The Bible Software
Llyfr y Barnwyr · Beibl (1620)

Llyfr y Barnwyr 11

1Ajefftha y Gileadiad oedd ŵr cadarn nerthol, ac efe oedd fab i wraig o buteinwraig: a Gilead a genedlasai y Jefftha hwnnw. º

2A gwraig Gilead a ymddug iddo feibion: a meibion y wraig a gynyddasant, ac a fwriasant ymaith Jefftha, ac a ddywedasant wrtho, Nid etifeddi di yn ahy ein tad ni; canys mab gwraig ddieithr ydwyt ti. º

3Yna Jefftha a ffodd rhag ei frodyra ac a drigodd yng ngwlad Tob; a dynion ofer a ymgasglasant at Jefftha, ac a aethant allan gydag ef. - º

4I Ac wedi tahn o ddyddiau, meibion Ammon a ryfelasant yn erbyn Israel. º

5A phan oedd meibion Ainmon yn rhyfela yn erbyn Israel, yna henuriaid Gilead a aethant i gyrchu Jefftha o wlad Tob: º

6Ac a ddywedasant wrth Jefftha, Tyred a bydd yn dywysog i ni, fel "yr ymladdom yn erbyn meibion Ammon. º

7A Jefftha a ddywedodd wrth henuriaid Gilead, Oni chasasoch chwi fi, ac a’m.gyrasoch o dy fy nhad? a phaham y deuwch ataf fi yn awr, pan yw gyfyng arnoch? º

8A henuriaid Gilead a ddywedasant "wrth Jefftha, Am hynny y dychwelasom yn awr atat ti, fel y delit gyda ni, ac yr ymladdit yn erbyn meibion Ammon, ac y byddit i ni yn ben ar holl drigolion Gilead. º

9A Jefftha a ddywedodd wrth henur¬iaid Gilead, O dygwch fi yn fy ôl i ymladd yn erbyn meibion Ammon, a rhoddi o’r ARGLWYDD hwynt o’m blaen i, a gaf fi fod yn ben arnoch chwi? º

10A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jefftha, Yr ARGLWYDD a fyddo yn dyst rhyngom ni, oni wnawn ni felly yn ôl dy air di. º

11Yna Jefftha a aeth gyda henuriaid Gilead; a’r bobl a’i gosodasant ef yn ben ac yn dywysog arnynt: a Jefftha a adroddodd ei holl eiriau gerbron yr ARGLWYDD ym Mispa. º

12A Jefftha a anfonodd gen hadau at frenin meibion Ammon, gan ddywedyd, Beth sydd i ti a wnelych a mi, fel y delit yn fy erbyn i ymladd yn fy ngwlad i? º

13A brenin meibion Ammon a ddy¬wedodd wrth genhadau Jefftha, Oherwydd i Israel ddwyn fy ngwlad i pan ddaeth i fyny o’r Aifft, o Arnon hyd Jabboc, a hyd yr Iorddonen: yn awr gan hynny dod hwynt adref mcwn heddwch. º

14A Jefftha a anfonodd drachefn genhadau at frenin meibion Ammon; º

15Ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Jefftha; Ni ddug Israel dir Moab, na thir meibion Ammon: º

16Ond pan ddaeth Israel i fyny o’r Aifft, a rhodio trwy’r anialwch, hyd y môr coch, a dyfod i Cades; º

17Yna Israel a anfonodd genhadau at frenin Edom, gan ddywedyd. Gad i mi dramwy, atolwg, trwy dy wlad di. Ond ni wrandawodd brenin Edom. A hwy a anfonasant hefyd at frenin Moab: ond ni fynnai yntau. Felly Israel a arhosodd yn Cades.. º

18Yna hwy a gerddasant yn yr anial¬wch, ac a amgylchynasant wlad Edom, a gwlad Moab; ac a ddaethant o du codiad haul i wlad Moab, ac a wersyllasant tu hwnt i Arnon; ac ni ddaethant o fewn terfyn Moab: canys Arnon oedd derfyn Moab. º

19Ac Israel a anfonodd genhadau at Sehon brenin yr Amoriaid, brenin Hesbon; ac Israel a ddywedodd wrtho, Gad i ni dramwy, atolwg, trwy dy wlad di, hyd fy mangre. º

20Ond nid ymddiriedodd Sehon i Israel fyned trwy ei derfyn ef: eithr Sehon a gasglodd ei holl bobl, a hwy a wersyllasant yn Jahas, ac efe a ymladdodd yn erbyn Israel. º

21Ac ARGLWYDD DDUW Israel a roddodd Sehon a’i holl bobl yn llaw Israel; a hwy a’u trawsant hwynt. Felly Israel a feddiannodd holl wlad yr Amor- iaid, trigolion y wlad honno. º

