichem, ac o dy Milo, ac ysed Abimelech. º

21A Jotham a giliodd, ac a ffodd, ac a aeth ymaith i Beer, ac a drigodd yno, rhag ofn Abimelech ei frawd. º

22Ac Abimelech a deyrnasodd ar Israel dair blynedd.:. º

23A Duw a ddanfonodd ysbryd drwg rhwng Abimelech a gwŷr Sichem; a gwŷr Sichem a aethant yn anghywir i Abimelech: º

24Fel y delai y traha a wnaethid a deng mab a thrigain Jerwbbaal, ac y gosodid eu gwaed hwynt ar Abimelech eu brawd, yr hwn a’u lladdodd hwynt: ac ar wŷr Sichem, y rhai a’i cynorthwyasant ef i ladd ei frodyr.; º

25A gwŷr Sichem a osodasant iddo ef gynllwynwyr ar ben y mynyddoedd; a hwy a ysbeiliasant bawb a’r a oedd yn tramwy heibio iddynt ar hyd y ffordd. A mynegwyd hynny i Abimelech. º

26A Gaal mab Ebed a ddaeth, efe a’i frodyr, ac a aethant drosodd i Sichem: a gwŷr Sichem a roesant eu hyder arno. º

27A hwy a aethant i’r meysydd, ac a gasglasant eu gwinllannoedd, ac a sangasant eu grawnwin, ac a wnaethant yn Mawen, ac a aethant i mewn i dŷ eu duw, ac a fwytasant ac a yfasant, ac a felltithiasant Abimelech. º

28A Gaal mab Ebed a ddywedodd, Pwy yw Abimelech, a phwy yw Sichem, fel y gwasanaethem ef? onid mab Je-twbbaal yw efe? onid Sebul yw ei swyddog? gwasanaethwchwyr Hemor tad Sichem: canys paham y gwasanaethem. ni ef? º

29O na byddai y bobl hyn. dan fy llaw i, fel y bwriwn ymaith Abimelech! Ac efe a ddywedodd wrth Abimelech, Amlha dy lu, a thyred allan. º

30A phan glybu Sebul, llywod-raethwr y ddinas, eiriau Gaal mab Ebed, y llidiodd ei ddicllonedd ef. º

31Ac efe a anfonodd genhadau at Abimelech yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele Gaal mab Ebed a’i frodyr wedi dyfod i Sichem; ac wele hwynt yn cadarnhau y ddinas i’th erbyn. º

32Gan hynny cyfod yn awr liw nos, ti a’r bobl sydd gyda thi, a chynllwyn yn y maes: º

33A chyfod yn fore ar godiad yr haul, a rhuthra yn erbya y ddmas: ac wele, pan ddelo efe a’r bobl sydd gydag ef allan i’th erbyn, yna gwna iddo yr hyn a eilych. º

34Ac Abimelech a gyfododd, a’r toll bobl y rbai oedd gydag ef, liw nos, ac a gynllwynasant yn erbyn Sichem yn hedair byddin. º

35A Gaal mab Ebed a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws porth y ddinas: ac Abimelech a gyfododd, a’r bobl y rhai oedd gydag ef, o’r cynllwyn. º

36A phan welodd Gaal y bobl, efe a ddywedodd wrth Sebul, Wele bobl yn dyfod i waered o ben y mynyddoedd. A dywedodd Sebul wrtho, Cysgod y mynyddoedd yr ydwyt ti yn ei weled fel dynion. º

37A Gaal a chwanegodd eto lefaru, ac a ddywedodd, Wele bobl yn dyfod i waersd o ganol y tir, a byddin arall yn dyfod o ffordd gwastadedd Meonenirn. º

38Yna y dywedodd Sebul wrtho ef, Pa le yn awr y mae dy enau di, a’r hwn y dywedaist, Pwy yw Abimelech, pan wasanaethem ef? onid dyma’r bobl a ddirmygaist ti? dos allan, atolwg, yn awr, ac ymladd i’w herbyn. º

