The Bible Software
Llyfr y Barnwyr · Beibl (1620)

Llyfr y Barnwyr 21

1AgwŶR Israel a dyngasant ym Mispa, gan ddywedyd, Ni ddyry neb ohon-om ei ferch i Benjaminiad yn wraig. º

2A daeth y bobl i dŷ DDUW, ac a arosasant yno hyd yr hwyr gcrbron Duw, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wyl.isant ag wylofain mawr: º

3Ac a ddywedasant, O ARGLWYDD DDUW Israel, paham y bu y pclh hyn yn Israel, fel y byddai heddiw un llwylh yn eisiau yn Israel? º

4A thrannoeth y bobl a foregodasant, ac a adeiladasant yno allor, ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd. º

5A meibion Israel a ddywedasant, Pwy o holl lwythau Israel ni ddaeth i fyny gyda’r gynulleidfa at yr ARGLWYDD? canys llw mawr oedd yn erbyn yr hwn ni ddelsai i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa, gan ddywedyd, Rhoddir ef i farwolaeth yn ddiau. º

6A meibion Israel a edifarhasant o-herwydd Benjamin eu brawd: a dywed¬asant, Torrwyd ymaith heddiw un llwyth o Israel: º

7Beth a wnawn ni am wragedd i’r rhai a adawyd, gan dyngu ohonom ni i’r ARGLWYDD, na roddem iddynt yr un o’n merched ni yn wragedd? º

8Dywedasant hefyd. Pa un o lwythau Israel ni ddaeth i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa? Ac wele, ni ddaethai neb o Jabes Gilead i’r gwersyll, at y gynull¬eidfa. º

9Canys y bobl a gyfrifwyd; ac wele, nid oedd yno neb o drigolion Jabes Gilead. º

10A’r gynulleidfa a anfonasant yno ddeuddeng mil o wŷr grymus; ac a’ orchmynasant iddynt, gan ddywedyd, Ewch a threwch breswylwyr Jabes Gilead. â min y cleddyf, y gwragedd hefyd a’r plant. º

11Dyma hefyd y peth a wnewch chwi: Difethwch bob gwryw, a phob gwraig a orweddodd gyda gŵr. º

12A hwy a gawsant ymhiith trigolion Jabes Gilead, bedwar cant o lancesau yn w ryfon, y rhai nid adnabuasent ŵr trwy gydorwedd â gŵr: a dygasant hwynt i’r gwersyll i Seilo, yr hon sydd yng ngwlad Canaan. º

13A’r holl gynulleidfa a anfonasant i lefaru wrth feibion Benjamin, y rhai oedd yng nghraig Rimmon, ac i gyhoeddi heddwch iddynt. º

14A’r Benjaminiaid a ddychwelasant yr amser hwnnw; a hwy a roddasant iddynt hwy y gwragedd a gadwasent yn fyw o wragedd Jabes Gilead: ond ni chawsant hwy ddigon felly. º

15A’r bobl a edifarhaodd dros Ben¬jamin, oherwydd i’r ARGLWYDD wneuthur rhwygiad yn llwythau Israel. º

16Yna henuriaid y gynulleidfa a ddywedasant, Beth a wnawn ni am wragedd i’r lleill, gan ddistrywio y gwragedd o Benjamin? º

17Dywedasant hefyd, Rhaid yw bod etifeddiaeth i’r rhai a ddihangodd o Benjamin, fel na ddileer llwyth allan o Israel. º

18Ac ni allwn ni roddi iddynt wragedd o’n merched ni: canys meibion Israel a dyngasant, gan ddywedyd, Melkigedig ‘ fyddo yr hwn a roddo wraig i Benjamin. º

19Yna y dywedasant, Wele, y mae gwyl i’r ARGLWYDD bob biwyddyn yn Seilo, o du y gogledd i Bethel, tua chyfodiad haul i’r brinbrdd y sydd yn myned i fyny o Bethel i Sichem, ac o du y deau i Libanus. º

20Am hynny y gorchmynasant hwy i feibion Benjamin, gan ddywedyd, Ewch a chynllwynwch yn y gwinllannoedd: º

21Edrychwch hefyd; ac wele, os merched Seilo a ddaw allan i ddawnsio mewn dawnsiau; yna deuwch chwithau allan o’r gwinllannoedd, a chipiwch i chwi bob un ei wraig o ferched Seilo, ac ewch i wlad Benjamin. º

22A phan ddelo eu tadau neu eu brodyr hwynt i achwyn atom ni, yna y dywedwn wrthynt, Byddwch dda iddynt er ein mwyn ni; oblegid na chadwasom i bob un ei wraig yn y rhyfel: o achos na roddasoch chwi hwynt iddynt y pryd hwn, ni byddwch chwi euog. º

23A meibion Benjamin a wnaethant / felly; a chymerasant wragedd yn ôl eu rhifedi, o’r rhai a gipiasent, ac a oeddynt yn dawnsio: a hwy a aethant ymaith, a dychwelasant i’w hetifeddiaeth, ac a ad-gyweiriasant y dinasoedd, ac a drigasant ynddynt. º

24A meibion Israel a ymadawsant oddi yno y pryd hwnnw, bob un at ei. lwyth, ac at ei deulu; ac a aethant oddi -" yno bob un i’w etifeddiaeth. º

25Yn y dy ddiau hynny nid oedd brenin yn Israel: pob un a wnai yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun.

← Llyfr y Barnwyr 20Read In The App, Free →Ruth 1 →

Study Llyfr y Barnwyr 21

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021