22Meddianasant hefyd holl derfynau yr Amoriaid, o Arnon hyd Jabboc, ac o’r anialwch hyd yr Iorddonen. º

23Felly yn awr, ARGLWYDD DDUW ‘Israel a fwriodd yr Amoriaid allan o flaen ei bobl Israel: gan hynny ai tydi a’i meddiannit hi? º

24Oni feddienni di yr hyn a roddo Cemos dy dduw i ti i’w feddiannu? Felly yr hyn oll a oresgynno yr ARGLWYDD ein Duw o’n blaen ni a feddiannwn ninnau. º

25Ac yn awr, a wyt ti yn well na Balac mab Sippor, brenin Moab? a ymrysonodd efe erioed ag Israel, neu gan ymladd â ymladdodd efe i’w herbyn hwy? º

26Pan oedd Israel yn trigo yn Hesbon a’i threfydd, ac yn Aroer a’i threfydd, ac yn yr holl ddinasoedd y hai sydd wrth derfynau Arnon, dri chan mlynedd; paham nad achubasoch- hwynt y pryd hwnnw? º

27Am hynny ni phechais i yn dy erbyn di; ond yr ydwyt ti yn gwneuthur i-am a mi, gan ymladd yn fy erbyn i; yr ARGLWYDD Farnwr a farno heddiw rhwng meibion Israel a meibion Ammon. º

28Er hynny ni wrandawodd brenin meibion Ammon ar eiriau Jefftha, y rhai a anfonodd efe ato. º

29Yna y daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Jefftha; ac efe a aeth dros Gilead a Manasse; ac a aeth dros Mispa Gilead, ac o Mispa Gilead yr aeth efe drosodd at feibion Ammon. º

30A Jefftha a addunedodd adduned i’r ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Os gan roddi y rhoddi di feibion Ammon yn fy llaw i; º

31Yna yr hwn a ddelo allan o ddrysau fy nhŷ i’m cyfarfod, pan ddychwelwyf mewn heddwch oddi wrth feibion Ammon, a fydd eiddo yr ARGLWYDD, a mi a’i hoffrymaf ef yn boethoffrwm. º

32Felly Jefftha a aeth drosodd at leibion Ammon i ymladd yn eu herbyn, a’r ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn ei law ef. º

33Ac efe a’u trawodd hwynt o Aroer hyd oni ddelych di i Minnith, sef ugain d mas, a hyd wastadedd y gwinllannoedd,.’i lladdfa fawr iawn. Felly y darostyng-wyd meibion Ammon o flaen meibion Israel. º

34A Jefftha a ddaeth i Mispa i’w dy ei hun: ac wele ei ferch yn dyfod allan i’w gyfarfod âthympanau, ac a dawnsiau’; a hi oedd ei unig etifedd ef; nid oedd ganddo na mab na merch ond hyhi. º

35A phan welodd efe hi, efe a rwygodd ei ddillad, ac ddywedodd. Ah! ah! fy inerch, gan ddarostwng y darostyngaist li, ti hefyd wyt un o’r rhai sydd yn fy inolestu: canys myfi a agorais fy ngenau wrth yr ARGLWYDD, ac ni allaf gilio. º

36A hi a ddywedodd wrtho, Fy nhad, od agoraist dy enau wrth yr ARGLWYDD, Kwna i mi yn ôl yr hyn a aeth allan o’th enau; gan i’r ARGLWYBD wneuthur drosot ti ddialedd ar dy dynion, meibion Ammon. º

37Hi a ddywedodd hefyd wrth ei thad, Gwneler i mi y peth hyn; paid a mi ddau fis, fel yr elwyf i fyny ac i waered ar y mynyddoedd, ac yr wylwyf oherwydd fy morwyndod, mi a’m cyfeillesau. º

38Ac efe a ddywedodd, DOS. Ac efe a’i gollyngodd hi dros ddau fis. A hi a aeth a’i chyfeillesau, ac a wylodd oherwydd ei morwyndod ar y mynyddoedd. º

39Ac ymhen y ddau fis hi a ddychwelodd at ei thad: ac efe a wnaeth a hi yr adduned a addunasai efe: a hi ni adna-buasai ŵr. A bu hyn yn ddefod yn Israel, º

40Fyned o ferched Israel bob biwydd-yn i alaru am ferch Jefftha y Gileadiad, bedwar diwrnod yn y flwyddyn.

← Llyfr y Barnwyr 10Read In The App, Free →Llyfr y Barnwyr 12 →

Study Llyfr y Barnwyr 11

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021