39A Gaal a aeth allan o flaen gwŷr Sichem, ac a ymladdodd ag Abimelech. º

40Ac Abimelech a’i herlidiodd ef, ac efe a ffodd o’i flaen ef; a llawer a gwympasant yn archolledig hyd ddrws y porth. º

41Ac Abimelech a drigodd yn Aruma: a Sebul a yrrodd ymaith Gaal a’i frodyr o breswylio yn Sichem. º

42A thrannoeth y daeth y bobl allan i’s maes: a mynegwyd hynny i Abim¬elech. º

43Ac efe a gymerth y bobl, ac a’u rhannodd yn dair byddin, ac a gynllwynodd yn y maes, ac a edrychodd, ac wele y bobl wedi dyfod allan o’r ddinas; ac efe a gyfododd yn eu herbyn, ac a’u trawodd hwynt. º

44Ac Abimelech, a’r fyddin oedd gydag ef, a ruthrasant, ac a safasant wrth ddrws porth y ddinas: a’r ddwy fyddin eraill a ruthrasant as yr holl rai <?edd yn y maes, ac a’u trawsant hwy. º

45Ac Abimelech a ymladdodd yn. erbyn y ddinas yr holl ddiwrnod hwnnw: ac efe a enillodd y ddinas, ac a laddodd y bobl oedd ynddi, ac a ddistrywiodd y ddinas, ac a’i heuodd â halen. º

46A phan glybu holl wŷr twr Sichem hynny, hwy a aethant i amddiifynfa tv duw Berith. º

47A mynegwyd i Abimelech, ymgasglu o holl wŷr twr Sichem. º

48Ac Abim;lech a aeth i fyny i fynydd Salmon, efe a’r holl bobl oedd gydag ef: ac Abimelech a gymerth fwyell yn ei law, ac a dorrodd gangen o’r coed, ac a’i cymerth hi, ac a’i gosododd ar ei ysg-wydd; ac a ddywedodd wrth y bobl oedd gydag ef, Yr hyn a welsoch fi yn ei wneuthur, brysiwch, gwnewch fel finnau. º

49A’r holl bobl a dorasant bob un ei gangen, ac a aethant ar ôl Abimelech; ac a’u gosodasant wrth yr amddiffynfa, ac a losgasant a hwynt yr amddiffynfa a than: felly holl wŷr twr Sichem a fuant feirw, ynghylch mil o wŷr a gwragedd. º

50Yna Abimelech a aeth i Thebes, ac a wersyllodd yn erbyn Thebes, ac a’i heniilodd hi. º

51Ac yr oedd twr cadarn yng nghanol y ddinas; a’r holl wŷr a’r gwragedd, a’r holl rai o’r ddinas, a ffoesant yno, ac a gaeasant arnynt, ac a ddrmgasant ar nen y twr. º

52Ac Abimelech a ddaeth at y twr, ac a ymiaddodd yn ei erbyn; ac a nesaodd at ddrws y twr, i’w losgi ef â thân. º

53A rhyw wraig a daflodd ddarn o. faen mehn ar ben Abimelech, ac a ddrylliodd ei benglog ef. º

54Yna efe a alwodd yn fuan ar y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, ac a ddywedodd wrtho, Tyn dy gleddyf, a lladd fi; fel na ddywedant amdanaf, Gwraig a’i lladdodd ef. A’i lane a’i trywanodd ef, ac efe a fu farw. º

55A phan welodd gwŷr Israel farw o Abimelech, hwy a aethant bob un i’w fangre. º

56Felly y talodd Duw ddrygioni Abimelech, yr hwn a wnaethai efe i’w dad, gan ladd ei ddeg brawd a thrigain. º

57A holl ddrygioni gwŷr Sichem a dalodd Duw ar eu pen hwynt: a melltith Jotham mab Jerubbaal a ddaeth arnynt hwy.

← Llyfr y Barnwyr 8Read In The App, Free →Llyfr y Barnwyr 10 →

Study Llyfr y Barnwyr 9

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021