Llyfr y Barnwyr 1
1a Dan. Ac wedi marw Josua, meibion Israel a ymofynasant â’r Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a â i fynu drosom ni yn erbyn y Canaaneaid yn flaenaf, i ymladd â hwynt?
2A dywedodd yr Arglwydd, Judah a â i fynu: wele, rhoddais y wlad yn ei law ef.
3A Judah a ddywedodd wrth Simeon ei frawd, Tyred i fynu gyd â mi i’m rhandir, fel yr ymladdom yn erbyn y Canaaneaid; a minnau a âf gyd â thi i’th randir dithau. Felly Simeon a aeth gyd âg ef.
4A Judah a aeth i fynu; a’r Arglwydd a roddodd y Canaaneaid a’r Phereziaid yn eu llaw hwynt: a lladdasant o honynt, yn Bezec, ddengmil o wŷr.
5A hwy a gawsant Adoni-bezec yn Bezec: ac a ymladdasant yn ei erbyn; ac a laddasant y Canaaneaid a’r Phereziaid.
6Ond Adoni-bezec a ffodd; a hwy a erlidiasant ar ei ol ef, ac a’i daliasant ef, ac a dorrasant fodiau ei ddwylaw ef a’i draed.
7Ac Adoni-bezec a ddywedodd, Deg a thri ugain o frenhinoedd, wedi torri bodiau eu dwylaw a’u traed, a fu yn casglu eu bwyd dan fy mwrdd i: fel y gwneuthum, felly y talodd Duw i mi. A hwy a’i dygasant ef i Jerusalem; ac efe a fu farw yno.
8A meibion Judah a ymladdasant yn erbyn Jerusalem; ac a’i hennillasant hi, ac a’i tarawsant â min y cleddyf; a llosgasant y ddinas â thân.
9¶ Wedi hynny meibion Judah a aethant i waered i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn y mynydd, ac yn y dehau, ac yn y gwastadedd.
10A Judah a aeth yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn Hebron: (ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer-Arba:) a hwy a laddasant Sesai, ac Ahiman, a Thalmai.
11Ac efe a aeth oddi yno at drigolion Debir: (ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath-sepher:)
12A dywedodd Caleb, Yr hwn a darawo Ciriath-sepher, ac a’i hennillo hi, mi a roddaf Achsah fy merch yn wraig iddo.
13Ac Othniel mab Cenaz, brawd Caleb, ieuangach nag ef, a’i hennillodd hi. Yntau a roddes Achsah ei ferch yn wraig iddo.
14A phan ddaeth hi i mewn atto ef, hi a’i hannogodd ef i geisio gan ei thad ryw faes: a hi a ddisgynodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?
15A hi a ddywedodd wrtho, Dyro i mi fendith: canys gwlad y dehau a roddaist i mi; dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. A Caleb a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf.
16¶ A meibion Ceni, chwegrwn Moses, a aethant i fynu o ddinas y palmwydd gyd â meibion Judah, i anialwch Judah, yr hwn sydd yn nehau Arad: a hwy a aethant ac a drigasant gyd â’r bobl.
17A Judah a aeth gyd â Simeon ei frawd: a hwy a darawsant y Canaaneaid oedd yn preswylio yn Sephath, ac a’i difrodasant hi. Ac efe a alwodd enw y ddinas Hormah.
18Judah hefyd a ennillodd Gazah a’i therfynau, ac Ascalon a’i therfynau, ac Ecron a’i therfynau.
19A’r Arglwydd oedd gyd â Judah; ac efe a oresgynodd y mynydd: ond ni allai efe yrru allan drigolion y dyffryn; canys cerbydau heiyrn oedd ganddynt.
20Ac i Caleb y rhoisant Hebron; fel y llefarasai Moses: ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac.
21Ond meibion Benjamin ni yrrasant allan y Jebusiaid y rhai oedd yn preswylio yn Jerusalem: ond y mae y Jebusiaid yn trigo yn Jerusalem gyd â meibion Benjamin hyd y dydd hwn.
22¶ A thŷ Joseph, hwythau hefyd a aethant i fynu yn erbyn Bethel: a’r Arglwydd oedd gyd â hwynt.
23A thylwyth Joseff a barasant chwilio Bethel; (ac enw y ddinas o’r blaen oedd Lus.)
24A’r ysbïwyr a welsant ŵr yn dyfod allan o’r ddinas; ac a ddywedasanf wrtho, Dangos i ni, atolwg, y ffordd yr eir i’r ddinas, a ni a wnawn drugaredd â thi.
25A phan ddangosodd efe iddynt hwy y ffordd i fyned i’r ddinas, hwy a drawsant y ddinas â min y cleddyf; ac a ollyngasant ymaith y gŵr a’i holl deulu.
26A’r gŵr a aeth i wlad yr Hethiaid; ac a adeiladodd ddinas, ac a alwodd ei henw Lus: dyma ei henw hi hyd y dydd hwn.
27Ond ni oresgynnodd Manasse Beth-sean na’i threfydd, na Thaanach na’i threfydd, na thrigolion Dor na’i threfydd, na thrigolion Ibleam na’i threfydd, na thrigolion Megido na’i threfydd: eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.
28Ond pan gryfhaodd Israel, yna efe a osododd y Canaaneaid dan dreth; ond nis gyrrodd hwynt ymaith yn llwyr.
29Effraim hefyd ni yrrodd allan y Canaaneaid oedd yn gwladychu yn Geser; eithr y Canaaneaid a breswyliasant yn eu mysg hwynt yn Geser.
30A Sabulon ni yrrodd ymaith drigolion Citron, na phreswylwyr Nahalol; eithr y Canaaneaid a wladychasant yn eu mysg hwynt, ac a aethant dan dreth.
31Ac Aser ni yrrodd ymaith drigol¬ion Acco, na thrigolion Sidon, nac Alab, nac Achsib, na Helba, nac Affic, na Rehob:
32Ond Aser a drigodd ymysg y Canaaneaid, trigolion y wlad; canys ni yrasant hwynt allan.
33A Nafftali ni yrrodd allan breswylwyr Beth-semes, na thrigolion Beth-anath; eithr efe a wladychodd ymysg y Canaaneaid, trigolion y wlad: er hynny preswylwyr Beth-semes a Beth-anath oedd dan dreth iddynt.
34A’r Amoriaid a yrasant feibion Dan i’r mynydd: canys ni adawsant iddynt ddyfod i waered i’r dyffryn.
35A’r Amoriaid a fynnai breswylio ym mynydd Heres yn Ajalon, ac yn Saalbim: eto llaw tŷ Joseff a orthrechodd, a’r Amoriaid fuant dan dreth iddynt.
36A therfyn yr Amoriaid oedd o riw Acrabbim, o’r graig, ac uchod.